Mae tair rhan i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd; cefnogi polisi'r DU; cynyddu pwerau datganoledig a gweithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Yr argymhellion:
Cefnogi Polisi'r DU
Argymhelliad 1: Cefnogi targedau effeithlonrwydd ynni llywodraeth y DU trwy hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ym mhob maes ac ar bob lefel.
Mae llawer o'r hyn y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud yn cefnogi polisi'r DU. Mae hynny i'w weld yn amlwg yn y gwaith y mae'r cyrff allweddol eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Er enghraifft, mae Ymrwymiad Tlodi Tanwydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni drwy'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES). Y nod yw sicrhau bod llai o gartrefi'n cael eu cyfrif yn rhai sy'n dioddef tlodi tanwydd ac asesu cyflwr y stoc tai cymdeithasol a rhoi rhaglen ar waith i'w trwsio a'u gwella.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 2: Cefnogi'r strategaeth CHP ac annog Llywodraeth y DU i adolygu'r cosbau a roddir i safleoedd sy'n defnyddio CHP trwy'r Trefniadau Masnachu Trydan Newydd (NETA).
Un llwyddiant mawr sy'n ategu strategaeth CHP y DU yw'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Adennydd ar gyfer Airbus UK Limited ym Mrychdyn. Mae buddsoddi mawr mewn CHP wedi cyfrannu at ddefnyddio 50% yn llai o ynni. Mae hynny'n werth £100,000 i'r cwmni dros gyfnod o 12 mis a rhagwelir y bydd modd arbed rhagor eto.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 3: Hyrwyddo'r cynlluniau a'r cymorth sydd ar gael trwy'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'r Ymddiriedolaeth Garbon, oherwydd bod y rhain yn berthnasol i gartrefi a chwmnïau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Garbon Cymru (CTW) a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST) mewn sawl ffordd. Yn y sector domestig mae EST yn gweithio mewn partneriaeth â ni i roi'n Hymrwymiad Tlodi Tanwydd yng Nghymru ar waith. Mae cynllun arall yn cynnwys cefnogi rhaglen ffotofoltaig genedlaethol lle rhoddwyd dros £500,000 i chwe phrosiect yng Nghymru. Mewn sectorau annomestig, mae gwaith Ymddiriedolaeth Garbon Cymru (hyd yma eleni) yn cynnwys y llwyddiannau a ganlyn o dan faner Energy Action; daeth 42 o geisiadau Energy Action i law a chawsant eu cymeradwyo; cafwyd 45 o ymholiadau am gynlluniau benthyca. Bu Rhaglen Arloesi Carbon Isel CTW yn adeiladu ar waith y flwyddyn a aeth heibio a chododd nifer ac ansawdd y ceisiadau.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Cynyddu Pwerau Datganoledig
Argymhelliad 4: Datblygu a mabwysiadu ei dystysgrif 'Draig Werdd' ei hun ar gyfer adeiladau sy'n perfformio'n well na'r safonau gofynnol ar gyfer cynaliadwyedd. Dylai fonitro perfformiad y cynllun hwn.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n astudio potensial ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd sy'n cael grant tai cymdeithasol gael asesiad ECOHomes (disgwylir yr adroddiad terfynol cyn diwedd eleni). Fersiwn yw ECOHomes ar Ddull Asesu Amgylchedd Sefydliad Ymchwil Prydain (BREEAM) a ddefnyddir ar gyfer swyddfeydd ac adeiladau diwydiannol a masnachol. Dyma system raddio syml iawn ar gyfer defnyddio ynni, trafnidiaeth, llygredd, deunyddiau, dwr, defnyddio tir ac ecoleg, iechyd a lles. Mae'n ffordd ddefnyddiol o fesur cynaliadwyedd ac, yn dibynnu ar y targed a ddewisir, gellid ei defnyddio i greu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Gweithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol
Argymhelliad 5: Pennu...uned...a fydd yn gyfrifol am gydlynu a monitro'r gwaith i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ar draws Cymru gyfan...dylai ystyried ffyrdd i gael pobl ifanc ac ysgolion i gymryd rhan yn hyn...
O ran yr argymhelliad ar ddull o fonitro ac adrodd ar hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yng Nghymru mae Cynllun Gweithredu Arbed Ynni'n cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Bydd yn canolbwyntio ar gydlynu darpariaeth a chyfathrebu ac mae ein Tîm Ynni'n gweithio ar ein hymateb i Bapur Gwyn y DU ar Ynni.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 6: Ceisio adeiladu adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn esiampl ac yn ddatganiad clir o ymrwymiad Cymru i ddatblygiad cynaliadwy. Dylai sicrhau....ei fod yn arddangos yr arferion gorau yn y maes effeithlonrwydd ynni.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai adeilad newydd y Cynulliad fod yn esiampl o arfer da o ran effeithlonrwydd ynni a thystio i ymrwymiad Cymru i ddatblygiad cynaliadwy. Mae dyluniad yr adeilad newydd yn bodloni meini prawf safon "rhagoriaeth" BREEAM o ran arferion gorau mewn dylunio a rheoli amgylcheddol. Bydd yr adeilad hefyd:
- yn defnyddio systemau goddefol ac awyru naturiol i wresogi ac oeri'r adeilad
- yn defnyddio system Cyfnewid Gwres y Ddaear fel System Oeri Canolog. Bydd yn:
- Darparu'r system oeri fwyaf effeithlon
- Defnyddio technoleg eco-gyfeillgar
- Para am gyfnod hir
- yn defnyddio Bwyler Tanwydd Coed yn System Gwres Canolog, a fydd yn:
- Darparu'r system wresogi fywaf effeithlon
- Defnyddio technoleg eco-gyfeillgar
- Defnyddio coed fel tanwydd ac felly'n garbon niwtral
- Gollwng dim Co2
- Defnyddio naddion pren neu beledi pren, sydd ar gael yn lleol
- yn defnyddio mas thermol (concrit) i wresogi ac oeri'r adeilad yn oddefol
- yn arbed 30-50% o'r costau rhedeg
Goblygiadau Ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad
Argymhelliad 7: Trefnu adnoddau ychwanegol, er enghraifft cronfeydd Amcan 1, i gefnogi mentrau effeithlonrwydd ynni lleol, gan gynnwys gosod paneli solar.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyfrannu tuag at brosiectau Dwr Haul mewn Tai Cymdeithasol (SWISH) i ariannu ceisiadau gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Bydd prosiect SWISH yn helpu i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer defnyddio ynni'r haul i wresogi dwr yn y sector tai cymdeithasol (yn dai hen a newydd).
Awgrymir hefyd y dylid gwneud mwy o ddefnydd o arian Amcan 1. Mae strategaeth amgylcheddol yn gyffredin i Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewrop ac mae hynny'n cynnwys cyfleoedd i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Un enghraifft o hynny yw'r rheidrwydd i adeiladau gyrraedd safonau amgylcheddol uchel yn unol â Mesurau Safleoedd ac Adeiladau Amcan 1.
Ymhlith y prosiectau a gafodd arian o Ewrop i wella perfformiad amgylcheddol busnesau, gan gynnwys defnyddio ynni'n fwy effeithlon, mae:
- Prosiect Arloesi a Chystadlu Amgylcheddol Rhwydwaith Arena (grant Amcan 1: £1.5 miliwn) Nod y prosiect yw annog busnesau i wella'u perfformiad amgylcheddol. Conglfaen y rhaglen yw brand newydd y Ddraig Werdd y gall busnesau weithio tuag ato drwy wella'u perfformiad amgylcheddol fesul dipyn. Bydd y safon newydd yn ffordd i fusnesau gael cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau amgylcheddol ac elwa ar well rheoli amgylcheddol a'r manteision marchnata a ddaw yn sgil y brand newydd.
- Y Bartneriaeth Carbon Isel. (grant Amcan 1: £1.5 miliwn). Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Awdurdod Datblygu Cymru. Y nod yw gwneud busnesau Cymreig yn ardal Amcan 1 yn fwy cystadleuol drwy arbed £27.5m iddynt mewn costau ynni a gostwng allyriannau carbon deuocsid 286,000 tunnell dros ddeng mlynedd. Gwneir hynny drwy roi cyngor i 1,000 o gwmnïau bach a chanolig ar ddefnyddio ynni'n effeithlon, cynnal archwiliad ynni manwl ar 400 o gwmnïau a gosod offer carbon isel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon mewn 200 ohonynt.
Anogir prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n gwneud cais i'r rhaglenni i ddatblygu cyfleoedd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni yn eu prosiectau lle bo hynny'n bosib.
Er enghraifft:
- Cafodd prosiect fferm wynt Awel Aman Tawe grant Amcan 1 o £94,000 i ariannu astudiaeth ddichonoldeb. Mae'r astudiaeth yn ymwneud â phrosiect fferm wynt gymunedol a'r bwriad yw ymchwilio i'r ffordd fwyaf buddiol o ddatblygu fferm wynt gymunedol a phrosiect effeithlonrwydd ynni yn ardal Cwm Tawe/Dyffryn Aman Uchaf. Mae'r prosiect hefyd yn bwriadu bod o fudd i'r gymuned leol drwy wella'r insiwleiddio mewn eiddo domestig.
Rhaid dweud mai dim ond ar gyfer prosiectau a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at adfywio economaidd y gellir defnyddio arian Amcan 1 i gefnogi mentrau effeithlonrwydd ynni lleol gan gynnwys gosod paneli haul.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 8: Defnyddio ei bolisi caffael i gefnogi a hyrwyddo cynnyrch ynni-effeithlon a gwneud yn siwr bod pob peth a brynir yn seiliedig ar asesiad o gost cylch bywyd
Drwy ei Dîm Menter Caffael mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arwain y ffordd wrth fabwysiadu dull di-fwlch o weithio ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Fenter yn rhoi pwyslais ar gael mwy o werth am arian. Bydd hyrwyddo cynnyrch effeithlonrwydd ynni yn rhan ganolog o’r fenter hon. Mae Fforwm Adeiladu'r Cynulliad ar hyn o bryd yn cydlynu'r canllawiau arfer da ar gaffael gwaith adeiladu a luniwyd gan Is-adrannau'r Cynulliad a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru ac Ystadau Iechyd Cymru. Mae Ystadau Iechyd Cymru wrthi'n adolygu'r canllawiau caffael a'r safonau technegol ar gyfer Ystadau Iechyd Cymru o ran polisïau Llywodraeth y Cynulliad a chanllawiau llywodraeth ganol. Mae hyn yn rhan o'r adolygiad o'r Llawlyfr Buddsoddi Cyfalaf a'r Cod Ystadau wrth fynd ati i ddatblygu Fframwaith y Strategaeth Ystadau Genedlaethol.
Goblygiadau Ariannol: Mae'n anodd amcangyfrif ar hyn o bryd ond mae'n rhaid cydnabod bod cyfrif costau cylch bywyd yn golygu y bydd yn rhaid gwario mwy i gychwyn ond y bydd hynny'n arwain yn y pen draw at arbed costau rhedeg h.y. costau refeniw.
Argymhelliad 9: Hyrwyddo'r defnydd o CHP ym mhob adeilad yn y sector cyhoeddus ac...annog y ddarpariaeth o hyfforddiant ac arbenigedd briodol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'r Ymddiriedolaeth Garbon yn hyrwyddo'r Rhaglen Ynni Cymunedol sy'n werth £50m ledled y DU. Dyma raglen ddwy flynedd sy'n cael ei hariannu gan lywodraeth y DU ac sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a grantiau ar gyfer gosod cynlluniau gwresogi cymunedol newydd ac ailwampio hen systemau gan gynnwys CHP. Rhoddir grantiau i helpu i ddatblygu prosiectau, cynnal astudiaethau dichonoldeb ac ati a chymorth cyfalaf ar gyfer adeiladu. Bu pedwar cais am grant ar gyfer gwaith dichonoldeb yn llwyddiannus hyd yma, ond does dim ceisiadau o Gymru wedi cyrraedd cam y grantiau cyfalaf. Mae cais a wnaed yn ddiweddar ar gyfer cynllun gwresogi bio-màs cymunedol ym mhentref Llanwddyn ym Mhowys (19 o anheddau) yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac mae iddo gryn dipyn o gefnogaeth.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 10: Defnyddio ei adnoddau a'i ddylanwad i sicrhau bod y safonau effeithlonrwydd ynni uchaf posibl gan bob adeilad cyhoeddus.
Mae prosiect ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth GIG Gwent a CTW wedi cyrraedd y cam cwblhau cyntaf. Mae'r astudiaeth beilot wedi'i chwblhau i greu set gyffredin o fentrau arbed ynni y gellir eu defnyddio yn eiddo'r GIG ledled Cymru. Bydd yr adroddiad terfynol yn arwain at strategaeth ynni a luniwyd yn arbennig ar gyfer y GIG yng Nghymru. Bydd y strategaeth yn cefnogi amryw o ffyrdd o arbed ynni a fydd yn adeiladu ar y gwaith a gychwynnwyd yn Ymddiriedolaeth GIG Gwent.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 11: Darparu ysgogiadau ychwanegol a chymorth ariannol i annog pawb sy'n berchen ar dai...i wella'r ffordd y mae gwres yn cael ei ynysu ynddynt
Mae'r Ymrwymiad Effeithlonrwydd Ynni'n rhwymo cwmnïau ynni i helpu pobl gydag amryw o fesurau effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi. Caiff cartrefi incwm uwch eu hannog ar hyn o bryd i fanteisio ar grantiau effeithlonrwydd ynni ar gyfer insiwleiddio llofftydd, rheolyddion bwyleri a goleuadau ynni isel. Mae annog y rhai sy'n gyfoethog o ran tanwydd i fanteisio ar hyn yn dal i fod yn her ac mae llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny yn y Papur Gwyn ar Ynni a'r gwaith sy'n deillio ohono. Mae’r Trysorlys yn ymgynghori ar ddefnyddio mesurau ariannol i annog pobl i fanteisio ar y grantiau hyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n llunio Cynllun Gweithredu ar Arbed Ynni gyda’r nod o annog pobl i fanteisio ar y mesurau arbed ynni ymarferol hyn.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.
Argymhelliad 12: Gweithio gyda'r Awdurdodau...i godi proffil y Ddeddf Arbed Ynni Cartref (HECA)
Mae cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i annog pobl i arbed ynni yn y sector domestig o dan y Ddeddf Arbed Ynni Cartref (HECA). Ymhlith gweithgareddau HECA yr awdurdodau lleol a gafodd gymorth gan Lywodraeth y Cynulliad mae:
- meddalwedd adrodd safonedig, gyda phob adroddiad yn cael ei baratoi yn yr un ffordd
- cefnogaeth gan Weinidogion i gynadleddau HECA
- canllawiau strategol manwl a gyhoeddwyd gan Uned Cefnogi Cadwraeth y Sefydliad Ymchwil Adeiladu - Good Practice Guide 250 - i awdurdodau lleol Cymru ar ddefnyddio ynni'n effeithlon mewn tai.
- 25% o'r gyllideb HEES ar gael i landlordiaid cymdeithasol i helpu i wella effeithlonrwydd ynni eu stoc
Hyd yma cafwyd gwelliant o 4% yn erbyn targed o 30% dros 10 mlynedd (a ninnau hanner ffordd drwy'r cyfnod). Ystyrid mai'r ffordd orau o wella'r sefyllfa oedd llunio cytundeb polisi â'r awdurdodau lleol ac ym mis Chwefror 2003 cytunodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y dylid ymchwilio i ba mor ymarferol fyddai llunio cytundeb polisi ar gyfer effeithlonrwydd ynni. Yn gynharach y mis hwn lansiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymgynghoriad ar ganllawiau i awdurdodau lleol ar ddatblygu polisïau ynni yn eu stoc domestig ac annomestig.
Er mwyn helpu i godi proffil effeithlonrwydd ynni mae Llywodraeth y Cynulliad ynghyd â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi creu swydd yn CLlLC i hybu ymwybyddiaeth gorfforaethol. Mae'r fenter eisoes yn dechrau dwyn ffrwyth
Goblygiadau Ariannol: Does dim goblygiadau amlwg o ran costau ond bydd yr arian ar gyfer swydd CLILC yn dod i ben ym mis Mawrth 2004. Pe caed bod angen rhagor o waith/cymorth (efallai o ran canllawiau CLlLC ar bolisi ynni i awdurdodau lleol a gaiff eu lansio cyn hir) efallai y bydd angen estyn y contract ar gost o £50k.
Argymhelliad 13: Sicrhau bod ELWa a chyrff eraill yn cydnabod y cyfleoedd economaidd sydd gan y sector hwn, a'i fod yn ei flaenoriaethu. Dylai hyn gynnwys...darparu'r hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer cefnogi mentrau effeithlonrwydd ynni, yn arbennig ar gyfer adeiladu.
Un enghraifft o hyn yw cynllun peilot hyfforddiant trosglwyddo stoc tai awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r Cyngor newydd drosglwyddo 6500 o dai i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (Valleys to Coast Housing Ltd) a bwriedir buddsoddi £70 miliwn i uwchraddio'r stoc tai dros y pum mlynedd nesaf. Mae cyfleoedd hyfforddi'n cael eu trefnu er mwyn uwchsgilio pobl leol a bydd arferion effeithlonrwydd ynni'n rhan o hynny.
Goblygiadau Ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol i'r Cynulliad ar hyn o bryd.