Skip to content

Datganiad ar Fagloriaeth Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes (Jane Davidson): Yr wyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelodau bod cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi’i gydnabod yn ffurfiol gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Mae Bwrdd UCAS wedi penderfynu dyrannu 120 pwynt tariff i dystysgrif graidd Bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr sy’n cwblhau bagloriaeth Cymru ar lefel uwch yn ennill yr un nifer o bwyntiau UCAS â myfyrwyr sy’n ennill gradd ‘A’ Safon Uwch, yn ychwanegol at y pwyntiau y byddant yn eu hennill o’u hastudiaethau dewisol.

O fewn rhaglen y fagloriaeth, bydd myfyrwyr yn parhau i ddilyn cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, ond bydd pob myfyriwr yn dilyn y rhaglen graidd hefyd, a fydd yn cynnwys: ‘Cymru, Ewrop a’r Byd’—astudiaeth o faterion gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd; modiwl iaith dramor fodern; prosiect unigol estynedig; sgiliau allweddol; addysg bersonol a chymdeithasol, gan gynnwys cyfnod o gymryd rhan yn y gymuned, ac addysg gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith.

Mae hyn yn newyddion ardderchog i fagloriaeth Cymru, i’r canolfannau peilot ac i’r myfyrwyr. Yr wyf bob amser wedi pwysleisio’r pwys a roddaf ar y datblygiad hwn a’r balchder y dylai fod gennym ni yng Nghymru ynddi. Mae penderfyniad UCAS yn tanlinellu hyn.

Mae pawb sydd wedi ymwneud â datblygu bagloriaeth Cymru yn gwybod bod bagloriaeth Cymru yn llwyr deilyngu’r penderfyniad a wnaed gan fwrdd UCAS. Fodd bynnag, golyga y bydd y fagloriaeth yn werthfawr bellach wrth geisio cael lle mewn prifysgol. Mae Prifysgolion yn gosod eu meini prawf derbyn eu hunain, ond mae llawer yn defnyddio tariff UCAS wrth osod gofynion derbyn, ac mae’n cadarnhau pa fathau o gymwysterau sy’n cyfateb i’w gilydd.
Er mwyn llwyddo i gwblhau bagloriaeth Cymru, rhaid i fyfyrwyr ennill tystysgrif graidd, sy’n gwarantu bod pob myfyriwr wedi astudio yr un pynciau craidd mewn meysydd eang, ac isafswm gofyniad mewn astudiaethau dewisol. Ar lefel uwch yr isafswm gofyniad yw’r cwrs graidd ynghyd â 2 Safon Uwch TAU, neu gymhwyster cyfwerth.

O’r cychwyn cyntaf, eglurais y byddai angen i fagloriaeth Cymru ddiogelu buddiannau’r myfyrwyr. Mae’r model craidd a dewisol a ddatblygwyd gan CBAC yn gwneud hynny drwy ddefnyddio cymwysterau traddodiadol ar gyfer yr astudiaethau dewisol. Mae’r ffaith y bydd UCAS yn rhoi’r un gwerth ar y dystysgrif graidd a gradd uchaf Safon Uwch yn ategu hynny ac yn pwysleisio yr hyn yr ydym wedi bod yn sicr ohono o’r cychwyn cyntaf, sef bod hwn yn gymhwyster o ansawdd uchel. Mae’r penderfyniad yn hwb mawr i’r holl ganolfannau peilot a’r myfyrwyr.

Hoffwn ddiolch i’r canolfannau ledled Cymru sy’n cynnal cynllun peilot o fagloriaeth Cymru o fis Medi 2003, ac yn cynrychioli amrywiaeth o fathau o ganolfannau. Y 18 canolfan yn y garfan gyntaf yw Ysgol Gyfun y Barri; Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt; Ysgol Gatholig Rufeinig y Cardinal Newman; Coleg Glan Hafren; Coleg Gwent; Coleg Llandrillo; Coleg Meirion-Dwyfor; Coleg Powys; Coleg Sir Gâr; Coleg Glannau Dyfrdwy; Coleg Castell-nedd Port Talbot; Ysgol Uwchradd Pen-y-dre; Coleg Pontypridd; Ysgol Sirol Gymunedol y Porth; Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig St Alban; Ysgol St Cyres, Coleg Catholig Dewi Sant; a Choleg Trydyddol Abertawe. Yn ogystal, bydd Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Llanedeyrn yn cyflwyno bagloriaeth Cymru fel rhan o Golegiwm Caerdydd ar y cyd â Choleg Glan Hafren.

Bydd penderfyniad UCAS hefyd yn hwb i’r canolfannau a fydd yn cychwyn ar y cynllun peilot ym mis Medi y flwyddyn nesaf ac yn 2005. Ym mis Mehefin yr oeddwn yn falch o gyhoeddi’r chwe chanolfan a fydd yn ail garfan y cynllun peilot y flwyddyn nesaf. Bydd y chwe chanolfan—Ysgol Bryn Eilian, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Coleg Sir Benfro a Choleg Menai—yn cael blwyddyn lawn i baratoi cyn bod eu myfyrwyr cyntaf yn dechrau astudio ar gyfer bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2004.

Mae’r chwe chanolfan yn yr ail garfan yn cynnwys pedair ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a phedair canolfan yn y Gogledd. Byddant yn gwella ymhellach gymysgedd ieithyddol a dosbarthiad daearyddol y canolfannau peilot. Fel yr wyf wedi dweud erioed, yr wyf am i fagloriaeth Cymru weithio ym mhob math o ganolfan o Ferthyr Tudful i Fae Colwyn. Bydd hyn yn gymorth i sicrhau bod y cynllun peilot yn gallu profi cymhwyster bagloriaeth Cymru mewn ystod o ganolfannau o’r fath.

Llongyfarchaf CBAC. Mae penderfyniad UCAS yn gydnabyddiaeth o’r hyn y mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn a gallaf ei sicrhau, a’r canolfannau peilot a’r myfyrwyr, y cânt fy nghefnogaeth lawn wrth iddynt ddatblygu’r prosiect hollbwysig hwn, sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu cymwysterau. Yr wyf yn sicr y bydd yr Aelodau am ddatgan hynny yn yr un modd.