Skip to content

Datganiad ar Ganolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh: Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Alun Pugh): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo’n rheolaidd i roi gwybod i Aelodau am y cynnydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ar ôl y bleidlais lethol o gefnogaeth gan yr holl bleidiau ar 22 Ionawr 2002. Yr wyf yn falch o roi gwybod i Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.

Gall Aelodau weld bod cynnydd sylweddol wedi bod ar yr adeiladwaith yr ochr draw i’r ffordd ers imi sôn am y mater hwn ddiwethaf. Gallwn weld mor drawiadol y bydd yr adeilad, gan fod y gwaith gwydr yn cael ei wneud yn awr, a’r geiriau’n ymddangos ar y ffrynt, a’r to dur rhyfeddol yn cael ei osod. Mae’n adeilad eiconig. Fe’i hadnabyddir ledled y byd a bydd yn gatalydd i fewnfuddsoddi.

Yr wyf yn falch o nodi bod cwmni Canolfan Mileniwm Cymru, sy’n gyfrifol am y prosiect, yn adrodd bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo’n brydlon ac yn unol â’r gyllideb o hyd. Mae’r dyddiad agor wedi’i bennu bellach, a bydd rhaglen artistig o’r radd flaenaf yn cychwyn ag wythnos o ddathliadau a fydd yn dechrau ar 26 Tachwedd 2004. Bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, rhai am ddim, rhai a ddarlledir a rhai â mynediad drwy docyn, a fydd â’r bwriad o gynnwys artistiaid a chwmnïau rhyngwladol nodedig. Disgwylir hyd at 400,000 o bobl dros y penwythnos hwnnw. Fel y gwyr Aelodau, mae tîm rhagorol yn gweithio ar y prosiect. Y prif weithredwr, Judith Isherwood, yw un o’r ychydig bobl yn y byd sydd â phrofiad o brosiect o’r maint hwn, a hithau’n gyn-gyfarwyddwr y celfyddydau perfformio yn Nhy Opera Sydney. Ers iddi gyrraedd ym Mawrth 2003, ailystyriwyd y rhaglen ddigwyddiadau. Yr un yw’r genhadaeth o hyd, fodd bynnag.

Bydd CMC yn gyrchfan ddiwylliannol o’r radd flaenaf a bydd yn hybu ein hamlygrwydd fel cenedl amrywiol ei diwylliant y tu hwnt i’n ffiniau, gan ddenu ymwelwyr a thwristiaid. Bydd yn fan i gynnal sioeau cerdd ysblennydd, opera gyda’r gorau yn y byd, bale, dawns a gwyliau. Bydd yn fwy o lawer, serch hynny, na chanolfan adloniant newydd. Bydd yn gartref ac yn weithle i saith corff diwylliannol cyffrous ac amrywiol, a bydd yn symbylu gallu creadigol. Bydd yn fan y gall pobl o bob oed, a chanddynt bob math o ddiddordebau, gymryd rhan mewn gweithgareddau artistig newydd, yn ogystal â phrofi’r doniau cartref a rhyngwladol gorau.

Mae amrywiaeth y cyrff preswyl yn dangos y bydd rhywbeth i bawb yno. CMC fydd cartref newydd Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae’n hen bryd inni gael cartref addas i’r ased ddiwylliannol Gymreig hon a gafodd glod ryngwladol. Wedi dweud hynny, yr oeddwn hefyd yn falch o weld bod cymorth ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi galluogi’r cwmni i ychwanegu ail dymor at ei raglen yn y Gogledd, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn perfformio eto ar ei ymweliad nesaf â Llandudno yr haf nesaf.

Bydd y cyrff preswyl eraill yn ychwanegu at y profiad ac yn denu llawer o bobl wahanol a chanddynt wahanol anghenion a diddordebau. Bydd CMC yn llwyfan rhyngwladol i Gwmni Dawns Diversions ac yn ganolfan newydd i Theatr Hijinx, a bydd yn mynd â chynyrchiadau arloesol oddi yno i gymunedau a phobl ag anableddau dysgu ledled Cymru. Bydd Ty Cerdd yn ffynhonnell wybodaeth un stop ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru, ac yn hybu gwaith mwy na 25,000 o gerddorion cymunedol, amatur a phroffesiynol yng Nghymru, yn ogystal â chyfansoddwyr Cymru. Bydd gan Academi ganolfan newydd i hyrwyddo llenorion a llenyddiaeth Cymru.

Edrychaf ymlaen yn arbennig at weld rhagor o waith y Touch Trust, amgylchedd therapi cyffwrdd a symud ar gyfer rhai ag anableddau dwys. Bydd presenoldeb Urdd Gobaith Cymru yn dod â bywiogrwydd arbennig i’r prosiect. Bydd y cyfleusterau preswyl yn cynnig profiad diogel ac iach o’r brifddinas a fydd yn denu miloedd o bobl ifanc o bob rhan o’n gwlad bob blwyddyn.

Mae CMC yn bwriadu sefydlu rhaglen anturCelf a fydd yn cynnig prosiectau addysg i blant ysgol, adloniant yn y cynteddau a’r neuadd, arddangosfeydd rhyngweithiol, darlleniadau barddoniaeth, dosbarthiadau meistri a gweithdai ymarferol. Gan hynny, bydd modd ymweld â’r adeilad a phrofi’r celfyddydau mewn sawl gwahanol ffordd heb orfod prynu tocyn ar gyfer perfformiad llawn.

Mae prosiect mor fawr yn dwyn risgiau yn ei sgîl bob amser, a bydd rhai ohonynt yn sylweddol. Yr wyf yn falch bod y cynghorwyr profiadol ac arbenigol a gyflogwyd gan gyngor y celfyddydau yn archwilio rhagamcaniadau cynllun busnes CMC yn fanwl ar hyn o bryd i sicrhau bod ffactorau allanol perthnasol yn cael eu hystyried. Bydd hynny’n helpu rheolwyr y ganolfan i gyrraedd ei thargedau ariannol, yn ogystal â chyflawni ei dyheadau artistig. I gynnig un enghraifft o risg, bydd Aelodau’n ymwybodol nad yw’r hinsawdd ar gyfer codi arian yn y sector preifat ar ei orau ar hyn o bryd. Mae amodau’r farchnad yn newid yn wastadol.

Mae cwmni CMC wedi gosod targedau ymestynnol iawn iddo’i hun ar gyfer codi arian, a disgwylir cael tua 20 y cant o holl gostau datblygu’r prosiect o ffynonellau elusennol a rhai yn y sector preifat. Mae Syr David Rowe-Beddoe, cadeirydd y ganolfan, a Judith Isherwood, y prif weithredwr, yn gwbl ymwybodol o’r angen diamod i gyrraedd eu targedau ariannol. Mewn cyfarfod diweddar, addawodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei chefnogaeth i’w hymdrechion. Gofynasom am gael gwybod ganddynt am y cynnydd yn y maes hwn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i roi cymorth cyfalaf o hyd at £37 miliwn i’r prosiect hwn. At hynny, ac yn gwbl ar wahân i hynny, darperir cymorth refeniw o £2 filiwn y flwyddyn. Mae nifer o’r cwmnïau preswyl yn yr adeilad hefyd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad drwy gyngor y celfyddydau. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r prosiect hwn yn amlwg ac yn sylweddol felly.

Bydd y ganolfan yn eicon diwylliannol byd-eang a fydd yn denu pobl o Gymru gyfan a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at yr agoriad swyddogol y flwyddyn nesaf a rhaglen gyffrous yn y blynyddoedd sydd i ddod. Gwnaf ddatganiad.