Skip to content

Datganiad Llafar ar Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru

Cymerodd Llywodraeth y Cynulliad y cyfle cyntaf posibl i ddatgan ein hymrwymiad i sefydlu amddifynnydd â llais annibynnol dros blant yng Nghymru. Mesur Comisiynydd Plant Cymru oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth Cymru'n unig i basio drwy'r Senedd ar gais y Cynulliad. Yr oedd yn briodol y daeth Peter Clarke yn gomisiynydd plant statudol cyntaf y Deyrnas Unedig ar Ddydd Gwyl Dewi 2001. Mae adroddiad Peter Clarke yn llwyr gyfiawnhau'r flaenoriaeth a roesom i greu swydd y comisiynydd plant. Mae'n tynnu ein sylw at y sylwadau a wnaed iddo dros y flwyddyn ddiwethaf gan blant a phobl ifanc. Wrth godi proffil y pynciau hyn, mae'n cyflawni ei rôl fel amddiffynnydd â llais dros blant Cymru. Ar yr un pryd, mae'n cyflwyno sawl her arwyddocaol i Lywodraeth y Cynulliad, y gallwn yn awr ymateb iddynt yn ffurfiol.


Nododd y comisiynydd ei bryder mawr ynghylch sefyllfa plant a phobl ifanc drwy dynnu sylw at raddau tlodi plant yn y wlad hon. Rhanna Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bryder ynghylch y mater hwn. Ni ddylai neb, yn enwedig plant a phobl ifanc, fod o dan anfantais neu gael eu hatal rhag gwireddu eu potensial llawn oherwydd yr ardal lle y maent yn byw neu eu hamgylchiadau teuluol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, lluniasom ffyrdd newydd o fynd i'r afael â thlodi. Sefydlwyd dwy raglen yn arbennig, sef Cymunedau yn Gyntaf a Cymorth, y gronfa gymorth i blant a phobl ifanc, i dargedu'r ardaloedd hynny sydd o dan yr anfantais fwyaf ac sy'n dioddef yr amddifadedd mwyaf. Mae tlodi yn effeithio ar blant a phobl ifanc mewn sawl ffordd, a nod y mesurau hyn yw mynd i'r afael â'r broblem o sawl cyfeiriad: drwy addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth, ac hefyd drwy wella tai, yr amgylchedd o'n hamgylch ac iechyd.

Er mwyn rhoi ein rhaglenni mewn fframwaith cydlynus, sefydlwyd grwp gorchwyl gennym i'n cynghori ar gynhyrchu strategaeth gwrth-dlodi plant. Fe'i cadeirir gan Charlotte Williams, darlithydd mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae gan y grwp y dasg o baratoi adroddiad a fydd yn nodi cyfeiriad strategol hirdymor ac argymhellion ar gyfer gweithredu ymhellach fel y gall Llywodraeth y Cynulliad ddatblygu cynigion cadarn.

Mae'r comisiynydd yn cydnabod bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd sylweddol i gefnogi cyfranogiad gweithredol plant a phobl ifanc. Cefnogwn Ddraig Ffynci, sef y Cynulliad i blant a phobl ifanc yng Nghymru, fel corff cynrychioliadol, hunanlywodraethol a reolir gan blant a phobl ifanc. Mae Draig Ffynci wedi sefydlu gwefan ac wedi cyhoeddi canllawiau ar arfer da ar gyfranogi, o'r enw 'Chwythu Tân i mewn i Gyfranogi'.

Yr oeddem yn falch o nodi bod y comisiynydd wedi enwi'r rhaglen Plant yn Gyntaf fel enghraifft o arfer da o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc. Fel rhan o'r rhaglen honno, sefydlwyd grwp gorchwyl eiriolaeth gennym i gynnal adolygiad llawn o eirioli plant yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y comisiynydd 'Telling Concerns', ei adolygiad o gwynion a gweithdrefnau seinio rhybudd a gwasanaethau eirioli plant yng Nghymru. Cyfeirir y rhan fwyaf o'r argymhellion at awdurdodau lleol, ond bydd gan y grwp gorchwyl eiriolaeth rôl allweddol i'w chwarae wrth gynghori Llywodraeth y Cynulliad ar ei hymateb.

Cododd y comisiynydd sawl mater addysgol, gan adlewyrchu pryderon plant a phobl ifanc. Croesawodd y newidiadau a wnaethom eisoes i asesiadau'r cwricwlwm cenedlaethol, drwy roi'r gorau i brofion cyfnod allweddol 1 ac asesu cymwysterau ôl-16 a sgiliau allweddol. Bydd y newidiadau hyn yn lleihau'r pwysau ar fyfyrwyr a'u hathrawon, gan gyflwyno ymagwedd tuag at asesu sgiliau allweddol sydd yn fwy hyblyg ac sydd yn canolbwyntio'n fwy ar fyfyrwyr, yn enwedig yn yr ystod oedran 14 i 19 mlwydd oed.

Mae hefyd yn nodi'r pryderon a fynegwyd iddo gan bobl ifanc ynghylch safonau gwael toiledau ysgol. Mae gwelliannau i doiledau yn gymwys o dan y grant gwella adeiladau ysgolion, ac yr wyf yn falch o nodi bod llawer o gynlluniau o'r fath bellach wedi eu hariannu. Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i wella adeiladau ysgolion fel blaenoriaeth allweddol, ac i sicrhau bod pob adeilad ysgol yng Nghymru mewn cyflwr da ac yn cael ei gynnal yn dda erbyn 2010, fan pellaf.

Yn ogystal ag ymgymryd â rôl hyrwyddwr annibynnol dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru, mae gan y comisiynydd a'i dîm ddyletswydd hefyd i herio polisïau neu weithredoedd sydd yn anfanteisiol i bobl ifanc yn ei farn ef. Eisoes dangosodd sut y mae'n dylanwadu ar yr agenda bolisi pryd bynnag a lle bynnag y mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc. Soniodd un o'i gyhoeddiadau cyhoeddus cyntaf am yr effaith y gallai adeiladu ysgolion ar hen safleoedd tirlenwi ei chael ar iechyd plant. O ganlyniad uniongyrchol i'r pryderon hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymchwilio yn awr i ffyrdd lle y gall y system gynllunio ystyried materion iechyd yn fwy priodol. Caiff safbwyntiau ystod eang o fuddiannau cymunedol eu hystyried hefyd drwy weithdrefnau ymgynghori gwell ar ddatblygu polisi cynllunio.

Cododd y comisiynydd bryderon ynghylch diogelu hawliau plant, yn arbennig, cosbi plant yn gorfforol. Nododd Llywodraeth y Cynulliad ei gwrthwynebiad, mewn egwyddor, i fwrw plant fel math o gosb. Yr ydym yn gweithio tuag at newid agwedd rhieni a gofalwyr tuag ato, ac eisoes bu inni wahardd ei ddefnydd mewn pob math o ofal cyhoeddus ac ym mhob gwasanaeth i blant a reoleiddir yng Nghymru. Yr ydym wrthi'n datblygu cod plant a rhieni ar gyfer Cymru i ddarparu canllawiau ar ystod o faterion ynghylch rhianta cadarnhaol, cydberthnasau teuluol ac ymddygiad.

Canmolwyd Cymru yn adroddiad diweddar pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn am inni sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru. Mae'r comisiynydd wedi nodi ei fod yn bwriadu adolygu sefyllfa plant yng Nghymru, yng nghyd-destun eu hawliau o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. Croesawn y cynnig hwn.