Skip to content

Datganiad Llafar ar Wasanaethau Trên

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd Sue Essex
Mae’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol wedi cyhoeddi rhai penderfyniadau sy’n ymwneud â’r DU gyfan. Bydd fy natganiad yn trafod sut y bydd y penderfyniadau hyn yn effeithio ar Gymru. Mae’n seiliedig ar wybodaeth gyhoeddus, ond hefyd ar y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda Richard Bowker mewn cyfarfod y gofynasom amdano yr wythnos diwethaf. Byddaf hefyd yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae dwy agwedd i’r penderfyniadau a gyhoeddwyd gan yr SRA. Amlinellaf effaith y naill a’r llall ar Gymru. Yn gyntaf, cyhoeddwyd gostyngiad i nifer o wasanaethau ar 16 Ionawr i wella dibynadwyedd drwy ysgafnu’r pwysau ar amserlen rhy lawn ar draws Prydain Fawr. Effeithir ar dde Cymru gan ostyngiad o fis Mai yn y gwasanaethau ar draws gwlad sydd newydd eu cyflwyno gan gwmni Virgin o’r De i Birmingham, gogledd-ddwyrain Lloegr a’r Alban o saith i ddau, gan gynnwys tynnu un gwasanaeth y dydd o Abertawe yn ôl. Yn ogystal, yn y Gogledd mae’r SRA wedi cadarnhau heddiw y bwriedir cwtogi ar y saith gwasanaeth bob ffordd rhwng Llundain a’r Gogledd a gyflwynwyd gan Virgin. Tybia’r SRA ar hyn o bryd y bydd tri neu bedwar trên 125 mya newydd bob ffordd, yn gweithredu ar amserlen gyflymach na’r gwasanaeth cyfredol, o hydref 2004. Mae’r gostyngiadau yn y ddau wasanaeth a gynigir gan Virgin yn siomedig iawn. Er y bu problemau o ran dibynadwyedd yn y De, gwelwyd manteision gwirioneddol yn sgil y gwasanaethau rheolaidd modern ychwanegol ar draws gwlad i Ganolbarth Lloegr a thua gogledd Lloegr a’r Alban. Mae’n anffodus iawn bod Abertawe wedi colli ei un gwasanaeth uniongyrchol. Ymgyrchodd cyd-Aelodau sy’n cynrychioli’r Gogledd, yma ac yn San Steffan, yn galed am welliannau i’r gwasanaeth. Yr wyf yn siomedig i’w hymdrechion gael eu tanseilio gan gyhoeddiad yr SRA heddiw.

O ran yr ail agwedd ar benderfyniadau’r SRA, mae’n addasu ei raglenni yn y flwyddyn nesaf i fodloni rheolaethau cyllidebol. Gwneir hyn yn bennaf drwy gwtogi ar grantiau dewisol, megis y cynllun partneriaeth teithwyr rheilffyrdd, y gronfa perfformiad rheilffyrdd, cronfeydd ar gyfer cyfleusterau cludo nwyddau yn Lloegr a grantiau mynediad i draciau. Dim ond y cynlluniau sydd wedi’u gosod ar gontract eisoes a gaiff eu datblygu gan yr SRA erbyn hyn. Y grant i’r bartneriaeth teithwyr rheilffyrdd yw’r grant mwyaf arwyddocaol i Gymru. Bu’n allweddol i wella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Buom yn arbennig o lwyddiannus wrth gael arian cyfalaf ac arian refeniw gan yr SRA, a nodwyd fel modd i wireddu’r dyheadau a amlinellir yn ein fframwaith trafnidiaeth. Ceir dau gynllun yn arbennig lle mae arian y bartneriaeth teithwyr rheilffyrdd yn hollbwysig ar hyn o bryd. Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith ar y seilwaith ar gyfer ailagor llinell Bro Morgannwg a chredwn fod yr SRA yn ymrwymedig i gefnogi’r broses o gyflwyno gwasanaethau i deithwyr ar y llinell hon. Yn ogystal, ar ôl cwblhau gwaith yn Aberpennar, bydd modd rhedeg gwasanaethau yn amlach i Aberdâr o fis Hydref. Mae swyddogion wrthi’n cynnal trafodaethau gyda’r SRA ynglyn â’r cynlluniau hyn, sydd â blaenoriaeth uchel yn ein barn ni, a disgwylir i’r sefyllfa gael ei datrys yn fuan. Gofynnwyd am arian o dan y bartneriaeth teithwyr rheilffyrdd hefyd ar gyfer cynllun rheilffordd glyn Ebwy. Er na fydd angen yr arian hwnnw tan 2005, bydd yn anodd i’r SRA ymrwymo i gymeradwyo’r cais hwn. O ystyried yr ansicrwydd hwn, a’r angen i bawb sy’n gysylltiedig ag adfywio Glynebwy fod yn hyderus y cyflwynir y gwasanaeth rheilffordd hwn mor fuan â phosibl, cytunais â’r Gweinidog Cyllid y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi’r arian ychwanegol y gofynnwyd amdano o dan y cais hwn i’r bartneriaeth teithwyr rheilffyrdd. Mae ein hymagwedd tuag at y sefyllfa hon, a gododd yn annisgwyl, yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y prosiectau hyn yn mynd rhagddynt. Maent yn allweddol i amcanion pwysig, yn arbennig datblygu ein polisi trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau ein dibyniaeth ar geir, adfywio cymunedau a rhoi cyfleoedd i bobl chwilio am swyddi tra’n parhau i fyw yn eu cymunedau presennol.

Disgwyliwn gyhoeddiad gan yr SRA ar fasnachfraint Cymru a’r gororau ym mis Mai. Fe gofiwch efallai i’r SRA ofyn i bob un a oedd yn gwneud cais am y masnachfreintiau a oedd yn weddill baratoi ceisiadau a oedd yn gofyn am 10 ac 20 y cant yn llai o gymhorthdal ochr yn ochr â chynigion ar gyfer gwella gwasanaethau. Rhoddwyd sicrwydd i mi a’r Prif Weinidog mai diben yr ymarfer hwn yw rhoi gwell gwerth am arian o weithredu’r rheilffyrdd. Cydnabyddwn fod costau yn cynyddu yn y diwydiant rheilffordd, a bod yr SRA o dan bwysau i’w rheoli. Fodd bynnag, mae masnachfraint Cymru a’r gororau yn rhoi cyfle inni sefydlu dyfodol hirdymor i’r rheilffyrdd yng Nghymru.

Fel y gwyr pawb, yr wyf yn gryf o blaid cynyddu pwerau’r Cynulliad dros drafnidiaeth gyhoeddus a’r rheilffyrdd, ac yr ydym wedi cynnig Mesur trafnidiaeth i gwmpasu hyn. Mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, ac yn fwyaf diweddar, y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, wedi cefnogi cais Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cadarnha’r cyhoeddiadau hyn ein hymrwymiad i gael pwerau i gyfarwyddo’r SRA gan alluogi inni ddiogelu buddiannau rheilffyrdd Cymru.