Skip to content

Datganiad ar Negodiadau ar Ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Carwyn Jones
Lluniwyd y polisi amaethyddol cyffredin yn wreiddiol yn y degawdau wedi’r ail ryfel byd. Bryd hynny y nod oedd cynyddu lefelau cynhyrchu bwyd mewnwladol er mwyn osgoi prinder bwyd. Fodd bynnag, yn sgîl globaleiddio masnach y byd a’r ymdrechion cynharach i ddiwygio’r PAC mae ffermwyr yr Undeb Ewropeaidd yn fwy agored i gystadleuaeth fyd-eang, yn dibynnu ar gymorthdaliadau am eu hincwm, wedi’u hynysu oddi wrth y defnyddwyr ac wedi’u llyffetheirio gan fiwrocratiaeth.


Ym mis Tachwedd 2001, lansiwyd dogfen strategaeth Llywodraeth y Cynulliad gennym: ‘Ffermio i’r Dyfodol: Cyfeiriad Newydd i Ffermio yng Nghymru’. Un o’i phrif amcanion oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU a’r UE i sicrhau fframwaith masnach a chymhorthdal a fyddai’n datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy i Gymru. Mae’r diwygiadau i’r PAC y cytunwyd arnynt yn Lwcsembwrg yr wythnos diwethaf yn cyflawni’r amcan hwnnw a byddant o fudd i’r diwydiant ac i gymunedau gwledig yng Nghymru. Conglfaen y pecyn newydd yw datgysylltu cymorthdaliadau oddi wrth daliadau sy’n seiliedig ar gynhyrchu. O fis Ionawr 2005 bydd gan aelod wladwriaethau, a rhanbarthau o fewn aelod wladwriaethau fel ni, y cyfle i dorri’r cysylltiad rhwng cymorthdaliadau i ffermwyr a chynhyrchu. Bydd un taliad i ffermwyr yn disodli’r llu o gynlluniau cymhorthdal uniongyrchol, gan gynnwys cynlluniau tir âr, gwartheg a defaid, o dan y PAC presennol. Tra bod yn rhaid i ffermwyr ar hyn o bryd gynhyrchu lefel benodol, megis nifer benodol o anifeiliaid neu’r arwynebedd o dir y tyfir cnwd arno, a chydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfnodau cadw, cwotâu ac yn y blaen, o ganlyniad i ddatgysylltu ni fydd yn rhaid i ffermwyr wneud hyn mwyach. Bydd rhyddid ganddynt i ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r defnyddwyr a’r marchnadoedd am ei gael. Ni fydd ffermwyr mwyach yn y fagl o orfod mynd ar drywydd cymorthdaliadau er mwyn cael incwm. Yn hytrach, gallant ganolbwyntio ar wella ansawdd eu cynnyrch a’r amgylchedd ymhellach.

Bydd un taliad i ffermwyr yn seiliedig ar geisiadau PAC hanesyddol yn y cyfnod o dair blynedd rhwng 2000 a 2002. Caiff cronfa wrth gefn genedlaethol o 3 y cant ei sefydlu ar gyfer taliadau i ffermwyr na allent fel arall brofi eu hawl mewn perthynas â’r cyfnod hwn. Bydd yn rhaid i ffermwyr fodloni safonau gofynnol, y cyfeirir atynt fel trawsgydymffurfio, cyn cael y taliad newydd. Rhaid cyrraedd y safonau mewn meysydd allweddol megis yr amgylchedd ac iechyd a lles anifeiliaid. Bydd yn rhaid i ffermwyr hefyd gadw’r tir mewn cyflwr da yn amaethyddol ac yn amgylcheddol.


Mae amod sy’n ymwneud ag amlen genedlaethol, sy’n galluogi aelod wladwriaethau, neu ranbarthau megis Cymru, i gadw hyd at 10 y cant o daliadau er mwyn datblygu cynlluniau wedi’u targedu i hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy sy’n ystyriol o’r amgylchedd. Er enghraifft, gellid defnyddio hyn i annog ffermwyr i gadw buchod sugno yn ardaloedd llai ffafriol Cymru. Bydd rhyddid hefyd gan aelod wladwriaethau, ar lefel genedlaethol neu ranbarthol, i ddewis parhau â thaliadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu am hyd at 25 y cant o daliadau tir âr, am hyd at 50 y cant o’r premiwm blynyddol defaid a’r taliad atodol i ardaloedd llai ffafriol, ac, ar gyfer cig eidion, am hyd at 100 y cant o’r premiwm buchod sugno a 40 y cant o’r premiwm lladd, neu 100 y cant o’r premiwm lladd, neu 75 y cant o’r taliadau premiwm arbennig eidion.


Cytunwyd i gadw’r cwotâu llaeth tan 2014, ond mae ymrwymiad i adolygu’r ffordd y caiff cwotâu llaeth eu dyrannu yn y dyfodol yn 2008. Cytunwyd i dorri ar rai prisiau cymorth i’r farchnad, ond ar gyfradd is na’r disgwyl. Bydd y cynllun premiwm llaeth, a fydd yn dechrau yn 2004, yn parhau’n daliad sy’n gysylltiedig â chynhyrchu hyd nes y caiff y diwygiadau llaeth eu gweithredu’n llawn yn 2008. Fodd bynnag, os bydd aelod wladwriaethau yn dewis gweithredu un taliad i ffermwyr yn rhanbarthol, gellid datgysylltu’r premiwm llaeth cyn 2008.


Bydd modiwleiddio gorfodol ar draws yr UE cyfan yn dechrau yn 2005 hefyd, gan droi cymorth o gymorthdaliadau sy’n seiliedig ar gynhyrchu i gymorth i fesurau amgylcheddol a datblygu gwledig ar draws yr UE. Newid allweddol arall yw cyflwyno disgyblaeth ariannol newydd, a fydd yn ysgogi camau i leihau cymorthdaliadau os ymddengys bod perygl bod gwariant PAC yn mynd yn uwch na’r nenfwd y cytunwyd arno. Cynhwyswyd rhai mesurau dewisol ychwanegol yn y rheoliad datblygu gwledig, megis rhoi cymorth incwm i ffermwyr sy’n wynebu gofynion deddfwriaethol newydd. Rhaid croesawu’n arbennig ymrwymiad y comisiwn i symleiddio’r ffordd y caiff y rheoliad hwnnw ei weithredu.
2.50 p.m.


Mae’r pecyn, at ei gilydd, yn un cymhleth, y bydd angen inni ei ystyried yn fanwl. Er enghraifft, er mwyn osgoi sefyllfa lle mae ffermwyr yn gadael y tir, mae cytundeb Lwcsembwrg yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gweithredu taliadau cysylltiedig i roi cymorth i’r sectorau a amlinellwyd yn flaenorol yn rhanbarthol. Yr wyf yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid allweddol ar yr amrywiol opsiynau, a byddaf yn ymgynghori’n eang dros y misoedd nesaf cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud. Fy amcan yw sicrhau’r canlyniad gorau posibl i ffermwyr Cymru.


Bellach mae gennym fframwaith ar gyfer cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru yn y tymor hir, gan y bydd y pecyn diwygio yn weithredol tan 2013. Fodd bynnag, ni fydd llawer o fanylion y fframwaith hwn ar gael tan yr hydref, neu hyd yn oed ar ôl hynny, pan ddaw rheoliadau gweithredu’r Comisiwn Ewropeaidd i law. Bydd is-ddeddfwriaeth wedi hynny i ategu’r drefn newydd yng Nghymru. Byddwn yn rhoi gwybodaeth i’r diwydiant mor fuan â phosibl, gan fy mod yn gwybod bod angen i ffermwyr allu cynllunio ymlaen llaw. Y pwynt allweddol i’w gofio yw na fydd y cynlluniau cymhorthdal uniongyrchol yn newid yn 2004—ni fydd dim newid y flwyddyn nesaf.


Byddaf yn briffio Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar 16 Gorffennaf ac yn ceisio cael cyfle arall i gynnal dadl lawn ar y diwygiadau mewn Cyfarfod Llawn ar yr adeg gywir. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor, y diwydiant, a’r rhai yng nghefn gwlad â diddordeb i weithredu’r polisi amaethyddol cyffredin newydd hwn yng Nghymru. Mae’n gyfle gwirioneddol i symleiddio ac yn gyfle i ffermwyr gynnal eu busnesau yn ôl anghenion y farchnad, yn hytrach na gorfod mynd ar drywydd cymorthdaliadau, fel y bu’n rhaid iddynt ei wneud ers cyhyd. Yn y ffordd hon y mae ffermwyr wedi cael eu rhyddhau.