Skip to content

Adroddiad Ar Gynnydd Y Strategaeth Leoli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Ym mis Hydref 2001 gwnaeth fy rhagflaenydd Edwina Hart ddatganiad yngly^n ag adolygiad hirdymor i’w wneud ar leoliad swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad a staff y swyddfeydd.  Canlyniad hynny oedd y byddai tair swyddfa newydd sylweddol yn cael eu sefydlu yng Nghymoedd y De, yn y Canolbarth a’r Gogledd, gan gryfhau’n sylweddol bresenoldeb Llywodraeth y Cynulliad ledled Cymru.  Cyhoeddwyd lleoliad y swyddfa gyntaf ym Merthyr Tudful ym mis Tachwedd 2002.  Ym mis Mawrth 2003 cyhoeddwyd y swyddogaethau a gâi eu lleoli yno.  Bu’r gwaith o ddod o hyd i leoliadau a safleoedd addas ar gyfer swyddfeydd y Canolbarth a’r Gogledd a phenderfynu pa swyddogaethau i’w symud yno yn mynd yn ei flaen hefyd.  Ar ôl gwneud gwerthusiad manwl o’r costau a’r manteision gellir bellach gwneud penderfyniadau a chyhoeddiadau pellach ar sut y caiff y strategaeth ei gweithredu.

Dyma’r amserlen yn fras.  Bwriedir i staff y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, yr Uned Diogelwch Cymunedol, y Gyfarwyddiaeth Dai, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) (Caerdydd a Chwm Cynon), Is-adran y Sector Gwirfoddol a Swyddfa Gwasanaeth y Swyddog Rhenti ar gyfer y De symud i mewn i’r swyddfa newydd ym Merthyr Tudful erbyn diwedd 2005.  Bwriedir i brosiect adeiladu Merthyr fod ar y safle ddechrau 2004.  Bydd Cadw hefyd yn symud o Gaerdydd ddechrau 2005.  Bydd y ddau symudiad hyn yn fodd i leihau’r wasgfa ddifrifol sydd ym Mharc Cathays ar hyn o bryd.  Bwriedir i’r swyddfeydd newydd yn y Gogledd a’r Canolbarth fod yn barod erbyn diwedd 2007.  Dyma amserlen y gellir gweithio ati a fydd yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bresenoldeb amlwg ym mhob cwr o Gymru o fewn y pedair blynedd nesaf.

Enwyd ardal Aberystwyth fel y lleoliad sy’n cael ei ffafrio ar gyfer swyddfa newydd y Canolbarth.  Mae nifer o safleoedd yn cael eu hasesu yn yr ardal yn erbyn meini prawf penodol a bydd trafodaethau masnachol yn dechrau yn fuan.  Bu camau ar droed hefyd i chwilio am leoliadau addas yn y Gogledd lle cafodd coridor yr A55 ei enwi fel y lleoliad sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y safle.  Cewch wybod am y penderfyniadau a wnaed yngly^n ag union leoliadau a safleoedd y ddwy swyddfa erbyn gwanwyn 2004.

Bwriadaf fedru gwneud cyhoeddiad pellach erbyn yr haf y flwyddyn nesaf ar union swyddogaethau’r ddwy swyddfa.  Bydd hyn yn rhoi digon o amser i ni ymgynghori â staff a chyrff partneriaethau er mwyn canfod pa feysydd o waith fyddai’n addas i’w trosglwyddo i’r swyddfeydd newydd.  Bwriedir i swyddfa’r Gogledd ddarparu ystod eang o wasanaethau lle bydd yna bresenoldeb amlwg ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

Ein bwriad yw y bydd y staff yn cael eu symud ar sail wirfoddol, er mae’n bosib y bydd yna amgylchiadau lle bydd yn rhaid i rai unigolion allweddol gael eu symud yn orfodol er mwyn sicrhau parhad o ran y gwaith.  Ni fydd aelodau o’r staff o dan unrhyw anfantais os dewisant symud gyda’u swydd i unrhyw un o’r lleoliadau newydd a phenderfynu yn ddiweddarach eu bod am symud i leoliad arall.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi cymeradwyo pecyn o delerau ar gyfer staff a fydd yn symud i swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Merthyr Tudful. Mae’r pecyn yn cynnwys nifer o welliannau i’r telerau presennol er mwyn sicrhau y bydd aelodau o’r staff a fydd yn dewis symud yn cael iawndal teg am wneud hynny.  Bwriedir i’r pecyn annog cynifer o aelodau o’r staff ag y bo modd i aros yn eu swyddi a symud i’r swyddfa newydd gan barhau â’u dewis yrfa a chan darfu cyn lleied â phosib ar y gwaith.