Skip to content

Datganiad ar Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Adroddiad ar Gynlluniau Amaeth-amgylchedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones: Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Croesawaf adroddiad y cyn Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar ddyfodol cynlluniau amaeth-amgylchedd yng Nghymru, ac ategaf yn gryf farn y Pwyllgor y bydd datblygu dewis eang o gynlluniau amaeth-amgylchedd yn gymorth i sicrhau dyfodol disglair i amaethyddiaeth, yn economaidd ac o ran yr amgylchedd. Yr wyf wedi ymrwymo i egwyddorion datblygu cynaliadwy a chredaf yn gryf y bydd datblygu’r cynlluniau amaeth-amgylchedd ymhellach yn gyfraniad cadarnhaol at gynnal dyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru ac amgylchedd cefn gwlad. Mae safbwynt strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol wedi’i nodi yn ‘Ffermio i’r Dyfodol’, a gyhoeddwyd yn 2001. Dymunwn greu fframwaith priodol i ailgysylltu ffermwyr â’r wir sefyllfa o ran galw’r farchnad a rhoi mwy o gymorth i fesurau datblygu gwledig fel Tir Gofal. Bydd diwygio’r polisi amaethyddol cyffredin o gymorth yn hyn o beth. Fel y nodir yn fy natganiad ysgrifenedig, mae fframwaith diwygio’r polisi amaethyddol cyffredin yn cynnig man cychwyn inni ddechrau addasu ein cymorth i ddiwallu anghenion amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r ymgynghori presennol yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ar gymorth yn y dyfodol, ac yn rhoi cyfle i ffermwyr yng Nghymru leihau eu costau, gwella ansawdd eu cynnyrch a bodloni anghenion y marchnadoedd a wasanaethant.

Mae Tir Gofal, prif gynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei ystyried gan lawer fel y gorau o’i fath yn Ewrop. Mae’r cynllun yn hyrwyddo’r arferion gorau a ganfuwyd yn y cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol ac yn diogelu nodweddion tirlun pwysig, yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn darparu cyfleodd ar gyfer mynediad i’r cyhoedd. Mae’n amlwg ei bod yn hollbwysig inni gynnal ac ehangu’r cynllun er mwyn datblygu diwydiant amaeth cynaliadwy. Ymatebwyd i holl bryderon y Pwyllgor am faterion gweithredol sy’n ymwneud â Tir Gofal, gan gynnwys gwerthuso mynediad, gweinyddu a chwmpas y cynllun, drwy weithredu argymhellion y cloriannu yn 2001. Eglurir beth a wnaed ynghylch pob un o’r rhain yn fy natganiad ysgrifenedig. Ynghylch mater cyllido, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £14.4 miliwn yn 2004-05. Eglurais y bydd y dyraniad diwygiedig, ynghyd â derbyniadau o fodiwleiddio, yn golygu y bydd gennym ddigon o gyllid i gynnal y cytundebau presennol ac i ganiatáu rhagor o ehangu yn ôl y gyfradd darged o 60,000 hectar ychwanegol yn 2004-5. Ar gyfer 2005-06 a blynyddoedd y dyfodol, ystyrir y gyllideb hon, yn yr un modd â holl gyllidebau eraill y Cynulliad, yn yr adolygiad o ddyraniad adnoddau a gyflawnir gan swyddogion. Wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal i roi blaenoriaeth uchel i gefnogi cynlluniau amaeth-amgylchedd.

Carwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y gwaith cadarnhaol a wnaeth Llywodraeth y Cynulliad i fwrw ymlaen ag argymhelliad y Pwyllgor ar gyflwyno set integredig o gynlluniau amaeth-amgylchedd. Mae’n bwysig nodi y bydd y cynllun lefel mynediad arfaethedig a gyhoeddwyd yn Awst yn cymell llawer mwy o ffermwyr yng Nghymru i sicrhau bod ei tir yn bodloni gofynion sylfaenol cadwraeth amgylcheddol. Bydd yn gwobrwyo ffermwyr am gymryd y camau cyntaf tuag at weithredu amgylcheddol cadarnhaol fel diogelu cynefinoedd ac yn eu paratoi drwy hynny ar gyfer gofynion mwy ymestynnol Tir Gofal. Bydd y cynllun peilot a grybwyllais yn fy natganiad ysgrifenedig yn gymorth pwysig inni wrth addasu manylion y cynllun cyn iddo ddechrau yn 2005-06. Y targed yw cynnwys 60 y cant o’r tir amaethyddol nad yw’n rhan o unrhyw gynllun presennol yn y cynllun newydd. Yr wyf yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi’r holl egwyddorion allweddol a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Gwnaed llawer o waith eisoes, fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig.

Yn olaf, diolchaf i’r Pwyllgor am ei adroddiad cynhwysfawr. Gan fod 25 y cant o’r holl ffermydd yng Nghymru’n cymryd rhan bellach mewn cynllun amaeth-amgylchedd, mae ffermio yng Nghymru yn symud i gyfeiriad newydd lle y bydd cyfoeth cefn gwlad Cymru, ei gynefinoedd a’i fywyd gwyllt yn cael eu hyrwyddo a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r diwydiant i ateb heriau’r dyfodol ac, yn enwedig, at sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn gweithredu’r cynllun lefel mynediad newydd er budd ffermwyr a’r amgylchedd fel ei gilydd.