Skip to content

Chwalu'r Rhwystrau - Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Ddraig Ffynci

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Y DDRAIG FFYNCI, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru yn Siambr y Cynulliad ac Ystafelloedd Cynadledda Bae Caerdydd ddydd Gwener 27 Mehefin.

Pwrpas y gynhadledd oedd hybu deialog rhwng y bobl ifanc ar Gyngor y Ddraig Ffynci a Llywodraeth y Cynulliad ar y materion sy'n peri'r pryder pennaf i blant a phobl ifanc Cymru.

Rhoddodd rhaglen y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyfle i'r Cyngor ac aelodau'r Ddraig Ffynci gyfarfod â nifer o Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad. Fel rhan o'r rhaglen cafodd y cynrychiolwyr wybod beth oedd agwedd Llywodraeth y Cynulliad at y materion sy'n flaenoriaeth iddynt a'r cyfleoedd sy'n bodoli i gydweithio ar y pethau pwysig hynny.  

Yn ystod y bore, cynhaliwyd sesiynau i blant a phobl ifanc drafod materion pwysig ar amrywiaeth o bynciau a fyddai'n eu helpu wedyn i lunio eu hagenda ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Aeth y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a minnau i'r gweithdai hyn i drafod y materion ac ateb cwestiynau.   Dyma brif themâu'r gweithdai:
 Materion Gwledig ac Amgylcheddol
 Cyflogaeth a Datblygu Economaidd
 Addysg a Bwlio
 Cyfleoedd Chwaraeon a Hamdden

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ffurfiol ar ôl cinio yn Siambr y Cynulliad a chafwyd adborth ar drafodaethau'r bore a'r etholiadau o ddiddordebau arbennig, cyfetholiadau a'r pwyllgor rheoli.  Ar y diwedd cafodd digwyddiadau'r diwrnod eu gwerthuso.  Ers hynny mae'r Ddraig Ffynci wedi cynnal cyfarfod Cyngor i lunio ei rhaglen waith flynyddol, ar sail trafodaethau gweithdy'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Fel yr ydych i gyd yn gwybod, mae cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau yn prysur ddod yn rhan ganolog o'n gwaith.  Er mor bwysig ydyw, dim ond un rhan o'n trefniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc yw'r Ddraig Ffynci. Mae gennym gynlluniau i greu Fforymau lleol ym mhob awdurdod lleol a chynghorau ysgol ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Mae angen inni gael plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ffordd nad yw'n symbolaidd ond sy'n sicrhau canlyniadau ac sy'n eu hysgogi, gan osgoi creu dadrithiad ynddynt â'r broses. Bydd yn cymryd amser cyn i blant a phobl ifanc gael eu cynrychioli'n briodol a chyn i'r broses ddwyn ffrwyth.  Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn cynnwys y rhai llai hyderus ac sydd wedi'u hymyleiddio, y rhai sy'n ei chael yn anodd mynegi eu safbwyntiau neu y mae'n anodd cael gwybod beth yw eu safbwyntiau.

Her enfawr fydd hon i bob un ohonom yn genedlaethol ac yn lleol. Mae angen inni addasu'r ffyrdd yr ydyn ni wedi bod yn cynllunio ac yn ymgynghori ac mae angen inni adeiladu ar y ffyrdd hynny. Bydd angen inni hefyd ddysgu sgiliau a dulliau newydd wrth wneud hynny.

Mae Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Ddraig Ffynci yn rhan bwysig o hyn, ac fe'i gwnaeth yn bosibl i blant a phobl ifanc drafod y materion oedd yn bwysig yn eu barn hwy, gyda'r Gweinidogion a chyda swyddogion y Cynulliad eu hunain. Mae hwn yn gam pellach tuag at sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru yn rhan ganolog o'r broses o wneud penderfyniadau o fewn Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y ffordd yr ymatebodd y cynrychiolwyr i'r gweithdai argraff wirioneddol arnaf.  Roedd eu brwdfrydedd, eu syniadau a'u hymrwymiad clir i ddylanwadu ar y polisïau sy'n effeithio arnynt ac i gyfrannu at ddatblygu'r polisïau hynny yn heintus.   Rwy'n gwybod nad siarad drosof fy hun yn unig yr wyf ond hefyd ar ran fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet a gymerodd ran yn y gweithdai pan ddywedaf imi gael budd mawr o'r sesiynau hyn.  Er mwyn i hyn weithio, yr her inni i gyd fydd dangos drwy'r hyn a wnawn ein bod yn gwrando ar blant a phobl ifanc Cymru a'n bod yn cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth.