Skip to content

Datganiad Llafar ar y Trydydd Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Heddiw cyhoeddwn ein trydydd adroddiad blynyddol ar weithredu ein strategaeth gofalwyr yng Nghymru. Yr wythnos hon yw wythnos y gofalwyr ac mae’n briodol inni gyhoeddi’r adroddiad i gyd-daro â digwyddiadau eraill a gynhelir ar draws y wlad i ddathlu’r cyfraniad a wna gofalwyr i’n cymdeithas a helpu i atgyfnerthu’r digwyddiadau hynny. Dosbarthwyd yr adroddiad i Aelodau’r Cynulliad yn gynharach heddiw. Yr ydym hefyd yn rhoi copi o’r adroddiad yn y Llyfrgell, a chaiff ei gyhoeddi hefyd ar ein gwefan i ofalwyr o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf.

Gwnaf sylwadau ar yr adroddiad yn nes ymlaen. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i’r bobl a’r mudiadau a’n cynorthwyodd yn y broses o roi’r strategaeth ar waith dros y 12 mis diwethaf. Hoffwn ddiolch hefyd i’n panel adolygu y strategaeth gofalwyr, sydd wedi helpu i lunio’r adroddiad a datblygu ein blaenoriaethau gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rhaid rhoi strategaethau ar waith, ac ni ellid bod wedi cyflawni fawr ddim heb ymdrechion ac ymrwymiad awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd gwladol a’r mudiadau gwirfoddol. Mae ein panel adolygu y strategaeth gofalwyr hefyd wedi chwarae rhan allweddol i lywio ein strategaeth. Yn ddiweddarach heddiw, cynhelir derbyniad a fydd yn rhoi cyfle i bob un ohonom gyfarfod â llawer o’r bobl sydd wedi ymwneud â’r adroddiad. Bydd gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, staff rheng-flaen gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau gofalwyr a gweithwyr eraill yn y maes hwn yn bresennol. Anogaf bob un ohonoch i ddod os gallwch, rhwng 5 p.m. a 7 p.m. Bydd yn gyfle gwych i gyfarfod â gofalwyr a gweithwyr eraill wyneb yn wyneb mewn sefyllfa anffurfiol er mwyn trafod y materion sy’n codi o’r adroddiad hwn ynghyd â phryderon y gofalwyr eu hunain a’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u cynorthwyo. Cyn troi at yr adroddiad, hoffwn roi adroddiad byr ichi ar rai o’r datblygiadau diweddaraf ers i’r papur fynd i’r wasg.

Yn gyntaf, cynllun grant gofalwyr ar gyfer 2003-04. Darparwyd £5.6 miliwn gennym mewn grantiau i awdurdodau lleol yng Nghymru eleni, sef cynnydd o £1 filiwn o gymharu â’r llynedd. Yr wyf bellach wedi cymeradwyo cynlluniau pob awdurdod lleol ar gyfer defnyddio’r arian hwn yn ffurfiol. Caiff copïau o’r rhain eu rhoi yn y Llyfrgell.

Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gofalwyr a’r sector gwirfoddol mewn ffordd effeithiol i lunio’r cynlluniau hyn yn allweddol i’r defnydd effeithiol o’r adnoddau hyn yn lleol. Yr ydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gwaith partneriaeth o’r fath ers i’n strategaeth gofalwyr gael ei lansio, tua thair blynedd yn ôl. Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon, a gofynnais i’m swyddogion gadw mewn cysylltiad agos â’r mudiadau dan sylw er mwyn sicrhau bod y deialog hwn yn parhau.

Pan drafodwyd yr ail adroddiad gennym mewn Cyfarfod Llawn yr haf diwethaf, nododd Aelodau bryderon y mudiadau gwirfoddol, a phryderon ynglyn â dyfodol ein cynllun grant gofalwyr. Ein bwriad gwreiddiol oedd trosglwyddo’r adnoddau grant hyn i grant cynnal refeniw awdurdodau lleol o Ebrill 2003, ond, yng ngoleuni pryderon yr Aelodau, cynhaliwyd ymgynghoriad y llynedd ynglyn â’r trefniadau ar gyfer y grant hwn yn y dyfodol. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais, yn sgîl yr ymgynghoriad hwn, y byddai’r grant gofalwyr yn parhau i fod yn grant uniongyrchol o’r Cynulliad am ddwy flynedd arall, ac y byddai’n cael ei drosglwyddo i grant cynnal refeniw awdurdodau lleol o Ebrill 2005.

Nod y grant oedd ysgogi’r broses o ddatblygu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr ac annog amrywiaeth a hyblygrwydd mewn gwasanaethau i ofalwyr. Er bod y pryderon a fynegwyd ynglyn â dyfodol y grant fel ffrwd ariannu ar wahân, ar un olwg, yn fesur o lwyddiant y grant, nid wyf am inni golli golwg ar yr amcan yn y pen draw, sef bod y ddarpariaeth a’r asesiad o wasanaethau a chymorth i ofalwyr yn dod yn rhan annatod o wasanaethau cymdeithasol prif ffrwd, yn hytrach na rhywbeth ychwanegol atynt. Mae’n briodol hefyd na chaiff penderfyniadau lleol ar flaenoriaethau lleol i ddiwallu anghenion a nodwyd yn lleol eu gwahanu oddi wrth reolaeth o’r adnoddau.

Mae’n dda gennyf gyhoeddi hefyd ein bod wedi cymeradwyo cynigion awdurdodau lleol ar gyfer cynnal pedwar cynllun peilot talebau yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Chaerdydd. Unwaith eto, caiff rhagor o fanylion am y cynlluniau peilot hyn eu rhoi yn y Llyfrgell. Byddwn yn monitro’r cynlluniau peilot hyn, ac yn eu gwerthuso tua diwedd y flwyddyn hon. Bwriadwn gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot i gyflwyno’r cynllun talebau ledled Cymru erbyn diwedd 2004.

Nid ymdriniaf â’r trydydd adroddiad fesul tudalen—gallwch ei ddarllen drosoch eich hunain—ond eleni, yr ydym wedi ceisio llunio dogfen ac iddi fwy o ffocws, sydd hefyd yn adnodd ymarferol. Yr ydym wedi cydnabod hefyd nad yw’r adroddiad llawn yn ddogfen gludadwy, felly yr ydym hefyd wedi llunio taflen gryno, y bwriadwn ei dosbarthu’n eang. Bydd yr adroddiad yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion gofalwyr a’r gwaith a wneir yng Nghymru i’w cynorthwyo. Nod y rhestr o gysylltiadau ar gefn yr adroddiad yw helpu pobl i gymryd y cam cyntaf, a’r cam anoddaf yn aml, i ddarganfod pwy y gallent droi atynt am yr help a’r cymorth y gall fod eu hangen arnynt.