Skip to content

Ymddygiad Gweinidogion yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Prif Weinidog Cymru

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol arfaethedig, disgwylir i Weinidogion gynnal hyd braich priodol rhwng eu dyletswyddau swyddogol ar y naill law a'u rôl o fewn y blaid neu'r etholaeth ar y llaw arall.  Byddai unrhyw ymddygiad sy'n golygu bod swydd y Gweinidog neu adnoddau swyddogol yn cael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu yn groes i'r Cod Gweinidogol ac yn cyfeiliorni o ran egwyddor.  Felly, rwyf i a fy nghyd-Weinidogion wedi cytuno ar egwyddorion y byddwn yn glynu atynt trwy gydol yr ymgyrch. Nodir y rhain isod.

O ddechrau toriad y Pasg tan ddiwrnod yr etholiad, ni fydd Gweinidogion yn cyflawni unrhyw alwad proffil uchel swyddogol a chyhoeddus, nac yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau mawr.  Ni fydd Gweinidogion yn ymgymryd â'r fath weithgareddau:

  • os yw'n debygol o ddenu sylw'r cyfryngau, ar y lefel leol neu ar y lefel genedlaethol, heblaw am gyfeiriadau dibwys neu arwynebol; a/neu
  •  os yw'n ymdrin â mater sy'n ddadleuol yn wleidyddol.

Serch hynny, bydd angen i Weinidogion barhau i ymdrin â busnes dyddiol y llywodraeth yn ystod yr ymgyrch. Gall hynny gynnwys ymdrin â gohebiaeth, gwneud penderfyniadau gweithredol neu gynnal cyfarfodydd preifat. Serch hynny, ni ddylid ymgymryd â'r gweithgaredd os byddai'r meini prawf uchod yn cael eu torri petai'r mater dan sylw yn cael ei wneud yn gyhoeddus.  Byddwn yn trefnu y bydd ein hymrwymiadau ymgyrchu yn caniatáu i waith y llywodraeth gael ei gyflawni.

Fel arall, bydd Gweinidogion yn rhydd i reoli eu hymrwymiadau ymgyrchu eu hunain, fel y maent hwy a'u pleidiau yn gweld yn dda, yn union fel y mae'r Aelodau yn gyffredinol yn rhydd i wneud hynny.  Serch hynny, bydd disgwyl iddynt osgoi cyfeirio'n benodol at eu swydd fel Gweinidog at ddibenion ymgyrchu, na gwneud hynny mewn deunydd cyhoeddusrwydd at ddibenion yr etholiad, heblaw am nodi ffeithiol mewn unrhyw nodyn bywgraffyddol yn eu gohebiaethau etholiadol.

Ar ddibenion pob gweithgaredd etholiadol a phleidiol, dylid cyfeirio at y Dirprwy Brif Weinidog a minnau yn rhinwedd ein swyddi fel arweinwyr ein pleidiau, sef: Arweinydd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.