Skip to content

Ombwdsmyn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru

Cychwynnodd ymgynghoriad ar ddyfodol y gwasanaethau Ombwdsmon yng Nghymru fis Tachwedd y llynedd pan gyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad "Gwasanaethau Ombwdsmon yng Nghymru: Amser am Newid?". Roedd y ddogfen honno'n gwahodd safbwyntiau ar y cynnig i ddod â Swyddfa Ombwdsman Gweinyddiaeth Cymru, Swyddfa Comisiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru a Swyddfa'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ei gilydd i greu un awdurdodaeth Ombwdsmon i Gymru, a hynny dan arweiniad un person. Aethom ati i ymgynghori ymhellach ar gylch gwaith y swyddfa newydd pe byddai'r egwyddor o gael un awdurdodaeth yn cael ei chymeradwyo.

Mae'n dda gennyf gyhoeddi bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi cefnogi'r cynnig i gael un awdurdodaeth Ombwdsmon i Gymru [bron] yn unfrydol. Gosodir copïau unigol a chrynodeb o'r ymatebion yn y Llyfrgell. Yn ddiweddarach eleni felly, byddwn yn cymryd camau i ymgynghori unwaith eto ynghylch awdurdodaeth a phwerau'r Swyddfa newydd hon.

Bydd angen is-ddeddfwriaeth cyn sefydlu unrhyw wasanaeth Ombwdsmon newydd o'r fath yng Nghymru. Mae cynigion y Cabinet ar gyfer is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol, y'u trafodir yn y Cynulliad ar 12 Mawrth, yn cynnwys cynnig ar gyfer Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Os caiff y cynnig hwnnw ei gymeradwyo, byddaf yn mynd ati i'w drafod â'r Ysgrifennydd Gwladol.

Drwy gyd-ddigwyddiad, bydd y tair swyddfa Ombwdsmon yn wag yn ddiweddarach eleni. Ar hyn o bryd mae'r ddeddf yn atal un person rhag bod yn gyfrifol am y tair swyddfa ar yr un pryd, ond rydym ni'n cynnig bod y Senedd yn gwneud Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio i gael gwared ar y cyfyngiad hwnnw. Pe gellir gwneud hynny, y bwriad fyddai penodi un person i wneud y tair swydd. Byddai disgwyl i'r sawl a benodir ymgymryd â'r gwaith cynllunio angenrheidiol i greu un awdurdodaeth newydd. Felly petai amser yn cael ei neilltuo yn y Senedd ar gyfer y Mesur yr ydym yn ei gynnig, gallai'r broses o sefydlu'r swyddfa newydd fynd rhagddi â chyn lleied o ymyrraeth ag sy'n bosibl.