Skip to content

Datganiad Llafar ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog Cyllid Edwina Hart
Cyhoeddodd y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru ei adroddiad ar 3 Gorffennaf 2002. Mae’n adroddiad pwysig, sy’n gwneud argymhellion pwysig ar sut y gallwn wella ein democratiaeth leol. Yr wyf wedi cymryd camau i sicrhau y rhoddir yr ystyriaeth fwyaf i’r argymhellion hyn a, phan fydd cytundeb, eu bod yn arwain at eu rhoi ar waith. Mae’r adroddiad yn cynnwys 33 o argymhellion. Byddai angen deddfwriaeth ar rai ohonynt yn Senedd y DU, mae angen deddfwriaeth y Cynulliad ar rai a gall Llywodraeth y Cynulliad neu lywodraeth leol roi eraill ar waith o dan ddeddfwriaeth bresennol. Ar sawl mater, bydd rôl i’r Comisiwn Etholiadol. Yn dilyn yr adroddiad, cynhaliais ymarfer ymgynghori eang ar bob un o’r argymhellion. Ymhlith y rhai yr ymgynghorwyd â hwy yr oedd llywodraethau lleol, pleidiau gwleidyddol, y Comisiwn Etholiadol, sefydliadau cydraddoldeb, sefydliadau ieuenctid a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill, yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd. Cyflwynais ganlyniadau’r ymgynghoriadau hyn i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Rhagfyr. Bwriadaf fynd ati i weithredu sawl un o’r argymhellion yn awr. Yr wyf wedi sefydlu gweithgor o swyddogion o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol a’r Comisiwn Etholiadol i gynllunio’r broses o’u rhoi ar waith. Bwriadaf ddarparu adroddiad cynnydd interim tua diwedd Mawrth ac adroddiad terfynol ym Mehefin 2003.

Ymhlith yr argymhellion mae sawl un y bydd angen i awdurdodau lleol weithredu arnynt. Yr wyf wedi ysgrifennu at Syr Harry Jones, arweinydd CLlLC, i ofyn a wnaiff awdurdodau lleol weithredu sawl un o’r argymhellion a gafodd gefnogaeth eang yn yr ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd gan y comisiwn a myfi fy hun. Ymatebodd Syr Harry Jones gan ddweud bod CLlLC yn fras o blaid llawer o’r argymhellion a mynegodd ddiddordeb penodol mewn gweithredu ar yr argymhellion sy’n ymwneud ag ehangu cyfranogiad a mynediad i’r broses etholiadol. Hysbysais yr Athro Eric Sunderland, cyn gadeirydd y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru, o’n cynnydd hefyd. Derbyniodd fy ngwahoddiad i gadeirio’r grwp astudio ymchwil sy’n ystyried rôl a swyddogaethau cynghorau tref a chymuned y dyfodol yng Nghymru, gan chwarae rhan felly mewn gweithredu ei argymhelliad ei hun.

Yn gynharach y mis hwn, gofynnais i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ystyried argymhelliad i ostwng oedran pleidleisio ac ymgeisyddiaeth. Cafwyd sêl bendith unfrydol ar y cynnig hwn yn y Pwyllgor a bwriadaf yn awr gyflwyno sylwadau priodol i’r perwyl hwn. Yn ddiweddar, lansiodd y Comisiwn Etholiadol adolygiad o oedran pleidleisio ac ymgeisyddiaeth a byddaf yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o argymhellion y Cynulliad a’r comisiwn, ac o’r gefnogaeth o fewn y Cynulliad.

Erys un argymhelliad nad oes consensws ar ei gyfer sef creu wardiau aml-aelod ac ethol cynghorau drwy un bleidlais drosglwyddadwy. Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y dylid gadael y mater hwn tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad ym Mai.