Skip to content

Datganiad Llafar ar Ad-drefnu’r Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt AC
Bydd Aelodau yn gwybod inni benderfynu beth amser yn ôl cadw’r 20 cyngor iechyd cymuned yng Nghymru a chryfhau eu swyddogaethau a’u statws fel cyrff annibynnol. Mae’r staff ac aelodau o gynghorau iechyd cymuned yn ymrwymedig i gynrychioli cleifion, ac yr ydym yn ddiolchgar am eu gwasanaeth. Derbyniwyd ers tro bod ganddynt y potensial i ddod hyd yn oed yn fwy effeithiol ar ran cleifion. Dyna pam y penderfynasom fynd ar drywydd pwerau ychwanegol drwy Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2003.

Aeth Mesur Iechyd (Cymru) drwy’r Senedd heb ei ddiwygio—cryn gamp a thestament i’r berthynas waith lwyddiannus rhwng y Cynulliad a Swyddfa Cymru. Yr oedd hefyd yn un o’r Mesurau Cymru yn unig cyntaf i fod yn destun craffu cynddeddfwriaethol, a roddodd y cyfle i ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys ein Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wneud sylwadau ar y Mesur drafft. Rhydd y Ddeddf bwerau i’r Cynulliad wneud rheoliadau ar swyddogaethau cynghorau iechyd cymuned ac yn fuan byddaf yn cyflwyno set newydd o reoliadau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a ddaw i rym tua diwedd y flwyddyn. Mae’r rheoliadau hynny wedi’u cynllunio i alluogi’r cynghorau iechyd cymuned i weithredu eu swyddogaethau wedi’u cryfhau ac yn rhoi fframwaith cynhwysfawr iddynt ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prif newidiadau yn cynnwys darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion annibynnol ledled Cymru, gan weithio yn ôl safonau cyffredin, a chaniatáu mynediad i eiddo gofal sylfaenol a mannau eraill lle y darperir gofal gan y GIG. Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu corff statudol i Gymru gyfan i gefnogi a chynghori cynghorau iechyd cymuned yn eu rôl, ac yn caniatáu i enwau cynghorau iechyd cymuned gael eu newid, pe bai hynny o fudd i gleifion a defnyddwyr. Y prif newid arall yw y gall y Cynulliad wneud rheoliadau ynghylch aelodaeth o’r cynghorau iechyd cymuned. Ymysg y materion eraill i’w cynnwys yn y rheoliadau mae trefniadau ar gyfer trafodion a chyfarfodydd, penodi swyddogion, adroddiadau, cyflawni swyddogaethau yn cynnwys cyrff iechyd yn ymgynghori â chynghorau iechyd cymuned, a gwybodaeth a roddir i gynghorau iechyd cymuned.

Bydd y rheoliadau yn nodi swyddogaeth statudol newydd ar gyfer eiriolaeth cwynion. Ar 12 Mehefin lansiais wasanaeth eiriolaeth cwynion y cynghorau iechyd cymuned, a fydd yn rhoi help a chymorth i bobl sy’n dymuno gwneud cwyn yn erbyn y GIG. Mae llawer o gynghorau iechyd cymuned, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi rhoi cymorth o’r fath i bobl. Er mwyn sicrhau cysondeb y gwasanaeth ledled Cymru, datblygwyd safonau cenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion, tebyg i’r rhai a ddatblygwyd ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Bydd y rheoliadau yn nodi hawliau mynediad ac archwilio estynedig i’r cynghorau. Am y tro cyntaf, rhoddir yr hawl iddynt gael mynediad i eiddo lle y darperir gwasanaethau iechyd teulu. Bydd hyn yn cynnwys meddygfeydd a deintyddfeydd a chartrefi nyrsio preifat lle y darperir gofal gan y GIG. Mae hwn yn bwer newydd pwysig, sy’n golygu y gall y cynghorau iechyd cymuned bellach, er budd cleifion, ymweld ag unrhyw le y darperir gofal gan y GIG. Pe bai cyngor iechyd cymuned yng Nghymru yn dymuno archwilio cyfleusterau yn Lloegr a ddefnyddir gan gleifion o Gymru, gallai wneud hynny. Byddai gan fforymau cleifion bwerau dwyochrog i wneud yr un peth o ran eiddo yng Nghymru a ddefnyddir gan gleifion sy’n byw yn Lloegr. Yn ymarferol, mae’n debygol y bydd cynghorau iechyd cymuned yn cyd-drafod gyda’u cynghrau cyfatebol yn Lloegr i drefnu adolygiadau o’r fath.

Byddwn hefyd yn gwneud darpariaethau ar gyfer gwelliannau i aelodau’r cynghorau. Bydd y rheoliadau yn nodi bod cyfran lai o aelodau i gael eu henwebu gan lywodraeth leol a’r sector gwirfoddol, a nifer fwy o aelodau i gael eu recriwtio drwy hysbysebion agored. Mae llawer o aelodau awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig mewn cynghorau iechyd cymuned, a rhaid inni adeiladu ar yr arbenigedd a’r cymorth hwnnw. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd greu cyfleoedd newydd i bobl eraill wasanaethu ar gynghorau iechyd cymuned, yn arbennig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Yr ydym yn ystyried ffyrdd o wneud hynny yn unol â Chod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Benodiadau Cyhoeddus, i sicrhau bod y trefniadau yn agored ac yn dryloyw. Gobeithiaf y bydd yn bosibl treialu rhai trefniadau etholiadol uniongyrchol mewn nifer fechan o gynghorau iechyd cymuned. Byddwn hefyd yn rhoi canllawiau arfer da cyson i lywodraeth leol a’r sector gwirfoddol i’w cynorthwyo i ddewis ymgeiswyr.

Bydd y rheoliadau hefyd yn sefydlu corff newydd i Gymru gyfan ar gyfer cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, a elwir yn fwrdd cynghorau iechyd cymuned. Fe’i sefydlwyd eisoes ar ffurf cysgod gorff ac mae’n cynnwys cynghorau iechyd cymuned. Bydd y bwrdd yn cynghori ac yn cynorthwyo cynghorau iechyd cymuned i gyflawni eu swyddogaethau, a bydd ei gyfarwyddwr yn darparu cymorth unigol cyson i brif swyddogion cynghorau iechyd cymuned. Drwy gorff o’r fath, gallwn roi dulliau ar waith i sicrhau bod cynghorau iechyd cymuned yn cynrychioli cleifion a’r cyhoedd mewn ffordd gyson ledled Cymru, tra’n gwarchod eu hannibyniaeth a’u gallu i ddelio gyda blaenoriaethau lleol fel y gwelant yn dda. Bydd y corff newydd hefyd yn gallu cynrychioli safbwynt y claf yn fwy effeithiol ar lefel Cymru gyfan.

Ni fydd y rheoliadau yn ymdrin â newid enw, mater a drafodwyd yn helaeth gan y cynghorau iechyd cymuned. Y teimlad ar hyn o bryd yw nad oes angen newid yr enw ond os bydd hyn yn ddymunol gellid cyflawni hynny drwy wneud Gorchymyn yn ddiweddarach.

Edrychaf ymlaen at dderbyn sylwadau o’r ymgynghoriad arfaethedig ac at ddychwelyd i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cynulliad yn yr hydref gyda set derfynol o reoliadau. Credaf yn gryf y bydd swyddogaethau newydd, cryfach y cynghorau iechyd cymuned a’u hymwneud â’r byrddau iechyd lleol newydd yn ysgogi cleifion a’r cyhoedd i gymryd rhan lawn a gweithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel.