Skip to content

Datganiad ar Flaenraglen Waith Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, First Minister
Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i osod gerbron y Cynulliad a phobl Cymru ar ddechrau’r tymor newydd hwn flaenraglen waith Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ers yr etholiad ym Mai, yr ydym wedi rhoi agenda strategol newydd ar waith ar gyfer Cymru sy’n mynegi’r uchelgeisiau yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn bwriadu eu dilyn er mwyn ein gwlad, ac sy’n troi’r uchelgeisiau hynny’n set o bolisïau a chamau gweithredu ymarferol. Yn benodol, mae’r ddogfen ‘Cymru: Gwlad Well’, a gyhoeddaf heddiw, yn cyflwyno agenda bendant ar gyfer creu dyfodol sy’n rhoi lle canolog i gyfiawnder cymdeithasol, ac yn ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd. Mae’n cynnig gweledigaeth ac yn egluro sut y mae’r cwbl yn ffitio gyda’i gilydd i wella bywyd pobl yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gydag eraill i wireddu’r weledigaeth, ac mae’n cyflwyno ei strategaeth fel hyn fel y bydd ein partneriaid ym mhob rhan o gymdeithas yng Nghymru yn gallu gweld yn glir beth yr ydym yn ceisio’i gyflawni mewn partneriaeth. Y bwriad yw y bydd y strategaeth hon yn cael ei thrafod mewn cyfarfodydd o gynghorau partneriaeth llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a busnes.

Un o brif amcanion dogfen yr agenda strategol yw nodi ein hamserlen ar gyfer gweithredu’r ymrwymiadau maniffesto a wnaed yn ystod yr etholiad. Yr oedd y maniffesto hwnnw’n cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle y mae ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol yn profi’n sylfaen ar gyfer datblygu a ffyniant. Cefnogwyd yr addewidion a gyflawnwn am y gellid gweld eu bod yn rhan o weledigaeth strategol ar gyfer trawsnewid Cymru, lle y câi mwy o bobl gyfle i gyfrannu i economi Cymru, a chael budd ohoni, lle y byddai pobl yn mwynhau gwell iechyd a lle y gallem adeiladu ar sail cryfder cymunedau Cymru. Yr ydym yn byw mewn oes lle y daeth yn ffasiynol dibrisio maniffestos fel pethau sy’n perthyn i’r gorffennol—yn hen ffasiwn, yn cael eu hanwybyddu gan y pleidleiswyr ac yn anghydnaws â’r oes aflonydd hon sy’n cael ei thra-arglwyddiaethu gan y cyfryngau. Yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad, aeth y Llywodraeth hon ati’n fwriadol i herio’r uniongrededd newydd ffasiynol hwnnw. Rhoesom le canolog i’n maniffesto yn ein neges i bobl Cymru. Yn ogystal â’n prif faniffesto, gwnaethom gyhoeddi cyfres o ddogfennau manylach—maniffestos bach—a oedd wedi’u hanelu at grwpiau cymdeithasol penodol, neu at rannau o Gymru. Dro ar ôl tro yn ystod yr ymgyrch honno, pwysleisiais fod ein maniffesto yn agenda ar gyfer Cynulliad pedair blynedd llawn.

Dywedwyd llawer o bethau hurt yn yr wythnosau yn union ar ôl 1 Mai. Awgrymwyd bod y maniffesto hwnnw yn ddogfen na pharhâi’n fawr hwy na chylch bywyd gwybedyn Mai—ei bod i gael ei rhoi ar waith heb oedi a’i hanghofio wedyn. Fodd bynnag, mae’r ddogfen sydd ger eich bron heddiw’n dangos y gwahaniaeth rhwng y wleidyddiaeth arwynebol a geir mewn dadl a’r busnes go iawn o wneud gwahaniaeth parhaol ym mywydau pobl. Rhoddaf ychydig enghreifftiau o’r rhaglen yr ydym yn ei chyflwyno a’r modd yr adlewyrchir hynny yn y busnes y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei ddwyn gerbron y Cynulliad hwn yn ystod yr hydref.

Yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf, byddwn yn cael dadl ar gynnig gan y Llywodraeth a fydd yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddiddymu’r holl daliadau presgripsiwn yng Nghymru cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2007. Mae taliadau presgripsiwn eisoes tua 5 y cant yn is yn ôl eu gwir werth nag yr oeddent pan sefydlwyd y Cynulliad yn 1999. Mae cleifion yng Nghymru eisoes yn talu mwy na 3 y cant yn llai na chleifion yn Lloegr am bob eitem a ragnodwyd. Bellach yr ydym yn barod ar gyfer y cam nesaf ymlaen a bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgrifio hynny yn ystod y ddadl. Un o’n haddewidion amlycaf yn ystod yr etholiad oedd y byddem yn sicrhau y câi cleifion weld aelod o’r tîm gofal sylfaenol o fewn 24 awr. Mae negodiadau manwl am y dulliau ymarferol o gyflawni’r addewid honno wedi mynd rhagddynt yn gyflym yn ystod yr haf, ac yr wyf yn ffyddiog bellach y byddwn yn gallu cyhoeddi ymhen rhai wythnosau y bydd yr ymrwymiad maniffesto hwnnw’n cael ei gyflawni’n fuan. Mae’r gallu i gael gofal sylfaenol yn gyflym yn rhan hanfodol o agenda Wanless, ac mae hynny’n sicr o fod yn allweddol er mwyn atal derbyn achosion yn ddiangen yn y sector aciwt. O fewn chwe mis ar ôl yr etholiadau ym Mai, mae Cymru’n gosod y safon yn hyn o beth.

Yn gynnar yn y tymor hydref hwn, bydd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno cynllun i wireddu’r cynnig o frecwastau am ddim yn yr holl ysgolion cynradd yng Nghymru. Yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd y cynllun ar waith eisoes ym mhob ysgol o’r fath mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, a chaiff ei estyn wedyn i weddill Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i sicrhau y caiff cyfres o ymrwymiadau eraill eu rhoi ar waith yn gynnar. Bydd y Llywodraeth yn canfod amser o hyn tan y Nadolig i ddwyn datblygiadau polisi gerbron y Cynulliad sy’n ymwneud â’r bwriad i sefydlu banc gwybodaeth a chomisiynydd pobl hyn, ynghyd â chynlluniau gweithredu mewn cysylltiad â nofio am ddim ar gyfer pobl hyn a gofal am ddim yn y cartref i bobl anabl. Wrth gwrs, mae strategaeth ar gyfer llywodraethu yn fwy na swm y mentrau a’r polisïau unigol: ceir y busnes parhaus o lunio polisi a gweithredu a ddaw ger eich bron yn ystod yr hydref. Bydd y Gweinidog Cyllid yn cynnal proses y gyllideb yn unol â’r amserlen arferol. Bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn adrodd ar gynllun gweithredu Wanless i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac i’r Cyfarfod Llawn. Bydd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn cynnwys y Cynulliad yn y gwaith o adolygu’r cynllun partneriaeth sector gwirfoddol, fel y mae statud yn mynnu y gwneir ar ôl pob etholiad i’r Cynulliad.

Bydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yn arwain dadl yn y Cynulliad ar gymorth i fusnes, y cynllun gweithredu ar gyfer arloesedd ac entrepreneuriaeth. Bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn adrodd ar y negodiadau ar ddiwygio’r polisi amaethyddol cyffredin, sydd mor hanfodol i Gymru, ac yn cynnwys y Cynulliad hwn mewn ymgynghori er mwyn diweddaru ac ail-lunio ein cynllun datblygu cynaliadwy.

Strategaeth ar gyfer gweithredu yw honno. Gwyddom i ble’r ydym yn mynd. Cawsom y mandad gan bobl Cymru, a byddwn yn rhoi i’r Cynulliad hwn un o’r llwythi gwaith mwyaf sylweddol y bu’n rhaid iddo ymwneud ag ef yn ystod unrhyw un o’n tymhorau blaenorol. Bydd hynny’n galw am lefel wahanol o ddisgyblaeth ar ran y pleidiau a’r Aelodau hynny sydd â gwir ddiddordeb yn y busnes sylfaenol o ddefnyddio ein pwerau datganoledig i greu Cymru sy’n iachach, yn gyfoethocach, yn gallach ac yn fwy diogel—Cymru ar newydd wedd sydd wedi’i gwreiddio o hyd yn y gwerthoedd Cymreig o degwch a chyfiawnder cymdeithasol, ac sy’n rhoi lle canolog i’r amcan o greu ffyniant cynaliadwy yn ein gwaith o lunio polisi. Mae’r Llywodraeth hon wedi cyflwyno ei hagenda ar gyfer creu ‘Cymru: Gwlad Well’. Er mwyn cael byw yn y wlad honno, rhaid inni greu’r amodau ar ei chyfer yn gyntaf, ac yr ydym yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Caiff y Cynulliad ei fesur yn ôl ei allu i ymateb i’r heriau sydd o’i flaen. Yr ydym yn benderfynol na wnawn byth gam â phobl Cymru.