Skip to content

Datganiad Llafar ar y Strategaeth Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Cyhoeddodd Charles Clarke heddiw ei strategaeth ar gyfer addysg uwch yn Lloegr. Datganolir y rhan fwyaf o’r swyddogaethau sy’n effeithio ar addysg uwch yng Nghymru i’r Cynulliad. Yr ydym yn glir ynghylch buddiannau addysg uwch i’r unigolyn, i gymunedau ac i economi ehangach Cymru. Dyna pam mae’n flaenoriaeth gennym i ddatblygu polisi 10 mlynedd cydlynol a strategol ar gyfer y sector hwnnw—‘Ymgeisio yn Uwch’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2002. Mae strategaeth Llywodraeth y DU yn cyfateb yn sylweddol â’r un yr ydym eisoes yn ei gweithredu yng Nghymru. Mae’n nodi gweledigaeth sector wedi ei nodweddu gan ragoriaeth ac amrywiaeth. Mae’n gosod addysgu rhagorol ac ehangu mynediad fel amcanion allweddol i bawb. Mae’n cydnabod pa mor bwysig ydyw i bob sefydliad ddatblygu cryfder yn ei genhadaeth ddewisol, boed hynny’n ymchwil, yn addysgu neu’n drosglwyddo gwybodaeth. Mae’n cymeradwyo’r egwyddor bwysig bod yn rhaid i addysg uwch fod ar gael i bawb all gael mynediad iddi.

Mae un maes lle na ddatganolir polisi. Mae a wnelo â’r fframwaith ariannu i gynnal myfyrwyr. Yr wyf yn falch bod Llywodraeth ganolog wedi penderfynu o blaid yr ymagwedd y buom yn pwyso amdani ers cyhoeddi adroddiad Rees yn 2002, sef diddymu ffioedd dysgu ‘ymlaen llaw’ a chyflwyno cyfraniad gwaddol graddedigion, yn amodol ar incwm ar ddiwedd cwrs. Derbyniwn yr egwyddor, a sefydlwyd gan Rees, y dylai unigolion gyfrannu at gost eu haddysg, ochr yn ochr â buddsoddiad y Llywodraeth. Fodd bynnag, dylai hynny fod yn daladwy ar ôl y profiad addysg a chroesawn y trothwy ad-dalu mwy o £15,000. Mae hynny’n cael ei gynnig yn awr gan Charles Clarke.

Mae’r Papur Gwyn yn gwneud cynigion newydd ar gyfer ariannu addysg uwch, gan gynnwys system ffioedd newydd, diddymu ffioedd dysgu ymlaen llaw ac ailgyflwyno grantiau cynhaliaeth. Croesawn yn arbennig yr arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr, a fydd yn anelu at sicrhau bod gan fyfyrwyr ddigon ar gyfer y pethau sylfaenol tra eu bod yn y brifysgol. Mae’r Llywodraeth hon yn y Cynulliad wedi rhoi ei system ei hun o gymorth i fyfyrwyr ar waith, a fydd yn parhau. Bydd angen i Gymru ymateb hefyd i amgylchiadau newydd ac efallai y bydd angen pwerau newydd arni i wneud hynny. Nid yw’r materion yn rhai syml. Fodd bynnag, dylai fod gan y Cynulliad y cyfle i wneud y penderfyniadau hyn ei hun, yn dilyn ymgynghori priodol yng Nghymru. Dyna pam fy mod yn falch bod Charles Clarke wedi dweud heddiw ein bod yn trafod y posibilrwydd o ddatganoli cyllid myfyrwyr i Gymru. Mae hwn yn faes cymhleth a byddwn yn parhau i drafod y manylion yn yr wythnosau i ddod. Rhydd hyn gyfle mawr newydd inni ddatblygu’r gwaith a ddechreuwyd gennym ar sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, ehangu mynediad a sefydlu sector addysg uwch yn gryfach byth.

Nodaf y byddai cynigion y Papur Gwyn yn galluogi sefydliadau addysg uwch i godi ffioedd o fewn ystod a bennir gan y Llywodraeth, ynghyd â chynigion ar gyfer cymorth ychwanegol i’r rhai gwaethaf eu byd. Fel yr eglurais yn fy llythyr at Charles Clarke ym mis Rhagfyr, mae Llywodraeth y Cynulliad yn glir bod ffioedd dysgu ymlaen llaw, ac yn yr un modd, ffioedd ychwanegol, yn gweithio yn erbyn annog mwy o fyfyrwyr o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig i addysg uwch. Ni chaiff ffioedd ychwanegol eu cyflwyno tan 2006, sy’n rhoi digon o amser i gynnal trafodaethau difrifol yng Nghymru, ymhlith dysgwyr a sefydliadau addysg uwch, ar sut y gallai’r cynnig hwn fod yn berthnasol yng Nghymru neu beidio. Mae Charles Clarke yn rhannu cred y Cynulliad y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb all elwa ohoni. Fodd bynnag, ni rannwn darged 50 y cant Llywodraeth y DU, y gellid ei gyrraedd heb newid cyfansoddiad ein myfyrwyr. Yr wyf wedi dewis canolbwyntio ar recriwtio o grwpiau cyfranogiad isel. Dyna pam y cyflwynasom grant dysgu’r Cynulliad. Ategwn hynny drwy gefnogi mesurau blaengar, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ac a anelir at anghenion rhanbarthol. Yr ydym yn anelu at dargedu plant o oedran iau, yn ogystal â’r rhai yn y gymuned a’r rhai sydd eisoes mewn addysg bellach.

Er mwyn i ni gael ein hystyried yn llwyddiannus o ran ehangu mynediad, rhaid inni sicrhau hefyd fod pob myfyriwr yn cael profiad o ansawdd da. Dyna pam, yn gyffredin â Charles Clarke, yr ydym am feithrin rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu. Yr ydym yn awyddus i ddatblygu a gwobrwyo rhagoriaeth mewn agwedd ar waith sefydliadau addysg uwch nas gwerthfawrogir ddigon a byddwn yn cydweithio’n agos â’r Adran Addysg a Sgiliau a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr. Mae’r cynigion ar statws prifysgol a phwerau dyfarnu graddau yn berthnasol i ni, a byddwn yn cydweithio’n agos â’r Adran Addysg a Sgiliau i’w datblygu. Er mwyn diwallu anghenion myfyrwyr anhraddodiadol, a galwadau cenhedlaeth o fyfyrwyr sy’n cyfrannu at gost eu haddysg, mae’n rhaid inni gynnig safonau uchel. Mae hynny wrth wraidd ‘Ymgeisio yn Uwch’. Fodd bynnag, pe bai problemau’n codi, mae’n bwysig iddynt gael eu trin yn sensitif ac yn deg. Dyna pam y cefnogaf y cynigion ar gyfer gweithdrefn gwyno annibynnol newydd. Rhaid i ansawdd addysg uwch fod y tu hwnt i amheuaeth. Heddiw, canolbwyntiais ar elfennau cynnal myfyrwyr strategaeth Lloegr, eu cyswllt ag ehangu mynediad, a’r agenda addysgu. Serch hynny, parhaf i ganolbwyntio ar ymchwil a defnyddio gwybodaeth i’r eithaf fel cryfderau ynddynt hwy eu hunain, wrth iddynt effeithio ar brofiad myfyrwyr ac fel rhywbeth sy’n cyfrannu at yr economi ehangach.

Croesawaf sefydlu Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y DU, a fydd yn sicrhau cyfartaledd rhwng y pynciau hyn â’r gwyddorau. Rhaid inni gadw cyffelybrwydd safonau ymchwil ledled y DU. Nid ydym yn dymuno achub y blaen ar yr adolygiad o asesiad ymchwil. Fodd bynnag, parhawn i gynnal trafodaethau agos â chydweithwyr yn Lloegr i sicrhau nad yw eu cynigion ar gyfer mesur 6* o berfformiad ymchwil yn rhoi ein sefydliadau o dan anfantais.

Mae hon yn adeg gyffrous i addysg uwch. Seiliwyd ein strategaeth ar asesiad manwl o’r sector a’n hanghenion yng Nghymru. Erys hynny yn ganolbwynt ein polisi yng Nghymru, ac mae’r cynnydd a wnaed eisoes gyda’n hagenda ailgyflunio yn galonogol. Disgwyliaf i’r sefydliadau barhau i ganolbwyntio ar y gwaith pwysig hwn a fydd yn agor y drws i welliannau yn y dyfodol a rhagoriaeth ymhob maes. Mae strategaeth Lloegr yn cynrychioli pecyn cadarnhaol o gynigion, gan ddangos dylanwad y polisïau yr ydym yn mynd ar eu trywydd ac effeithiolrwydd ein perthynas â Llywodraeth y DU. Croesawaf y cyhoeddiad heddiw.