Skip to content

Datganiad ar Gynlluniau Busnes ar gyfer Awdurdodau Tai Lleol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Edwina Hart AM
Datganodd y strategaeth dai genedlaethol, 'Gwell Tai i Bobl yng Nghymru', ein bod yn bwriadu cynhyrchu canllawiau ar baratoi cynlluniau busnes ar gyfer y stoc tai, yn dilyn ymgynghoriad, gyda'r bwriad o'u cyflwyno erbyn mis Ebrill 2003.

Mae cynllunio busnes yn elfen allweddol o sicrhau y caiff stoc tai cyngor eu rheoli a'u cynnal a'u cadw yn effeithiol yn yr hirdymor. Bydd yn galluogi awdurdodau i weithredu'n effeithiol o fewn amcanion ehangach yr awdurdod. Bydd yn sicrhau bod gan bob awdurdod asesiad cliriach o anghenion buddsoddi a sut i'w diwallu, bydd yn gwneud ei gyfrif refeniw tai yn fwy tryloyw ac yn fodd i reoli perfformiad a llywio refeniw a gwariant cyfalaf yn y dyfodol.

Sefydlwyd gweithgor ymgynghori mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Datblygwyd canllawiau ac fe’u dosbarthwyd i bob awdurdod lleol ym mis Tachwedd 2002. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu cynllun busnes enghreifftiol ac wedi cynnal tri sesiwn hyfforddi, yn y de, y canolbarth a'r gogledd, i hwyluso gwybodaeth bellach a sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu ac yn defnyddio ymagwedd gyson ledled Cymru wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Yr wyf hefyd wedi cymeradwyo cymorth ariannol, o dan adran 16 Deddf Tai 1985, i hyfforddi staff ac aelodau awdurdodau lleol. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau Cymru wedi gwneud cais am arian ac maent wedi cael eu cymeradwyo.

Gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yw y dylai pob teulu yng Nghymru gael yr hawl i fyw mewn cartrefi o ansawdd da. Datblygwyd y safon ansawdd tai i Gymru er mwyn darparu safon gyffredin ar gyfer cyflwr pob cartref yng Nghymru. Datblygwyd canllawiau yn benodol er mwyn helpu awdurdodau lleol i asesu eu stoc tai yn erbyn y safon. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu'r goblygiadau o ran gwella'r stoc er mwyn cyrraedd y safon erbyn 2012. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau cyffredinol cychwynnol o gyflwr stoc yr awdurdodau lleol a'r buddsoddiad sydd ei angen i gyrraedd y safon, gan gynnwys goblygiadau o ran arian cyfalaf a refeniw, wedi cael eu cyflwyno eisoes. Caiff yr asesiadau cychwynnol hyn eu mireinio a'u hymgorffori yng nghynllun busnes pob awdurdod lleol.

Mae angen symud yn gyflym ar ddatblygu cyfundrefn gynllunio fwy llym a strwythuredig ar gyfer buddsoddi yn stoc awdurdodau lleol. Y gobaith yw y bydd awdurdodau lleol wedi mynd i'r afael â llawer o'r elfennau sydd wrth wraidd datblygu cynllun busnes cadarn, gan gynnwys asesu anghenion tai, y farchnad dai leol, gwybodaeth am y stoc tai, a'i berthnasedd i newidiadau demograffig, polisïau rhentu, a barn tenantiaid a phreswylwyr a rhagamcanion o adnoddau.

Dylai'r gwaith o ymgynghori â thenantiaid, lesddeiliaid, staff a phartneriaid allweddol fod yn rhan ganolog o'r cam dadansoddi wrth lunio strategaeth. Bydd sawl opsiwn sydd ar gael yn cynnig dewisiadau a ddylai gael eu llywio gan farn rhanddeiliaid allweddol, a bydd llwyddiant y strategaethau yn dibynnu ar ymrwymiad yr un grwpiau o bobl. Disgwyliaf i'r cynlluniau busnes cyntaf gael eu hanfon ataf erbyn mis Ebrill 2003.