Skip to content

Datganiad ar Gynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Carwyn Jones

Disgrifiaf y dull gweithredu y bwriadaf ei ddilyn wrth drafod ein rhwymedigaeth gyfreithiol i ystyried a ddylid adolygu’r cynllun datblygu cynaliadwy neu ei ail-lunio.

Ar 14 Medi 1999, cytunodd y Cynulliad ar ddatganiad o egwyddorion i oleuo rhwymedigaethau’r Cynulliad o ran datblygu cynaliadwy a’r gwaith o lunio’r cynllun. Gan aralleirio, yr egwyddorion hynny oedd gweithredu agored a defnyddio technoleg newydd; ymgynghori gwirioneddol a chynnwys Aelodau’r Cynulliad; mabwysiadu cysyniad eang o ddatblygu cynaliadwy; gwneud datblygu cynaliadwy yn rhan o brif ffrwd gwaith y Cynulliad; adeiladu ar sail strategaeth y DU; arweiniad gan y Cynulliad o fewn Cymru; gweithio gydag eraill a bod yn agored i fewnbwn o’r tu allan; ystyried datblygu cynaliadwy’n broses barhaus; a chyflawni’r cynllun drwy gynllun gweithredu eglur, dangosyddion, targedau ac amcanion. Credaf fod yr egwyddorion hyn yn ddilys o hyd ac y dylent fod yn sail i’n dull o adolygu’r cynllun.

Mae gennym ddyletswydd o dan adran 121(7) Deddf Llywodraeth Cymru 1998 i adrodd ar effeithiolrwydd y cynllun ar ôl pob etholiad. Fel rhan o hynny, yr ydym wedi cynnal arolwg o farn rhanddeiliaid allanol. Yr oedd yr arolwg hwn yn ymwneud â’n hymagwedd at gynllunio polisi strategol yn ogystal â’n cynnydd ar ddatblygu cynaliadwy, ond yr olaf sydd gennyf dan sylw heddiw a hwnnw yw testun yr adroddiad yr wyf wedi’i gylchredeg. Darparaf fersiwn Cymraeg ohono cyn gynted ag y bo modd. Mae’r adroddiad hwn, adroddiad Davidoff, yn cadarnhau’r farn mai’r canfyddiad ydyw inni wneud cynnydd, bod y pwyslais ar roi datblygu cynaliadwy ym mhrif ffrwd ein gwaith wedi’i gadarnhau, a bod gennym waith sydd heb ei orffen o hyd ar faterion fel dangosyddion. Mae hefyd yn cadarnhau bod gwerthfawrogiad eang o’r ffaith ein bod yn agored i fewnbwn o’r tu allan a bod hynny’n cael ei ystyried yn sail i’r hyn a gyflawnasom, bod ewyllys da aruthrol y gall y Cynulliad adeiladu ar ei sail, a bod disgwyl yn awr, ar ôl gosod y sylfeini, inni sicrhau newidiadau gwirioneddol yn y modd y mae Cymru’n byw ac yn gweithio—nodir sawl mater o flaenoriaeth yn hynny o beth.


Mae’r adroddiad yn nodi’r her sy’n wynebu’r Cynulliad wrth adolygu’r cynllun datblygu cynaliadwy. Rhaid inni adeiladu ar sail y gwaith a wnaed hyd yma wrth gynnwys datblygu cynaliadwy mewn polisi, ond rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar y camau a wnaiff sicrhau’r math o newid pellgyrhaeddol a fynnir gan ein dyletswydd gyfreithiol. Yn ogystal ag adroddiad Davidoff, yr ydym wedi comisiynu asesiad annibynnol gan CAG Consultants o’r gwahaniaeth a wnaeth y cynllun datblygu cynaliadwy ac a ydym wedi ymdrin â’r holl faterion dyladwy. Gyda’i gilydd bydd y ddau adroddiad yn sail i’r asesiad y mae’n ofynnol inni ei gyhoeddi ar effeithiolrwydd y cynllun hyd yma.


Gan droi at yr adolygiad o’r cynllun, cynigiaf y dylai’r rhaglen redeg fel a ganlyn. Dros yr haf, bydd staff yn paratoi deunydd ymgynghori a ddatblygir drwy drafodaethau anffurfiol â rhanddeiliaid. Ym mis Medi, cyhoeddaf y deunydd ymgynghori a’r asesiad o effeithiolrwydd. Dros gyfnod o dri mis o leiaf ar ôl hynny, bwriadaf hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau ymgynghorol, cyfranogiadol, ac ymgynghori electronig ochr yn ochr â hwy, i gael yr amrediad ehangaf o safbwyntiau o fewn Cymru a’r tu hwnt. Bydd gwaith ar ddangosyddion datblygu cynaliadwy yn rhan o hynny, ac yn cysylltu â gwaith y grwp ymgynghorol presennol ar ddangosyddion. Caiff deunydd o bob digwyddiad ei osod ar y we ar gyfer trafodaeth. Yn y flwyddyn newydd, cyhoeddaf gyfosodiad annibynnol terfynol o’r farn a gyflwynwyd, a deuaf â chynllun a chynllun gweithredu diwygiedig gerbron i’w cymeradwyo gan y Cynulliad yn fuan wedyn.


Gobeithiaf y gellir cwblhau’r broses hon erbyn y gwanwyn 2004 ac, os bydd modd, dymunaf i’r Cynulliad fabwysiadu cynllun newydd erbyn diwedd Mawrth 2004, pan fydd Cymru yn croesawu’r rhwydwaith rhyngwladol o lywodraethau rhanbarthol dros ddatblygu cynaliadwy, y buom yn gydsylfaenwyr iddo yn uwchgynhadledd Johannesburg.


Ni ddymunaf ragfarnu canlyniadau’r prosesau yr wyf wedi’u disgrifio ond rhaid inni ymateb i’r negeseuon y mae rhanddeiliaid yn eu hanfon atom eisoes ynghylch gweithredu. Gan hynny, dymunaf ganolbwyntio yn y digwyddiadau a’r dadleuon sy’n rhan o’r broses ymgynghori ar adnewyddu’r weledigaeth a nodasom yn y cynllun gwreiddiol ar gyfer Cymru gynaliadwy ac, o hynny, ddiffinio’r camau gweithredu allweddol y dylem eu cynnwys mewn cynllun gweithredu diwygiedig. Ymysg y meysydd yr wyf yn arbennig o awyddus i ddatblygu camau gweithredu newydd ynddynt y mae ymchwil i gyfleoedd a greir gan y camau tuag at economi carbon isel neu hydrogen a defnyddio cryfderau unigol a gwahanolrwydd gwahanol rannau o Gymru i arallgyfeirio’r economi er mantais gystadleuol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn ogystal â hynny, mae ymchwil i ddulliau o beri i’r system gynllunio fod yn fwy rhagweithiol; defnyddio pwer prynu sector cyhoeddus Cymru i newid marchnadoedd, trawsnewid cymunedau, hybu gallu creadigol ac arloesi a chreu swyddi; hybu’r galw am fwyd o ffynonellau lleol i hyrwyddo adfywio gwledig, amaethyddiaeth, iechyd a chymunedau; defnyddio’r ôl troed ecolegol fel modd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion datblygu cynaliadwy; gwella gofal ty gwyrdd ar draws y sector cyhoeddus a datblygu prosiectau ffisegol blaengar, a pheri i enghreifftiau o arferion da ddod yn norm.

Rhaid inni gofio bod y cynllun yn rhwymo’r Cynulliad fel cyfangorff ac yr wyf am i’r holl Aelodau gael mewnbwn iddo. Yn benodol, gwahoddaf Bwyllgorau Rhanbarth i chwilio am dystiolaeth fel rhan o’r ymgynghori ar y cynllun, fel y gwnaed yn ystod yr ymgynghori ar y cynllun gwreiddiol. Efallai y bydd Pwyllgorau Pwnc hefyd yn dymuno trafod eu blaenoriaethau ar gyfer cynllun newydd, neu gael mewnbwn i waith ar bynciau penodol. Byddwn yn falch o gael ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth Aelodau unigol.


Efallai y gwyr Aelodau fod strategaeth y DU ar gyfer datblygu cynaliadwy i’w hadolygu o hyn hyd 2005. Bydd yr adolygiad o’n cynllun yn ein helpu i roi mewnbwn i’r ymarfer hwnnw.