Skip to content

Datganiad ar yr Ymgynghoriad ar ‘Y Wlad sy’n Dysgu: Llwybrau Dysgu 14-19’

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Hoffwn roi adroddiad ar y broses ymgynghori ar gyfer ‘Y Wlad sy’n Dysgu: Llwybrau Dysgu 14 –19’, a chrybwyll y materion a godwyd gan randdeiliaid. Mae’r Cynulliad, yn y Cyfarfod Llawn ac mewn Pwyllgor, eisoes wedi cael trafodaeth ar ddatblygiad y prosiect ar addysg ar gyfer y rhai rhwng 14 a 19 oed a’r cynigion sy’n deillio ohono.

Daeth y cyfnod ymgynghori ffurfiol i ben ar 7 Chwefror. Dilynodd hyn y gwaith cyn-ymgynghori helaeth iawn a gynhaliwyd yn ystod Mai a Medi 2002. Yr oeddem yn benderfynol na ddylai’r ymagwedd agored hon ddod i ben pan gyhoeddid y ddogfen. Felly, yr ydym wedi parhau i drafod y cynigion, y syniadaeth sy’n sail iddynt a’r materion sy’n gysylltiedig â hwy, gyda chynifer o randdeiliaid â phosibl, wyneb yn wyneb yn eu cynefin. Trefnwyd boreau coffi anffurfiol ar draws y wlad a siaradodd cannoedd o bobl o sawl sector â ni, ac â’i gilydd. Yr oedd ganddynt bryderon, gan fod y cynigion yn bell-gyrhaeddol. Fodd bynnag yr oedd ymchwydd y gefnogaeth i egwyddorion sylfaenol y cynigion—cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol—yn amlwg ac yn galonogol. Bydd y strwythur yn sicrhau hawl i bawb o’n pobl ifanc gael ystod o gyfleoedd a phrofiadau i’w cynorthwyo i ddatblygu’r ystod eang o sgiliau sydd eu hangen arnynt. Yr ydym wedi parhau i wrando ar bobl ifanc. Bu eu mewnbwn yn ystyrlon a heriol a bydd yn parhau i lywio ein syniadaeth.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad ffurfiol, ynghyd â chanlyniadau pob un o’n trafodaethau lleol, yn cael eu dadansoddi, a darperir adroddiad i’r Cynulliad hwn ac fe’i cyhoeddir ar y rhyngrwyd erbyn diwedd Chwefror. Fodd bynnag, mae negeseuon cryf yn dod i’r amlwg, a rhannaf rai ohonynt gyda chi heddiw.

Derbynnir yn gyffredinol y dylai’r pwyslais fod ar ddysgwyr yn gyntaf a bod yn rhaid i strwythurau ac is-systemau newid i ddiwallu anghenion dysgwyr. Cydnabyddir bod y cynigion hyn yn arwydd o newid radical yn y ffordd y bydd ein pobl ifanc yn cynllunio ac yn cael profiad o’u dysgu, ynghyd â chyffro petrus ynglyn â bod yn rhan o ddatblygu hwn. Ceir cefnogaeth i’r cydbwysedd arfaethedig rhwng dysg, cymhwysiad ymarferol a chymorth i ddatblygu sgiliau hanfodol, gan edrych ar bobl ifanc yn gyffredinol a rhoi ystyriaeth i bob agwedd ar eu bywydau. Cydnabyddir hefyd yr angen i ymgymryd â newid ar gyfer pobl ifanc o bob gallu. Mae’r cynigion hyn ar gyfer y disgleiriaf a’r gorau ynghyd â’r rheini sydd angen cymorth ychwanegol sylweddol.

Ceir dyhead cyffredinol, sy’n arbennig o gryf ymhlith pobl ifanc eu hunain, i’r systemau cymorth ar gyfer pobl ifanc fod cyn bwysiced â’r dewisiadau cwricwlwm a wnânt. Gwahaniaethwn yn y cynigion rhwng cymorth i ddatblygu llwybrau dysgu a chymorth personol cyffredinol mwy ysbeidiol ar adegau o angen, megis pan fydd person ifanc yn cael ei fwlio neu’n wynebu argyfwng teuluol, neu bod ganddynt broblem bersonol arall sy’n effeithio ar eu dysgu a’u bywyd. Mae gennym ddigon o dystiolaeth i ddatblygu model o hawliau i unigolion o ran eu llwybrau dysgu, i nodi’r set sgiliau sydd ei hangen i ddarparu’r hawl hwn, ac i nodi’r rheini sy’n gallu cyflawni’r rolau hyn. Mae llawer o arferion da eisoes yn bodoli y gallwn fanteisio arnynt. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu’r angen amlwg am gymorth.

Bu pobl ifanc hefyd yn eglur ynglyn â’r dewisiadau yr hoffent iddynt eu cael. Maent yn dymuno cael ystod llawer ehangach o ddewisiadau galwedigaethol. Ceir cefnogaeth eang i’r fagloriaeth Gymreig fel y cymhwyster cyffredin. Bydd y rhaglenni peilot sy’n dechrau ym mis Medi 2003 yn ein cynorthwyo i sicrhau y bydd yn gwbl addas ar gyfer y llwybrau dysgu a ddatblygwn pan gaiff ei gyflwyno. Rhaid inni sicrhau bod gennym y gallu i gyflwyno’r newidiadau radical hyn. Gwyddom y bydd yn costio mwy, a bwriadwn wneud gwaith ar unwaith ar fodelu’r cynigion i ganfod faint yn fwy y bydd yn ei gostio. Gwyddom y bydd anghenion hyfforddi ac y bydd angen i nifer o sefydliadau ddatblygu strwythurau cadarnach a mwy o bobl. Gwyddom beth yw arwyddocâd cymhwyster canolradd lefel 2 i unigolion a chymunedau. Bydd y rheini hebddo yn fwy tebygol o gael cyfnodau ysbeidiol o gyflogaeth dros gyfnod byr, gyda chyfnodau hir o ddiweithdra, ac ennill cyflogau gryn dipyn yn llai. Gwyddom mewn ardaloedd lle ceir niferoedd mawr o bobl heb gymhwyster canolraddol, fod lefel is o gynnyrch mewnwladol crynswth y pen ac iechyd gwaeth. Gwyddom hefyd fod canran fawr o droseddwyr ifanc yn cael trafferthion gyda sgiliau sylfaenol. Mae’r rhain yn ddadleuon grymus, sydd wedi cael llawer o gefnogaeth ledled Cymru.

Nodwyd hefyd elfennau cyffredin arwyddocaol rhwng y cynigion cam sylfaenol i blant rhwng tair a saith oed a’r athroniaeth ar gyfer y cam i rai rhwng 14 a 19 oed. Mae gan yr ymagweddau tuag at ddysgu, dewis a hyblygrwydd yn y cwricwlwm, asesu a chofnodi, cymorth ac arweiniad, trefniadaeth a gweithrediad a sicrwydd ansawdd, lawer sy’n gyffredin, a bydd yn creu asgwrn cefn cryf ar gyfer datblygu ymagweddau tuag at ddysgu a grëwyd yng Nghymru i bob grwp oedran.

Yr ydym wedi awgrymu y dylai rhwydweithiau lleol ar gyfer rhai 14 i 19 oed fod yn gyfrwng ar gyfer cynllunio darpariaeth ehangach a mwy hyblyg i’r rhai 14 oed a hyn. Mae sawl rhan o Gymru eisoes yn datblygu swyddogaeth o’r fath. Fe’m calonogir yn fawr i glywed bod rhai ardaloedd eisoes yn gweithio tuag at roi’r cynigion hyn ar waith. Mae Colegiwm Caerdydd wedi arloesi gyda rhai o’r syniadau hyn, ac mae gan Sir Gaerfyrddin gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhwydweithiau 14 i 19 oed i ymestyn ystod y dewisiadau galwedigaethol a dewisiadau eraill i’w pobl ifanc, wedi’u cysylltu’n agos â chonsortia cymunedol ar gyfer addysg a hyfforddiant a phartneriaethau pobl ifanc, ynghyd â datblygu strategaethau arloeswr ar gyfer e-ddysgu.

Bwriadwn drafod y cynllun gweithredu yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Ebrill. Gwyddom fod llawer o waith i’w wneud o hyd. Fodd bynnag, yr hyn sydd mor galonogol o’r ymatebion hyd yn hyn yw parodrwydd pobl ym mhob sector gwaith i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r manylion. Bu’r prosiect 14 i 19 oed yn enghraifft o bartneriaeth wirioneddol mewn datblygu polisi.