Skip to content

Datganiad ar Gyhoeddiadau Gweinidogol Llywodraeth y DU

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Prif Weinidog: Rhodri Morgan

Gwnaf ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru yn yr ad-drefnu ar y Cabinet ac ar y newidiadau o ganlyniad i hynny a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Iau yr wythnos diwethaf. Y ffaith bwysicaf yw imi gwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, fore Llun, fel y gwnaf bob yn ail ddydd Llun oni bai fod rhaid iddo ef neu myfi roi sylw i fusnes brys. Gwnaethom drafod amryw o faterion, gan gynnwys y rhaglen ddeddfwriaethol sy’n codi o Araith y Frenhines ym mis Tachwedd, y bydd gennym fuddiant ynddi. Ar wahân i’r drafodaeth honno, yr oedd ein cyfarfod yn ddigon tebyg i’r arfer.

Bu llawer o ddyfalu yn y wasg, a hynny’n gwbl briodol, ynghylch yr hyn y mae’r newidiadau’n ei olygu, yn enwedig i Gymru. Serch hynny, bu rhywfaint o’r dyfalu hwnnw’n fwriadol gamarweiniol a negyddol—yn ddefodol, bron. Felly, er mwyn egluro’r sefyllfa, Peter Hain yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru o hyd, mae Swyddfa Cymru o hyd yn Gwydyr House yn Whitehall yn Llundain ac yn Discovery House, y drws nesaf i’r Cynulliad ym mae Caerdydd.

Rhoddaf fanylion yr unig wahaniaethau pwysig sy’n ymwneud â ni yng Nghymru. I ddibenion gweinyddol, mae Swyddfa Cymru wedi’i lleoli bellach o fewn yr Adran dros Faterion Cyfansoddiadol newydd, sydd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol newydd, yr Arglwydd Falconer o Thoroton, yn bennaeth arni. Peter Hain yw Arweinydd Ty’r Cyffredin hefyd ond nid ef yw Arglwydd Lywydd y Cyngor, sy’n golygu nad yw’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â’r Cyfrin Gyngor. Cyflawnir y ddyletswydd honno gan yr Arglwydd Williams o Fostyn. Don Touhig, yr Aelod Seneddol dros Islwyn, yw Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Swyddfa Cymru o hyd, ac ef a fydd yn cyflwyno deddfwriaeth Gymreig gerbron y Pwyllgor yn Nhy’r Cyffredin. I ddibenion gweinyddol, bydd yn eistedd yn yr adran y mae’r Arglwydd Falconer yn ben arni, sef yr Adran dros Faterion Cyfansoddiadol, ond bydd yn adrodd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, a byddant yn cymryd cwestiynau Cymreig gyda’i gilydd.

Prin bod hynny’n fradychiad mawr o fuddiannau Cymru fel yr awgrymodd rhai. Mae’r newidiadau a gynigir i beirianwaith Llywodraeth y DU yn bwysig, ond maent yn ymwneud â’r cynigion hanesyddol ar gyfer gwahanu priodol rhwng y farnwriaeth, y ddeddfwrfa a’r weithrediaeth. Byddant yn sicrhau bod cyfansoddiad Prydain yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid yw’r hyn a ddigwyddodd mewn cysylltiad â Cymru, a’r Alban o ran hynny, yn yr un cae.

Ystyriwch am eiliad ddiben swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a diben Swyddfa Cymru. Fel y gwelaf y sefyllfa, ac fel y gwn y mae Peter Hain yn ei gweld, priod rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yw cynrychioli buddiannau Cymru yn Llywodraeth y DU, yn enwedig mewn cysylltiad â deddfwriaeth sylfaenol a negodi bloc Cymru ac, ar adegau, i geisio canoli mewn anghydfodau. Nid oes dim o hynny wedi newid. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol hefyd am gynrychioli Cabinet y DU a Llywodraeth y DU yng Nghymru, ac ni newidiodd hynny ychwaith.

Fodd bynnag, gadewch inni ddeall yn glir na fu’r Ysgrifennydd Gwladol erioed yn unig, neu hyd yn oed yn brif, gyfrwng cyfathrebu rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid yw’n wir o gwbl fod yr holl gyswllt â Whitehall yn cael ei gyfeirio drwy Discovery House yma neu Gwydyr House yn Llundain. Mae’r rhan fwyaf o’r cysylltu’n digwydd yn uniongyrchol â’r Gweinidogion a’r Adrannau sy’n gyfrifol am bob maes polisi. Yn wir, rhaid iddi fod felly os yw’r Cynulliad i gael ei ystyried yn gorff aeddfed drwy ei hawl ei hun o ran llunio polisi, yn hytrach nag un o greadigaethau datganoli’n unig. Cawn ein trin yn gydradd, fel y dylem, yn hytrach na gorfod mynd yn ostyngedig at Ysgrifennydd Gwladol Cymru bob tro. Mae hynny’n gweithio’r ddwy ffordd. Nid yw Swyddfa Cymru yn bod er ein mwyn ni’n unig, ond hefyd i gynghori adrannau Llywodraeth y DU ynghylch materion sy’n ymwneud â Chymru.

Wrth i lywodraeth ddatganoledig ddod yn llai o newyddbeth ac yn fwy o wirionedd, ac wrth i adrannau ddod yn fwy abl i ymdrin â ni’n uniongyrchol, gellid dadlau y bydd llai o angen rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru a rôl Swyddfa Cymru. Efallai ei bod yn anorfod y câi statws Swyddfa Cymru a Swyddfa’r Alban, ac Ysgrifenyddion Gwladol llawn amser yn ben arnynt, ei ailystyried. Mae’r ffaith ei fod wedi’i ailystyried yn dyst i lwyddiant datganoli, nid ei fethiant.

Felly, mae’n amlwg nad yw’r rhai sy’n credu ein bod wedi ein torri’n rhydd rywsut, o safbwynt yr unoliaethwr neu’r cenedlaetholwr, erioed wedi deall yn iawn sut y mae’r system yn gweithio, a pham y mae’n gweithio’n dda. Mae hynny cyn wired am ddeddfwriaeth sylfaenol ag ydyw am bob dim arall. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dal i ymgynghori â’r Cynulliad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer pob blwyddyn, a byddwn yn dal i weithio gydag ef a’i gydweithwyr i sicrhau’r fargen orau i Gymru. Gadewch inni beidio ag anghofio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ei rôl arall fel Arweinydd Ty’r Cyffredin, yn chwarae rôl ganolog a phwerus wrth benderfynu’r rhaglen ddeddfwriaethol bob blwyddyn gan mai ef yw cadeirydd y pwyllgor deddfau. Mae arnom angen perthynas agos a chytûn â Llywodraeth ganolog, fel y mae’r holl lywodraethau datganoledig a rhanbarthol drwy’r byd. Gwnaethom sicrhau hynny gryn amser yn ôl, ac ni welaf ddim yn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf a wnaiff beryglu hynny. Mewn gwirionedd, mae’n rhoi sêl bendith arni.