Skip to content

Datganiad Llafar ar Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd ar Ynni Adnewyddadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd Andrew Davies
Croesawaf y cyfle i ymateb i adolygiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd o bolisi ynni yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor, ei Gadeirydd, ei aelodau a’r ymgynghorydd arbennig, yr Athro Jake Chapman, a’u llongyfarch ar fanylder eu hymchwiliad a’u cyfraniad gwerthfawr i’r broses o ddatblygu polisi ynni yng Nghymru. Gwnaeth y Pwyllgor chwe argymhelliad sylfaenol, sydd wedi’u cynnwys yn y weledigaeth a nodais yn fy natganiad ar bolisi ynni yr wythnos diwethaf.

O ran lleihau carbon, mae’r Pwyllgor o blaid system trydan sero carbon yn ystod yr 20 i 50 mlynedd nesaf. Yr wythnos diwethaf, rhoddais arweiniad clir ar hyn, a phennais uchelgais i gyflawni gostyngiad o 20 y cant mewn carbon erbyn 2020. Mae datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy yn hanfodol yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae angen cymysgedd o fesurau sy’n ymgorffori cynhyrchu ynni, arbed ynni, ac effeithlonrwydd. Dyma’r ffordd ymlaen sy’n cefnogi ein sail ddiwydiannol ac yn ategu ein dyletswyddau o ran datblygu cynaliadwy.

Mae’r Pwyllgor yn argymell meincnod o 4 awr terawat y flwyddyn erbyn 2010 ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae’r targed hwn yn realistig, ond yr ydym am symud ymlaen drwy gymeradwyo hynny a’i gynnwys o fewn meincnod 2020, drwy’r uchelgais i leihau carbon a nodwyd gennyf yr wythnos diwethaf. Byddai hynny yn fras yn gyfwerth â meincnod ynni adnewyddadwy o tua 7 TWh ar gyfer cynhyrchu trydan ar gyfer 2020. Bydd defnyddio ynni gwynt i ddisodli’r broses o gynhyrchu trydan o orsafoedd tanwydd glo hyn, nas moderneiddiwyd, o gymorth sylweddol i gyflawni ein targedau lleihau carbon deuocsid.

Mae ynni adnewyddadwy yn cynnig cyfleoedd datblygu economaidd mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yr wyf yn hyderus y gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n diogelu ardaloedd amgylcheddol sensitif a chyrchfannau pwysig i dwristiaid. Yr wyf wedi gofyn i Fwrdd Croeso Cymru ystyried sut y gallai helpu wrth asesu effeithiau ynni adnewyddadwy, a ffermydd gwynt yn arbennig, ar dwristiaeth. Yr wyf am i gymaint o brosiectau â phosibl fynd rhagddynt, gan gynnwys y gymuned leol yn llawn.

Bydd gweithio gyda’n partneriaid yn elfen hanfodol wrth ddatblygu polisi ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Ceir enghraifft o’r ymagwedd bartneriaeth hon yng ngwaith grwp nodyn cyngor technegol 8. Mae’r grwp hwnnw yn hwyluso gwaith i ystyried goblygiadau gofodol technolegau ynni adnewyddadwy ac yn darparu cyngor cynllunio ar amrywiol dechnolegau lle y mae angen ymagweddau gwahanol. Byddwn yn gosod safonau uchel ac yn annog arfer gorau a phrosiectau enghreifftiol.

Yn y tymor byr, pwer y gwynt ar y tir ac o’r lan sy’n fwyaf tebygol o gyfrannu. Yr ydym yn archwilio opsiynau ar gyfer ailweithredu ffermydd gwynt sy’n bodoli eisoes, a byddwn yn cynnal seminar yn ddiweddarach yn y mis i ystyried hyn yn fanylach. Mae’r ddwy fferm wynt alltraeth oddi ar arfordir y Gogledd wedi’u cymeradwyo. Yn North Hoyle, cwblhawyd 80 y cant o’r gwaith ar y tir. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn unol â’r amserlen ac y bydd yn dechrau gweithredu o fis Hydref 2003. Mae safle Fflatiau y Rhyl yn debygol o gymryd yn hirach, er iddo dderbyn caniatâd, a’r Cynulliad fydd yn penderfynu ar brosiect Scarweather Sands, ym môr Hafren.

Mae cynhyrchu ynni alltraeth yn y dyfodol yn faes newydd a chyffrous i’w ddatblygu. Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gobaith yw y gellir ystyried ardaloedd strategol pellach oddi ar arfordir Cymru. Rhwng 2010 a 2020, disgwylir i dechnolegau ffrwd llanw, ffotofoltaidd, bio-màs ac, efallai, tonnau, ddechrau cyfrannu’n sylweddol. Gallai bio-màs fod o ddiddordeb i Gymru, ond ar hyn o bryd mae’n faes o ansicrwydd yn y farchnad. Yr ydym yn ymchwilio i gyfleoedd ac mae rhai prosiectau bio-màs eisoes ar waith gyda chymorth Amcan 1. Gobeithiaf y bydd cynllun grant cyfalaf y Comisiwn Coedwigaeth, a ariennir yn rhannol gan Amcan 1, yn gatalydd yn y broses hon. Yr wyf yn obeithiol y caiff cronfeydd strwythurol eu defnyddio’n effeithiol i ysgogi amrywiaeth eang o ddatblygiadau adnewyddadwy. Mae gan bwer ffrwd llanw, morgloddiau llanw a phwer y tonnau gryn botensial i Gymru. Cefnogir nifer o dechnolegau, gan gynnwys prosiect Sir Benfro gan Tidal Hydraulic Generators Ltd. Mae potensial gwirioneddol i ddenu’r amrywiaeth ffurfiannol o dechnolegau llanw hyn i Gymru. Mae nifer o ddatblygwyr yn dangos diddordeb a bydd gweithredu cynllun gweithredu arloesedd Llywodraeth y Cynulliad ‘Cymru o Blaid Arloesi’, a lansiwyd gennyf ddoe, hefyd yn helpu i gefnogi technolegau newydd yn y sector ynni. Yr ydym yn gweithio gyda’r WDA i ddod â’r syniadau gorau o’r sector preifat a’r sector academaidd ynghyd.

Yn y tymor hwy, gallai fod i brosiectau arbennig fel morglawdd Hafren botensial enfawr. Mae gan forgloddiau oblygiadau amgylcheddol ac economaidd a gwelwn werth astudiaethau pellach. Parhaf i bwysleisio pwysigrwydd hyn i’r Gweinidog Gwladol dros Ynni ac Adeiladu. Hefyd yn y tymor hwy, mae systemau ynni yn seiliedig ar gellau tanwydd a yrrir gan hydrogen yn opsiwn deniadol. Mae cyfleoedd ymchwil a datblygu eisoes yn dod i’r amlwg yng Nghymru, a byddwn yn parhau i ystyried pob cyfle yn ofalus i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau ynni hydrogen. Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylid datblygu’r defnydd o ynni gwyrdd yn ystad y Cynulliad a chan asiantaethau a chyrff cyhoeddus eraill. Noda’r ffigurau diweddaraf fod cyflenwad sy’n wyrdd 100 y cant ym Mharc Cathays a bae Caerdydd yn cynrychioli dros 75 y cant o gyfanswm defnydd trydan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn asesu dichonoldeb caffael cyflenwad trydan glân drwy weddill yr ystad. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi datblygu polisi a chynllun gweithredu gwyrddhau, sy’n cynnwys targedau ar gyfer lleihau’r defnydd o ynni. Bydd hyn yn sail i system rheoli amgylcheddol, a achredir i safon gydnabyddedig. Er mai targedu’r prif adeiladau yng Nghaerdydd a wnawn i ddechrau, ein nod yw cyflwyno’r system rheoli amgylcheddol i adeiladau eraill yn yr ystad lle y bo’n briodol.

Mae’r Pwyllgor wedi cydnabod y cysylltiad rhwng datblygu ynni adnewyddadwy ac atgyfnerthu seilwaith. Mae hwn yn fater allweddol ar gyfer datblygu cynhyrchu a ddosbarthwyd drwy ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae’n un o blith amrywiaeth o faterion a gyflewyd imi yn y cyfarfodydd niferus a gynhaliwyd rhyngof fi a’r Prif Weinidog ac uwch gynrychiolwyr y diwydiant. Mae hefyd yn fater a godais gyda Gweinidog ynni’r DU, ac fe barhaf i wneud hynny. Noda’r Papur Gwyn ar ynni nifer o gamau gweithredu a gymerir gan OFGEM i hwyluso cynhyrchu a ddosbarthwyd, a byddwn wrth gwrs yn gysylltiedig â’r rhain. Yr ydym yn trafod gyda darparwyr seilwaith a chyda chwmnïau’r rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru ac OFGEM i bennu’r ffordd ymlaen. Fel rhan o’r gwaith hwn, yr ydym yn cynnal asesiad gwaelodlin o’r seilweithiau trydan yng Nghymru a’u gallu i ymdopi â lefelau cynyddol o gynhyrchu a ddosbarthwyd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â barn y Pwyllgor ar bwysigrwydd cynllunio, ac yn gweld manteision cadw’r pwerau o fewn deddfwriaeth trydan i wneud penderfyniadau ar brosiectau cynhyrchu ynni mawr. Byddwch hefyd yn ymwybodol imi roi tystiolaeth i gomisiwn Richard ar y mater hwn. Byddwn yn parhau i bwysleisio ei bod yn anghyson nad oes gan y Cynulliad bwerau o’r fath, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU o’r un farn.

Gan edrych ymlaen, yr ydym yn trefnu ail uwch-gynhadledd ynni yng Nghymru i drafod materion polisi ynni strategol gyda’r diwydiant. Gan ddefnyddio’r canlyniad a ddaw o hyn, gwaith ardderchog y Pwyllgor Datblygu Economaidd, a’n trafodaethau parhaus gyda’n partneriaid, yr ydym yn llunio cynllun gweithredu i roi ein polisïau ynni newydd ar waith. Gallaf sicrhau’r Cynulliad mai cadw Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau adnewyddadwy ym maes cynhyrchu ynni a chreu sector diwydiannol prif ffrwd newydd yw ein nod.