Skip to content

Datganiad ar ‘Cynllunio: Cyflawni dros Gymru’

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones: Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Aeth tua blwyddyn heibio ers i Sue Essex, y Gweinidog a chanddi gyfrifoldeb dros gynllunio ar y pryd, lansio rhaglen gynhwysfawr ar gyfer newid er mwyn rhoi ar waith y cynigion a geir yn ‘Cynllunio: Cyflawni dros Gymru’. Mae’r datganiad hwn yn cynnig cyfle delfrydol i edrych yn ôl ac adolygu’r hyn a gyflawnwyd a hefyd i edrych ymlaen ac ailddatgan yr angen i fwrw ymlaen â’r rhaglen ar gyfer newid. Ar y dechrau gosodasom y pum amcan allweddol a ganlyn ar gyfer ein system gynllunio: sicrhau ei bod yn agored, yn deg ac yn dryloyw, ei bod yn ennyn hyder yn y cyhoedd a busnes, ei bod yn gyflymach ac o ansawdd gwell, ei bod yn integreiddio â chynlluniau, prosesau a chamau gweithredu eraill, a’i bod yn bodloni amcanion cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r amcanion hynny’n adlewyrchu’r weledigaeth a bennwyd ar gyfer cynllunio yn ‘Cymru: Gwlad Well’ sy’n datgan bod:

‘Cynllunio: Cyflawni dros Gymru’ yn rhaglen ar gyfer newid sylweddol sy’n seiliedig ar weithio mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid allweddol, i sicrhau ein bod yn gwneud gwelliannau sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth cynllunio, a bod cymunedau gan gynnwys busnes yn cymryd rhan wrth wneud cynlluniau a phenderfynu.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, yr ydym wedi nodi mwy na 140 o dasgau unigol, ac amserlen ymestynnol ar eu cyfer. Bydd rhai’n gofyn gwaith manylach cyn y gallwn gyflwyno cynigion ar gyfer ymgynghori cyhoeddus. Gwneir cynnydd da ar rai ohonynt eisoes, a disgrifiaf enghreifftiau ohonynt mewn munud.

Yn gyntaf, cyfeiriaf at dri chyflawniad penodol. Yr arwydd pendant cyntaf o gynnydd oedd y clod a roddwyd i’r cymalau ar gyfer Cymru yn y Mesur Cynllunio a Phrynu Gorfodol pan oedd gerbron y pwyllgor perthnasol yn Nhy’r Cyffredin. Bu i Geoffrey Clifton-Brown, AS Ceidwadol dros Cotswold, grynhoi’r sefyllfa’n dwt: ar lawer ystyr, mae’n well gennym y system a gynigir ar gyfer Cymru na’r un a gynigir ar gyfer Lloegr. Mae’n symlach ac yn gweithredu’n fwy lleol, ac mae’n eglurach.

Yr wyf yn siwr bod y Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn cefnogi hynny, ac yr wyf yn siwr y bydd pawb yn cytuno mai peth da yw cael cymeradwyaeth o’r fath gan drydydd parti. Yn ail, gwyddom o brofiad fod cydweithio’n hollbwysig os ydym i lwyddo yng Nghymru. I’r perwyl hwnnw, yr oedd llofnodi cytundeb ar egwyddorion cynllunio rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac awdurdodau cynllunio lleol yn gynharach eleni, yn gyflawniad pwysig. Rhoddwyd cydnabyddiaeth hefyd i Gymru eleni am gynnal cynhadledd cynllunio cenedlaethol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghaerdydd, ac ysgol haf cynllunio gwlad a thref ym Mangor. I gyd-fynd â’r gynhadledd, cyhoeddais lawlyfr ar gyflawniadau cynllunio yng Nghymru, ac fe’ch anogaf i dreulio ychydig amser yn darllen drwy’r ddogfen honno, fel y cewch wybod am y gwaith cynllunio rhagorol a wneir yng Nghymru.

Yn awr, disgrifiaf rai enghreifftiau o gynnydd mewn sawl maes arall. Ymrwymais i gyfathrebu’n ehangach ynghylch ‘Cynllunio: Cyflawni dros Gymru’, a rhoddais strategaeth gyfathrebu ar waith i hysbysu a chynnwys rhanddeiliaid. Yn ogystal â gwella’r wefan, a hyrwyddo cyflwyniadau pellach ledled Cymru, yr wyf wedi comisiynu’r gwaith o gyhoeddi llythyr newyddion pwrpasol, y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ohono ar 1 Tachwedd. Ynghylch cyllido, darperais £1 filiwn i awdurdodau cynllunio lleol eleni i’w helpu i wneud gwelliannau yn eu gwasanaethau cynllunio. Mae hynny hefyd yn cynnwys rhaglen o welliannau y gellir eu cyflawni orau drwy brosiectau i Gymru gyfan fel hyfforddi aelodau. Darperir £2 filiwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf i barhau â’r gwaith hwn, ac i gadarnhau gwelliannau yn y gwasanaeth cynllunio. Daeth y cyfnod ymgynghori ar gylchlythyrau newydd i wella gorchmynion prynu gorfodol i ben ddiwedd Hydref. Mae’r cylchlythyr drafft yn elfen bwysig wrth gyflawni bwriad Llywodraeth y Cynulliad i symleiddio a chyflymu’r system prynu gorfodol a’i gwneud yn decach, gan hybu adfywio mwy gweithredol drwy hynny.

Bydd y cynlluniau datblygu lleol newydd yn elfen ganolog yn y system rheoli datblygu. Yn ogystal â hynny, yr ydym wedi ymrwymo i gyflwyno amrywiaeth mawr o newidiadau i bolisi a deddfwriaeth, sydd â’r bwriad o wella penderfyniadau, cynnig mwy o sicrwydd a chysondeb, a sicrhau gweithredu eglur a chyflym. Mae llawer o waith ar y gweill, a dechreuir cyflwyno newidiadau dros y misoedd nesaf. Y math o gynllun datblygu lleol a ragwelwn yw dogfen fwy ymatebol a phenodol, a fydd ar ei hennill o gael mewnbwn cynnar gan gymunedau a busnesau, ond a lunnir drwy broses lyfnach. Mae prosiect peilot wedi dangos bod modd lleihau cynnwys cynllun datblygu o tua 80 y cant, gan beri iddo fod yr un mor ddibynadwy ac addas i’w bwrpas, os nad yn fwy felly. Bydd ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a ‘Polisi Cynllunio Mwynau Cymru’ yn cael eu hadolygu a’u cyfuno’n un ddogfen tua diwedd y broses newid. Yn y cyfamser, mae’r gwaith yn ymwneud yn bennaf â nodiadau cyngor technegol a nodiadau cyngor technegol mwynau, ynghyd â’r rhaglenni ymchwil perthnasol. Sefydlwyd grwpiau o randdeiliaid i helpu a hwyluso timau rheoli’r prosiect yn y gwaith manwl o ddatblygu polisi a’i roi ar waith. Yn haf 2003, sefydlwyd dau grwp rhanddeiliaid ar gyfer gorchmynion prynu gorfodol a chynlluniau datblygu lleol. Bydd dau grwp pellach ar gyfer polisi cynllunio, gyda rheolaeth datblygu ac adnoddau, yn cynnal eu cyfarfodydd cyntaf cyn y Nadolig.

Yr wyf yn sicr y bydd y rhaglen uchelgeisiol hon yn arwain at greu gwasanaeth cynhwysol, tryloyw a rhagweithiol. Dymunaf adeiladu ar sail consensws, gan ddefnyddio’r cydberthnasau rhagorol a geir yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fforwm cynllunio Cymru dros y misoedd i ddod i ddatblygu’r moddau i roi’r rhaglen ar waith. Yn olaf, dywedaf eto fod yr amcanion a nodais ar ddechrau’r datganiad hwn yr un mor berthnasol yn awr ag yr oeddent flwyddyn yn ôl, os nad yn fwy felly. Gallwch fod yn dawel eich meddwl yr achubaf ar bob cyfle i gyd-drafod â chi wrth inni fwrw ymlaen â’r fenter hon.