Skip to content

Cymorth I Fyfyrwyr ac Ariannu Addysg Uwch yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Mae llawer o'r swyddogaethau sy'n effeithio ar addysg uwch yng Nghymru eisoes wedi'u datganoli i'r Cynulliad. Un eithriad yw cymorth i fyfyrwyr.  Mae'r swyddogaeth honno'n cael ei gweinyddu ar ran Cymru a Lloegr gan yr Adran Addysg a Sgiliau.

Mae'n dda iawn gen i gyhoeddi gyda'm cyd-weinidogion yn San Steffan, ein bod wedi cytuno gyda chabinet y DU ar ffordd ymlaen. Y bwriad yn awr yw cyflwyno deddfwriaeth i roi pwerau newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol dros y ffïoedd a godir am addysg uwch a thros y cymorth a roddir i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch.

Rwyf wedi cael trafodaethau manwl am sefyllfa'r Cynulliad gyda Charles Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau a Peter Haine, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ers rhai misoedd bellach. Mae'n dda gen i ddweud inni gytuno ar yr egwyddorion bras a fydd yn sail i'r cynigion i ddatganoli ffïoedd dysgu, rheoli mynediad a'r system gymorth i fyfyrwyr yn y ddeddfwriaeth arfaethedig.

Mae llawer o waith i'w wneud eto ynghylch y manylion a'r ffordd y caiff y drefn ar gyfer codi ffïoedd dysgu ac elfennau'r system gymorth i fyfyrwyr eu trosglwyddo inni. Bydd llawer o'r gwaith ar yr agweddau ariannol, gweithredol ac ymarferol yn dechnegol iawn eu natur. Byddwn yn parhau i weithio ar y manylion dros yr haf a'm bwriad yw gwneud datganiad yn yr hydref cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn San Steffan.

Barn Llywodraeth y Cynulliad yw y dylai'r ddeddfwriaeth roi'r rhyddid inni allu dewis dyddiad cychwyn y newid. Dylai fod yn ddigon hyblyg hefyd inni allu eu trosglwyddo'n rhwydd ac effeithiol, gan amharu cyn lleied â phosibl ar ddysgwyr fel cwsmeriaid. Rydym yn rhagweld y caiff y pwerau dros ffïoedd dysgu eu trosglwyddo cyn blwyddyn academaidd 2006/07. Byddai hynny'n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth y Cynulliad gadw at addewid y maniffesto i beidio â chyflwyno 'Ffïoedd Ychwanegol' yn ystod yr ail Gynulliad. A throi at y mater arall, Medi 2006 yw'r rownd derbyn myfyrwyr cynharaf y byddai'n ymarferol trosglwyddo'r system gymorth i fyfyrwyr i Gymru.

Trwy ddatganoli'r pwerau dros gymorth i fyfyrwyr, daw'r Cynulliad, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn gyfrifol am addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr. O ganlyniad, byddwn yn gallu edrych ar y system yn ei chyfanrwydd a thros amser, byddwn yn gallu dylunio a darparu system gymorth fydd yn adlewyrchu strategaeth ehangach Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg uwch ac yn arbennig, ein hagendâu ar Ehangu Cyfleoedd a Chynhwysiant Cymdeithasol.

Mae angen pwyso a mesur ein polisi ar ffïoedd ychwanegol yn y dyfodol a sut i ddatganoli cymorth i fyfyrwyr i Gymru. Byddwn felly yn cynnal astudiaeth annibynnol i'r materion hyn, dan gadeiryddiaeth yr Athro Teresa Rees, gan gadw buddiannau sector addysg uwch Cymru yn amlwg mewn cof.

Bydd disgwyl i'r grwp ystyried ffïoedd ychwanegol a'm cynghori ar y ffordd orau ymlaen i Gymru. Bydd yn fy nghynghori hefyd ar sut i ddefnyddio'r pwerau dros gymorth myfyrwyr i gael y canlyniadau gorau posibl i Gymru.

Bydd Cabinet y Cynulliad yn cadw golwg ar y cynigion datganoli hyn, gam wrth gam. Fe ddown i'n penderfyniad llawn a therfynol wedi inni wneud gwaith pellach gyda'n cydweithwyr yn San Steffan ac ar ôl ymgynghori â'r sector, awdurdodau addysg lleol, y Pwyllgor hwn ac eraill.

Bydd datganoli'r swyddogaethau hyn yn gyfle cyffrous i adeiladu ar ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol - yn enwedig o ran ehangu cyfleoedd a chryfhau'r sector addysg uwch yng Nghymru. Dyna ein prif flaenoriaethau o hyd.