Skip to content

Cyllideb 2003

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart AC, Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Heddiw cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gyfres o fesurau yn ei Gyllideb a fydd o bwys i Gymru yn benodol. Mae'r rhain yn ategu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef darparu cyfiawnder cymdeithasol trwy gyfrwng gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel; a darparu cyfleoedd economaidd trwy hybu cynhyrchiant a chreu mwy o swyddi.

Mae'r mesurau penodol a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys cymorth i blant, pensiynwyr a theuluoedd:

  • sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth Plentyn gwerth o leiaf £250, a fydd yn codi i £500 i blant o deuluoedd incwm isel, sydd hefyd yn gymwys i gael credyd treth plant - sef tua thraean o'r holl blant. Bydd hyn yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddod i arfer â chynilo, ac yn sicrhau eu bod yn elwa o'u hasedau. Bydd tua 30,000 o blant sy'n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn yn elwa, a bydd y taliad ar gael i blant a aned o fis Medi 2002 ymlaen;
  • cynyddu'r Budd-daliadau Plant, a fydd yn helpu 350,000 o deuluoedd yng Nghymru gan sicrhau bod bob teulu yn cael o leiaf £5 yn fwy yr wythnos na lefelau 1997;
  •  Credyd Treth Gwaith newydd (sy'n cymryd lle'r Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio o fis Ebrill 2003) a fydd yn targedu cymorth ychwanegol at gartrefi incwm isel yng Nghymru, a bydd 320,000 o deuluoedd yng Nghymru yn elwa o'r Credyd Treth i Blant.
  • cadarnhau y sefydlir Credyd Pensiwn newydd ym mis Hydref eleni a fydd yn helpu 250,000 o bensiynwyr yng Nghymru.  Bydd cynnydd 50% hefyd yn y taliadau tanwydd gaeaf i bobl dros 80 oed, gan gynyddu'r taliad blynyddol i £300;

Mae'r mesurau sy'n ymwneud â'r economi a'r amgylchedd yn cynnwys:

  • symleiddio'r system TAW i fusnesau, cynigion i wella'r modd y gall busnesau gael gafael ar arian, a mesurau i wella'r modd y mae'r credydau treth Ymchwil a Datblygu presennol yn cael eu rhoi ar waith;
  • ystod o fesurau sy'n rhoi hwb i fentrau mewn 350 o Ardaloedd Menter yng Nghymru, a chadarnhawyd yr ymestynnir yr eithriadau rhag y doll stamp ar gyfer yr holl drosglwyddiadau amhreswyl;
  • gwella'r amgylchedd trwy gymryd camau pellach i wella'r modd y rheolir gwastraff, cynyddu graddfeydd y dreth tirlenwi a chymorth i helpu busnesau i leihau eu gwastraff. I Gymru, mae hyn yn cyfateb i adnoddau ychwanegol gwerth bron £5 miliwn ar gyfer 2003-04, a £5.4 miliwn yr un ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol nesaf; a
  • rhewi'r doll tanwydd tan fis Hydref 2003.