Skip to content

Datganiad ar Drafodiad Hysbysadwy dan Reol Sefydlog Rhif 19.20 ar Drosglwyddo Stoc Pen-y-bont ar Ogwr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart: Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (Edwina Hart): Trosglwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y cwbl o’i stoc dai i gymdeithas dai Valleys to Coast Housing, sydd newydd ei ffurfio, ar 12 Medi. Drwy’r trosglwyddo hwn, cynhyrchir digon o fuddsoddiad i godi’r stoc i safon ansawdd tai Cymru erbyn 2012. Mae’r cyngor wedi cyflawni hyn yn unol â chanllawiau trosglwyddo stoc dai Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac wedi hysbysu Llywodraeth y Cynulliad am yr hyn a oedd yn digwydd drwy gydol y broses.

Darperir y buddsoddi preifat yn y trosglwyddiad gan gonsortiwm sy’n cynnwys cymdeithas adeiladu Nationwide fel prif fenthyciwr a chymdeithas adeiladu Principality fel benthyciwr llai. Mae’r rhan a gymerir gan y Principality o safbwynt Cymreig, a’r ffaith bod y ddau fenthyciwr yn gymdeithasau cydfuddiannol, yn nodedig. Mae cynllun busnes y landlord cymdeithasol newydd yn rhagweld gwario tua £70 miliwn ar y stoc dai dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei hymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol sy’n ystyried trosglwyddo stoc lle y mae diffyg o ran y derbyniadau prisio. Yn achos y trosglwyddiad gan Ben-y-bont ar Ogwr, mae angen cyllid i dalu am brisiad negyddol o £7.7 miliwn, costau sefydlu o £2.3 miliwn, hawliadau am ddadfeilio rhwng £3 miliwn a £5 miliwn, a chostau cyllido yr amcangyfrifir eu bod tuag £1 filiwn. Telir am y cyllid hwn o’r adnoddau ar gyfer tai a fuasai ar gael i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr pe na fyddai’r trosglwyddo wedi digwydd. O ganlyniad, ni fydd cost ychwanegol i’r Cynulliad.


Ar hyn o bryd, ceir cynllun gostwng TAW. Diogelir Valleys to Coast Housing rhag unrhyw newidiadau i reolau TAW yn y dyfodol a’i gwnâi’n atebol i dalu TAW ar y gwaith arfaethedig. Yr ydym wedi sicrhau taliad o £49.85 miliwn gan y Trysorlys i ddileu dyled Pen-y-bont ar Ogwr i’r bwrdd benthyciadau gweithfeydd cyhoeddus.

Yn gynharach eleni, rhoddais gymeradwyaeth i’r Cynulliad roi cymorth ariannol tuag at y gost o sefydlu canolfan hyfforddi i’r diwydiant adeiladu yn ardal Caerau yng nghwm Llynfi. Bydd y prosiect peilot hwn yn cynnig lle i 45 o hyfforddeion lleol bob blwyddyn. Amcan yr hyfforddiant yw rhoi i’r hyfforddeion y cymwysterau y mae arnynt eu hangen i gael eu cyflogi yn y sector adeiladu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y buddsoddiad pwysig hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu tai fforddiadwy o ansawdd da, ac yn cynnig adfywio cymdeithasol ac economaidd mwy cyffredinol.