Skip to content

Datganiad ar Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Prif Weinidog: Rhodri Morgan
Y Prif Weinidog: Lywydd, gyda’ch caniatâd, yr wyf am wneud datganiad ar uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fi a gadeiriodd y cyfarfod ac roedd uwch gynrychiolwyr o bob Llywodraeth a gynrychiolir ar y cyngor yn bresennol, gan gynnwys Tony Blair, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a Bertie Ahern, y Taoiseach. Hwn oedd y digwyddiad diplomataidd rhyngwladol cyntaf o’i fath yng Nghymru ers yr uwchgynhadledd Ewropeaidd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn haf 1998.


Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd ar adeg allweddol i’r cyngor. Bu’r cyngor yn parhau i weithio tra bu’r Llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon wedi ei hatal dros dro. Gobeithiaf y bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yn cael ei hadfer cyn bo hir, yn sgîl etholiadau tra anodd yr wythnos diwethaf, ac y bydd hynny yn rhoi hwb newydd i waith y cyngor. Yr wyf yn siwr ein bod oll yn dymuno pob lwc i Paul Murphy yn ei drafodaethau. Fodd bynnag, ni ddylai hynny beri i ni golli golwg ar ddiben sylfaenol y cyngor, sef caniatáu i’w aelodau gydweithio a rhannu arferion da ar amrywiaeth o faterion a diddordebau sy’n gyffredin iddynt.


Ers y flwyddyn ddiwethaf, ni a fu’n gyfrifol am arwain o fewn y cyngor ar ieithoedd lleiafrifol, brodorol a llai eu defnydd. Siaredir amrywiaeth rhyfeddol o fawr o ieithoedd o’r fath o fewn ynysoedd Prydain ac Iwerddon, gan amrywio o’r rhai sydd â channoedd o filoedd o siaradwyr, fel y Gymraeg a’r Wyddeleg, i ieithoedd prinnach o lawer, fel y Jèrriais, yn ynys Jersey, a’r Fanaweg. Mae holl aelodau’r cyngor yn cydnabod yr angen i hybu a chynnal ieithoedd o’r fath, a’r cyfraniad a wnaiff ieithoedd brodorol at dreftadaeth, amrywiaeth diwylliannol, addysg a thwristiaeth. Er bod cydnabyddiaeth eang i’r arbenigedd sydd gennym yng Nghymru ar y materion hyn, gallwn a byddwn yn dysgu llawer oddi wrth ein gilydd wrth geisio’r nodau hynny.

Wrth ehangu’r Undeb Ewropeaidd i gynnwys 25 aelod wladwriaeth fis Mai nesaf—10 gwladwriaeth yn rhagor—bydd cynnydd sydyn yn nifer y gwledydd bach sydd â’u hieithoedd eu hunain, sy’n rhan hollbwysig o’u treftadaeth, ond sy’n defnyddio’r Saesneg ar gyfer busnes rhyngwladol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a llawer o addysg uwch ar yr ochr wyddonol a pheirianegol. Bydd y gwledydd Celtaidd yn Ynysoedd Prydain yn debyg i lawer o’r gwledydd Baltig, i Gyprus a Malta, i’r gwledydd Nordig ac i rai o’r aelod wladwriaethau llai yng nghanol Ewrop. Er nodi bod llawer o’r gwaith o ran hybu a hyrwyddo ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd yn briodol i amgylchiadau unigol gweinyddiaeth pob aelod o’r cyngor, cytunodd y cyngor ar nifer o feysydd lle y byddai mwy o gydweithredu ar lefel lywodraethol yn fuddiol. Gan gydnabod bod trosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau’n hollbwysig i iechyd a hyfywedd ieithoedd brodorol, cytunodd y cyngor i gydystyried canlyniadau ymchwil yn y maes hwn ac i asesu strwythurau sy’n cynnal dysgu ieithoedd brodorol mewn addysg i oedolion ym mhob un o weinyddiaethau’r cyngor.

Gwnaeth y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig hefyd nodi’r potensial mewn datblygiadau TGCh i hwyluso’r defnydd o ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd, a’u gwneud yn fwy gweladwy. Cytunodd yr aelodau i gydweithio i nodi blaenoriaethau ar gyfer eu priod ieithoedd brodorol mewn cysylltiad â datblygu TGCh. Mae casglu a dadansoddi data sy’n ymwneud â medru ieithoedd a’r defnydd ohonynt yn rhan bwysig o waith yn y maes hwn yng ngweinyddiaethau aelodau’r cyngor. Cytunodd y cyngor y dylai aelodau sydd â buddiant yn y maes hwn ystyried y manteision y gellid eu cael o gydweithredu ar ddatblygu arolygon o ddefnydd iaith. Cytunodd yr aelodau hefyd i rannu gwybodaeth am eu profiadau o’r berthynas rhwng polisi cynllunio ac ystyriaethau ieithyddol.

Yn ystod yr uwchgynhadledd, bu’r cyngor yn adolygu ei raglen waith ehangach ac yn trafod mesurau a fyddai’n galluogi iddo adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn ac i gyfathrebu’n fwy effeithiol. Bwriedir y bydd Gogledd Iwerddon a Guernsey yn cynnal uwchgynadleddau’r cyngor yn 2004. Ceir rhagor o fanylion yng nghyhoeddiad ysgrifenyddiaeth y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig; byddaf yn sicrhau y bydd ar gael ar fewnrwyd y Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am waith y cyngor ar gael ar y wefan, sef www.british-irishcouncil.org.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i staff Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Heddlu De Cymru a’m swyddogion i am eu cyfranniad at sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn yng Nghymru.