Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Jane Hutt): Tynnaf sylw’r Aelodau at gyhoeddi ymateb Llywodraeth y Cynulliad i ymchwiliad Victoria Climbié, a drafodwyd y bore yma gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dylai hwn fod yn fater pryder i holl Aelodau’r Cynulliad, gan fod y cyfrifoldeb am amddiffyn plant yn cyffwrdd â sawl agwedd ar wasanaethau cyhoeddus a phob un o’n buddiannau cyffredin. Fel yr adroddodd yr Arglwydd Laming, methodd pob un o’r gwasanaethau y daeth Victoria i gysylltiad â hwy a gofalu amdani. Ein gwaith, yng ngoleuni’r ymchwiliad hwn, yw gwneud popeth o fewn ein gallu i atal methiant systematig o’r fath rhag digwydd fyth eto.
Gwnaeth yr Arglwydd Laming 73 o argymhellion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn arfer da cydnabyddedig. Ym mis Mawrth, ysgrifennais at bob un o’r awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, ymddiriedolaethau GIG a byrddau iechyd lleol yng Nghymru, gan dynnu eu sylw at yr argymhellion hyn. Rhoddodd prif arolygydd yr Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ganllawiau i bob awdurdod lleol i’w cynorthwyo i gynnal archwiliad o’u sefyllfa yn erbyn yr argymhellion arfer da hyn. Mae’r arolygiaeth ar hyn o bryd yn dilysu eu hymatebion. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i weithredu ar yr argymhellion sy’n weddill. Dechreuodd ymgynghoriad gyda’r holl asiantaethau amddiffyn plant yng Nghymru ddydd Gwener diwethaf, gyda chynhadledd yn y De a bwriedir cynnal un yn y Gogledd ar 15 Hydref.
Yn Lloegr, lansiodd y Llywodraeth broses ymgynghori ar y cynigion yn ei Phapur Gwyrdd ‘Mae Pob Plentyn yn Bwysig’. Er bod y rhan fwyaf o’r cynigion yn ymwneud â materion datganoledig, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad ynglyn â’r graddau y byddem yn dymuno manteisio ar unrhyw gyfle deddfu i wneud newidiadau yng Nghymru. Dechreuais ar y broses honno mewn cyfarfod diweddar gyda Margaret Hodge. Yng Nghymru, dros y pedair blynedd diwethaf, yr ydym wedi datblygu ymagwedd wahanol tuag at wasanaethau i blant a phobl ifanc. Un o’n blaenoriaethau cyntaf oedd sefydlu comisiynydd i blant yng Nghymru y mae’n ofynnol iddo yn ôl y gyfraith roi sylw i gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn. Mae’r Papur Gwyrdd yn awr yn cynnig sefydlu swydd debyg ar gyfer plant yn Lloegr. Bydd ein profiad llwyddiannus yng Nghymru yn batrwm i Loegr ei ddilyn. Yn fuan byddaf yn cwrdd â Peter Clarke i drafod y trefniadau ar gyfer cyflwyno ei ail adroddiad blynyddol i’r Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.
Yr ydym hefyd wedi mynd i’r afael â mater cyd-drefnu ar bob lefel. Fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dros blant, byddaf yn cadeirio is-bwyllgor plant a phobl ifanc y Cabinet. Yn ogystal â chanolbwyntio ar fater allweddol amddiffyn plant, bydd yr is-bwyllgor yn canolbwyntio eleni ar themâu maethiad ac ymarfer corff, trafnidiaeth a chyfnodau pontio. Mae’r rhain yn gorgyffwrdd portffolio pob Gweinidog yn yr is-bwyllgor.
Mae awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol i sicrhau y caiff gwaith cynllunio a chyflwyno gwasanaethau ei gydgysylltu drwy bartneriaethau fframwaith plant a phobl ifanc. Dengys yr ystadegau a gafwyd ddoe ar wasanaethau cymdeithasol personol awdurdodau lleol ein bod yn dechrau gweld perfformiad gwell ar ddangosyddion allweddol ar gyfer gwasanaethau plant. Mae llai o blant yn gadael gofal heb o leiaf gymhwyster TGAU sylfaenol, mae bron pob person ifanc 16 oed sy’n gadael gofal yn cael cynllun addas ar gyfer ei ofal neu ei gofal parhaus, ac mae mwy o achosion amddiffyn plant yn cael eu hadolygu. Yr ydym wedi buddsoddi’n drwm yn Plant yn Gyntaf i wella gwasanaethau ledled Cymru, ond gwyddom fod rhai awdurdodau yn dal i wynebu heriau. Anela’r partneriaethau newydd at sicrhau bod pob gwasanaeth i blant, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, yn cyrraedd safon y gwasanaethau gorau a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion plant, yn enwedig anghenion y rhai hynny sy’n wynebu problemau iechyd neu gymdeithasol cymhleth, neu sydd mewn perygl o niwed neu esgeulustod. Mae codi’r safonau yn darged allweddol inni, ac yn un y bydd y fframwaith gwasanaethau cenedlaethol yn mynd i’r afael ag ef.
Yr ydym wedi penodi cyfarwyddwr gofal iechyd plant yng Nghymru, a fydd yn gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol eraill i ganolbwyntio ar safonau a chanlyniadau i blant. Wrth ailstrwythuro fy Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn Llywodraeth y Cynulliad, bydd cryfhau pellach ar lefel uwch i sicrhau gwell cyd-drefnu ac integreiddio o ran llunio polisïau ar gyfer gwasanaethau plant, yn ogystal â’u rhoi ar waith. Yr ydym yn benderfynol o fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru: mae grwp o arbenigwyr yn gweithio gyda’r Cynulliad i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â’i achosion a’i ganlyniadau. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith trawiadol a wneir ledled Cymru drwy Cymorth, y prif gynllun grant, sy’n werth bron £40 miliwn eleni.
Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol yn ganolog i’r holl fentrau hyn. Yr ydym wedi rhoi fframwaith strategol ar waith, a fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r materion gweithlu a nodwyd mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau plant. Mae awdurdodau lleol a chyflogwyr allweddol eraill, megis y GIG a’r sector gwirfoddol, yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau: er enghraifft, i gefnogi’r broses o ddatblygu gwell strategaethau hyfforddiant a datblygu. Mae’r holl awdurdodau lleol mewn partneriaethau gofal cymdeithasol rhanbarthol, ac maent yn mynd i’r afael â materion megis recriwtio a chadw staff a datblygu cyflenwi dysgu ar y cyd. Yn ddiweddarach eleni, bwriadaf gyhoeddi ein fersiwn ni o Bapur Gwyrdd ar y strategaeth blant ar gyfer Cymru, a fydd yn adeiladu ar y sylfeini ar gyfer partneriaeth a osodwyd gennym eisoes. Yr wyf yn benderfynol y dylai plant a phobl ifanc barhau i fod wrth graidd agenda Llywodraeth y Cynulliad, gydag amddiffyn ein plant mwyaf diamddiffyn yn flaenaf, ac y dylem barhau i hybu gwaith arloesi a datblygu i blant a phobl ifanc.