Skip to content

Datganiad Llafar ar Rôl Llyfrgelloedd ac Archifau wrth Hyrwyddo Cynhwysiant Cymdeithasol a Dysgu Gydol Oes

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg
Bydd y datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gyfraniad y sector llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru at hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes, ac yn benodol am ddau gyhoeddiad pwysig a lansiwyd gan y sector hwn yn ddiweddar. Mae’r cyntaf yn llyfryn a gynhyrchwyd gan Gymdeithas y Prif Lyfrgellwyr, sydd wedi’i anelu at wleidyddion ac sy’n tynnu sylw at y gwasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd cyhoeddus a’u cyfraniad at flaenoriaethau’r Cynulliad. Yr ail yw strategaeth llyfrgelloedd a dysgu gydol oes Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth, sy’n pwysleisio ei ymrwymiad i weithio ym mhob math o lyfrgell i gynorthwyo a hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Bydd Aelodau’n derbyn copïau cyn hir.

Ac yntau wedi sicrhau cynnydd buan mewn amryw o gyfeiriadau, mae’r sector llyfrgelloedd ac archifau’n adnodd cyffredinol unigryw sydd mewn sefyllfa dda i weithio gyda’r Cynulliad i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Mae llyfrgelloedd yn hybu bywiogrwydd economaidd, cymunedol a diwylliannol. Hwy yw un o’r ychydig wasanaethau sy’n gallu darparu cyfleoedd dysgu gydol oes, a chanddynt brosiectau sy’n amrywio o waith maes, fel Dechrau Da, i Silver Surfers, sef y clybiau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i hen bensiynwyr. Mae’r archifdai lleol yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau rhyddid gwybodaeth a bod llywodraeth leol yn agored, gan ddarparu cipolwg unigryw ar hanes pobl a chymunedau.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cyfrannu’n benodol at ddysgu, gan gyfuno swyddogaethau llyfrgell, amgueddfa, sefydliad academaidd, cadwrfa cofnodion cyhoeddus a chanolfan dysgu. Mae’n datblygu gwasanaethau addysgol diriaethol a rhithwir, gan gynnwys canolfan ymwelwyr newydd, i ddiwallu anghenion myfyrwyr ysgol a choleg a dysgwyr gydol oes ac i hybu mwy o ddefnydd o gasgliadau’r llyfrgell gan sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae’r llyfrgell genedlaethol yn chwarae rhan flaenllaw hefyd wrth gyfrannu at Cymru Ar-lein drwy ddatblygu’r sgiliau technegol diweddaraf, drwy ddatblygu cyfarwyddiadur electronig o wefannau Cymreig a gwefannau o ddiddordeb Cymreig a thrwy weithio gyda’i phartneriaid i hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol.

Mae arian wedi’i ddarparu, drwy’r gronfa cyfleoedd newydd, i roi Rhwydwaith TGCh y Bobl ar waith. Bydd hwnnw’n peri i’r holl lyfrgelloedd cyhoeddus fod ar-lein, hyd y bo’n ymarferol, erbyn diwedd 2002 i ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd a gwasanaethau TGCh eraill. Yn wahanol i rai awdurdodau yn y DU, nid oes un awdurdod yng Nghymru yn bwriadu codi tâl am y gwasanaeth hwn. Mae rhwydwaith y bobl yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru ddod yn e-ddinasyddion, gan ymwneud yn rhyngweithiol â llywodraeth. Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn cael mynediad cyflym i’r rhyngrwyd hefyd gan y byddant yn rhan o’r rhwydwaith dysgu gydol oes band llydan i Gymru, ynghyd ag ysgolion a chanolfannau dysgu TGCh eraill. Mae’r gwasanaethau TGCh am ddim a gynigir mewn llyfrgelloedd yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae menter rhwydwaith y bobl hefyd yn ychwanegu at y deunydd electronig sydd ar gael fel y gellir defnyddio’r mynediad arlein yn llawn ac yn greadigol. Mae’n bwysig bod manylion am ddiwylliant a chymdeithas Cymru—yn y presennol a’r gorffennol—a gwybodaeth gymunedol, yn electronig hygyrch. Mae hynny’n bwysig er mwyn cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes ac yn hanfodol ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol, yn enwedig er mwyn denu ymwelwyr rhyngwladol.

Mae chwe phrosiect mawr a leolir yng Nghymru â’u gwreiddiau yn y sector llyfrgelloedd ac archifau. Yn eu plith y mae ‘Casglu’r Tlysau’, sy’n cynnull, mewn un safle electronig ar y we fyd-eang, gasgliad anferth o ddelweddau a thestunau sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau ac archifdai ledled Cymru. Mae’r prosiectau hyn yn arloesi, wrth ddatblygu arbenigedd mewn digideiddio a rheoli cynnwys electronig dwyieithog o ansawdd da. Mae hyn yn gwella sgiliau TGCh Cymru a thrwy hynny ei mantais economaidd. Mae’n sail i brosiectau digideiddio diwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad, yn enwedig Diwylliant Cymru Ar-lein, sef rhwydwaith o wasanaethau diwylliannol TGCh i Gymru gyfan. Mae’r sector llyfrgelloedd ac archifau’n chwarae rhan flaenllaw yn ei ddatblygiad. Bydd y deunydd diwylliannol electronig sy’n parhau i gynyddu ar gael i bawb sy’n dysgu, a bydd ysgolion yn gallu ei ddefnyddio fel rhan o’r grid cenedlaethol ar gyfer dysgu. Bydd yn cyrraedd cymunedau ledled Cymru. Bydd rhan sylweddol ohoni’n parhau i gael ei chynhyrchu a’i rheoli gan y sector llyfrgelloedd ac archifau.

Yn ogystal â hwyluso mynediad at ddeunydd drwy ddigideiddio cynnwys, mae angen cofnod cynhwysfawr, chwiliadwy, ar-lein o’r holl adnoddau llyfrgellol yng Nghymru. Mae ymchwil yn mynd rhagddi i ganfod y ffactorau perthnasol. Mae’r ymchwil yn cwmpasu daliadau argraffedig holl lyfrgelloedd cyhoeddus a holl lyfrgelloedd sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru. Hon yw’r ymgais gyntaf i gynnal arolwg cynhwysfawr o’r adnoddau a ddarganfuwyd ym mhob sector llyfrgell yng Nghymru ac i argymell dulliau o wireddu’r weledigaeth derfynol—system neu systemau ar-lein a fyddai’n caniatáu i bob dinesydd ddarganfod adnoddau llyfrgell ledled y wlad yn rhwydd ac mewn amrantiad. Mae’r sector llyfrgelloedd yng Nghymru’n gweithio’n arloesol i ddatblygu dulliau o integreiddio’r gwahanol wasanaethau a gynrychiolant, megis addysg bellach ac uwch a llyfrgelloedd cyhoeddus, er mwyn amlhau’r mynediad at ddysgu i bawb. Mae tair partneriaeth lyfrgell draws-sectoraidd sefydledig yng Nghymru, sef Atlis yn Abertawe, Galw yn Wrecsam a Newlis yng Nghasnewydd, ac mae eraill yn cael eu datblygu. Y nod sylfaenol yw galluogi pob math o gymunedau sy’n dysgu drwy farchnata’r cysyniad bod yr holl lyfrgelloedd mewn cymuned yn un adnodd, a darparu mapiau mynediad fel y gall dysgwyr wneud defnydd llawn o’r adnoddau lleol mewn gwahanol fathau o lyfrgelloedd.

Fe wyr Aelodau fy mod y llynedd wedi cyflwyno’r safonau a chynlluniau llyfrgell cyntaf ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, sydd â chyfle cyfartal yn thema sylfaenol iddynt, gan gynnwys darparu gwasanaethau i bobl â nam ar eu golwg. Felly, bydd llyfrgelloedd yn croesawu’r catalog cyntaf erioed o lyfrau Braille Cymraeg. Mae hyn yn rhan o wythnos hawl i ddarllen Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion ac fe’i hariennir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ôl y dystiolaeth mae’r safonau eisoes yn cymell awdurdodau lleol i ymdrin yn fwy strategol â’u llyfrgelloedd cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r sector wrth hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes, a pharhau i roi gwybod i Aelodau am y datblygiadau newydd yn y dyfodol, gan gynnwys canlyniad yr ymgynghoriad a lansiais y mis diwethaf ar strwythur strategol a chynghorol i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.