Skip to content

Datganiad ar Gynhyrchu Dur yng Nghaerdydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Andrew Davies

Gwnaf y datganiad hwn yn dilyn cyhoeddiad ar 4 Mehefin gan grwp Celsa ei fod yn bwriadu ailddechrau cynhyrchu dur yng Nghaerdydd.

Mae hynny’n newyddion da i Gaerdydd ac i gymunedau’r Sblot a Thremorfa, sydd wedi dioddef ers diffodd y ffwrneisi yng nghyn-waith ASW. Mae hefyd yn arwydd pwysig o hyder yn sector diwydiannol Cymru, sy’n profi bod gweithgynhyrchu yng Nghymru’n cael ei ystyried yn gystadleuol, yn fywiog ac yn gryf. Mae’n newyddion da i ddiwydiant adeiladu’r DU, a oedd yn wynebu gorfod mewnforio llawer o’r dur y mae arno’i angen ar ôl cau gwaith Allied Steel and Wire y llynedd. Daw â newyddion da hefyd i’r rhai sy’n dyheu am ailddechrau gweithio yn y sector dur.

Mae hefyd yn werth nodi mai hwn yw’r tro cyntaf i Celsa gychwyn ar fenter y tu allan i Sbaen. Bwriada dargedu marchnad adeiladu fewnwladol y DU yn bennaf gan ei fod yn ffyddiog y bydd y farchnad hon yn tyfu’n gynt na’r rhai mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Yn fy natganiadau cynharach ar ôl cau gwaith ASW yn haf 2002, nodais y camau yr oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cymryd yn y cyfnod ar ôl y datganiad gan gadeirydd ASW ar 6 Mehefin hyd at benodi derbynwyr ar 10 Gorffennaf. Yn Nhachwedd, cyhoeddodd derbynwyr ASW, KPMG, mai grwp Celsa oedd darpar brynwr asedau ASW a’i fod wedi dechrau negodiadau ag ef yn unig. Ar 8 Ionawr, cyhoeddodd KMPG fod Celsa wedi cwblhau prynu’r rhan fwyaf o asedau ASW yng Nghaerdydd yn ogystal â rhai o’i asedau yn Sheerness. Croesewais y cyhoeddiadau hyn ac ymddiddorodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fawr yn y datblygiadau hyn. Rhoddais ar ddeall ar y pryd nad oedd unrhyw gymorth gwladol, a fuasai’n groes i reolau’r UE, wedi’i gynnig neu, yn wir, wedi’i roi. Dywedais hefyd y byddai Celsa, dros y misoedd i ddod, yn astudio cynllun busnes i benderfynu a fyddai’r cwmni’n ymrwymo i Gaerdydd, neu’n symud y gwaith i rywle arall o bosibl. Yr oeddwn i a’r Prif Weinidog yn obeithiol bob amser, er gwaethaf amodau’r farchnad, y gwelem ailddechrau cynhyrchu dur yng Nghaerdydd.

Pwysleisiais y gallai Caerdydd gynnig i Celsa sylfaen sgiliau lleol o ansawdd da a oedd heb ei hail, ac a oedd yn barod, yn fodlon ac yn disgwyl cael ei defnyddio. Credaf yn bendant fod hyn, ynghyd â’r parodrwydd a fynegwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr awdurdod lleol ac asiantaethau i weithio gyda’r cwmnïau i aildanio’r ffwrneisi, wedi ychwanegu llawer at y ddadl y dylai Celsa ymrwymo i Gaerdydd. Ym mis Mai, cyhoeddodd Celsa y gwariai swm sylweddol ar ailgychwyn gweithrediadau yn y gwaith. Yr oedd cau gwaith ASW y llynedd yn cyd-ddigwydd â’i ailgyfarparu blynyddol a gwnaed gwaith hefyd er mwyn cael gwelliannau amgylcheddol. Mae Celsa wedi cyhoeddi bellach ei fod yn bwriadu ailddechrau cynhyrchu dur yng Nghaerdydd ac mae wrthi’n recriwtio. Yr wyf yn gobeithio ac yn hyderu y caiff llawer o gyn-weithwyr ASW a Corus, yn ogystal â chyn-gontractwyr, eu hailgyflogi yn Celsa, a fydd yn elwa o’u gwybodaeth a’u profiad o’r gwaith a’r diwydiant. Deallaf y gallai Celsa ailddechrau cynhyrchu dur a’i rolio y mis nesaf. Mae’r cwmni, sydd i’w alw’n Celsa Steel UK Cyf ac sydd â Sr Francisco Mesegue yn bennaeth arno, yn bwriadu ailddechrau un o’r ddwy ffwrnais arc trydan yn Nhremorfa a chyrraedd cyfradd gynhyrchu o 900,000 tunnell y flwyddyn o ddur hylif erbyn dechrau 2004. Fe’m hysbyswyd y bydd melinau Caerdydd, sydd â chapasiti mwyaf o ychydig dros 1 filiwn o dunelli, yn gweithredu ar lai na’u capasiti ar y dechrau.

Ymddengys fod Celsa yn nodi y bydd dau gam datblygu ar gyfer y ffwrnais A bresennol. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys gwaith sy’n angenrheidiol i roi’r ffwrnais ar waith eto, a bwriedir cynnal rhagbrofion poeth ym mis Gorffennaf. Yn yr ail gam, cynyddir maint y ffwrnais drwy ehangu ei chragen, gan cynyddu cynnyrch biledau’r ffwrnais, i bob pwrpas, o 600,000 tunnell y flwyddyn i 850,000 tunnell y flwyddyn ar gapasiti llawn. Felly, dylai biledau fod yn cael eu cynhyrchu yng Nghaerdydd erbyn diwedd mis Gorffennaf a deallaf y bydd Celsa wedyn yn ailgomisiynu’r felin dorri yn Nhremorfa a’r melinau rhodenni a barrau ar safle Castle Works yr un pryd.


Gan edrych ymlaen, mae Celsa wedi nodi y gallai fuddsoddi mewn gwaith toddi newydd i drafod 1 filiwn o dunelli y flwyddyn. Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2004, a gallai fod ar waith erbyn 2006. Mae’r cynlluniau hyn yn dangos bod Celsa yn ymrwymo i bresenoldeb tymor hir yng Nghaerdydd. Derbyniol a chalonogol yw bod y cwmni wedi dewis Cymru a Chaerdydd fel lleoliad cyntaf i fuddsoddi y tu allan i’w ganolfan yn Sbaen. Creir tua 400 o swyddi’n uniongyrchol yn y gwaith, a 200 o swyddi eraill ar sail contract. Bydd busnesau lleol hefyd yn croesawu’r refeniw cynyddol oddi wrth y gweithlu sy’n dychwelyd—rhywbeth a fu’n drist o absennol o strydoedd y Sblot a Thremorfa yn y misoedd diweddar. Er hynny, nid anghofiwn y rhai sy’n dal i ddioddef oherwydd pryderon am eu cynlluniau pensiwn. Ni fydd angen atgoffa Aelodau nad yw mater pensiynau’n un a ddatganolwyd, ond parhawn i lobïo’r Gweinidog sy’n gyfrifol am bensiynau yn San Steffan i sicrhau y clywir am drafferthion y rhai a effeithir gan gynllun pensiwn ASW. Yn yr un modd, nid oes dichon disgwyl y bydd Celsa yn ailgyflogi pawb a weithiai yn ASW, er mai braf yw adrodd bod llawer o gyn-weithwyr ASW wedi dod o hyd i swyddi a gyrfaoedd newydd mewn mannau eraill.

Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at gadeirydd grwp Celsa er mwyn tynnu sylw at werth cyflogi’r cyn-weithwyr ASW a Corus hynny sy’n dymuno cynhyrchu dur eto. Mae’r Prif Weinidog a minnau’n gobeithio cwrdd â thîm rheoli uwch Celsa pan fyddant yn y DU, ac yr wyf yn siwr y bydd llawer o weithwyr dur yn sicrhau y cânt groeso cynnes. Yng ngolwg y ffaith bod Celsa yn ailddechrau yng Nghaerdydd, a’r newyddion bod Corus wedi ailagor llinell dunio newydd yn ddiweddar yn ei waith yn Nhrostre—a agorwyd gan y Prif Weinidog—ynghyd â’i gyhoeddiad yn ddiweddar am fuddsoddi ym Mhort Talbot, yr wyf yn obeithiol y gall diwydiant dur Cymru edrych ymlaen yn fwy hyderus i’r dyfodol a dal i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi Cymru.