Michael German AC
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor (Michael German): Croesawaf adroddiad y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar TGCh yng Nghymru wledig a llongyfarchaf y Pwyllgor ar ei ymchwiliad trwyadl. Mae’n hollbwysig i ddyfodol ein cymunedau gwledig a busnesau mewn ardaloedd gwledig fod darpariaeth TGCh o ansawdd da ar gael iddynt. Mae’r Cabinet wedi ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus ac yr wyf wedi anfon ymateb ysgrifenedig manwl yn ddiweddar ar ran y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor.
Mae defnyddio TGCh i adeiladu economi gryf, gynaliadwy, gystadleuol a ffyniannus yn thema sy’n codi dro ar ôl tro drwy ‘Cymru’n Ennill’ ac yr ydym ar ganol lledaenu ‘Cymru’n Ennill’ ar draws Cymru wledig. Mae hynny’n cynnwys ymdrin ag anghenion TGCh ardaloedd gwledig.
Bu llawer o drafod ar Cymru Ar-lein—Online for a Better Wales a Band Eang Cymru yn ddiweddar, ond yr wyf am dynnu sylw at y modd y maent yn mynd â’r maen i’r wal dros ardaloedd gwledig. Ymdriniaf â Cymru Ar-lein yn gyntaf. Mae’n ymwneud yn benodol ag anghenion Cymru wledig, a’i amcan yw creu Cymru lle y mae pob busnes, ym mha le bynnag y mae, yn gallu defnyddio TGCh i’r eithaf er mwyn bod yn fwy cystadleuol, a chael arloesi a thyfu. Mae’n esiampl Ewropeaidd o weithredu gan lywodraeth ranbarthol i ddatblygu TGCh, sy’n ymdrin nid yn unig â cheblau, gwifrau a signalau ond â chysylltedd, cynnwys a gallu hefyd.
Yr ydym yn cefnogi amrediad o raglenni drwy Cymru Ar-lein sydd â’r bwriad o helpu cymunedau a busnesau bach a chanolig eu maint i gael y budd mwyaf o TGCh, fel y gall busnesau, yn benodol, ddod yn fwy cystadleuol drwy ymgymryd ag e-fasnach yn effeithiol. Ymhlith y rhain y mae’r ddarpariaeth o £750,000 y flwyddyn dros dair blynedd drwy Awdurdod Datblygu Cymru i ddarparu cyngor diduedd ar TGCh yn rhad ac am ddim i fusnesau bach ledled Cymru; ystyried sut y gall y clybiau e-fusnes sy’n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd gael budd o gydweithio i helpu i hybu ymwybyddiaeth o fanteision dichonol TGCh ymysg cynulleidfa ehangach o fusnesau bach a chanolig eu maint; hyrwyddo manteision TGCh ymysg busnesau a chymunedau yng Nghymru wledig drwy’r prosiect Cyfle Cymru sy’n werth £21 miliwn; cefnogi mentrau cymorth busnes fel canolfan hyfforddi symudol y WDA, sy’n teithio Cymru gan dynnu sylw at fanteision TGCh ac yn cynnig modd i ddangos cyfleuster uwchdechnolegol â chyfarpar TG a chysylltiad â’r band eang i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y fan a’r lle; cyflwyno rhaglen e-gymunedau helaeth, gan weithio gydag ELWa a’r WDA, i helpu unigolion, teuluoedd, busnesau, cyrff gwirfoddol ac ysgolion mewn cymunedau ledled Cymru i ddefnyddio’r rhyngrwyd a TGCh yn fwy effeithiol; a sefydlu canolfannau cymorth TGCh lleol i ddarparu cyngor technegol a mentora a chynnig gwasanaethau technegol uniongyrchol yn rhad ac am ddim mewn dull rhagweithiol.
Yn ogystal â hynny, mae gennym rwydwaith o gynghorwyr canolfan cymorth TGCh i Gymru gyfan, sy’n gallu arddangos atebion TGCh i fusnesau bach a chanolig eu maint, ac i’r canolfannau cymorth TGCh eu hun, yr ydym wedi’u cyfarparu â thechnoleg band eang er mwyn cynnig cyfleuster ‘profi cyn prynu’. At hynny, mae ELWa wedi cychwyn cynllun e-leoliadau cyn-ragbrofol yn Sir Benfro cyn cynnal nifer o ragbrofion llawn eleni, a’i ledaenu ledled Cymru ar ôl hynny.
Mae Cymru Ar-lein yn rhoi pob ystyriaeth hefyd i hunaniaeth ddwyieithog Cymru, yn ei brosesau datblygu polisi a darparu gwasanaethau. Mae’n arbennig o bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau’n gallu defnyddio TGCh drwy eu dewis iaith, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i adeiladu ar sail yr egwyddorion a’r camau gweithredu a ddisgrifir yn ‘Iaith Pawb’, ei chynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru ddwyieithog. Ynddo nodir amrediad o brosiectau a gyflwynir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd datblygu cyfleoedd newydd i ddefnyddio’r iaith a sicrhau y caiff ei hyrwyddo ar y rhyngrwyd ac mewn pecynnau TG newydd.
Band Eang Cymru yw’r fenter band eang gynhwysfawr fwyaf yn y DU a’i bwriad yw ymdrin â methiant y farchnad yng Nghymru. Bydd rhaglen bum mlynedd gynhwysfawr o ymyriadau ar ochr y cyflenwad a’r galw, sy’n werth £115 miliwn, yn gymorth i ymestyn seilwaith band eang i Gymru gyfan, gan ysgogi buddsoddiad preifat sylweddol pellach yn y dyfodol.
Ein nod ar gyfer Band Eang Cymru yw y bydd, o fewn pum mlynedd, wedi darparu 30 y cant yn rhagor o wasanaethau band eang daearol fforddiadwy yng Nghymru ac y bydd wedi dod â band eang i ymron bob parc busnes yng Nghymru sydd wedi nodi bod arnynt ei angen, boed yn barc newydd neu’n un sy’n bod eisoes. Bydd hefyd yn peri i gost gwasanaethau band eang yng Nghymru fod yn llawer mwy cystadleuol, gan ddod â band eang i 310,000 o gartrefi ychwanegol a 67,000 o fusnesau erbyn 2007. Rhai o’i brif weithgareddau yw darparu ymyriadau ariannol, sef cynlluniau cymhorthdal tactegol bach fel yr un ar gyfer band eang drwy loeren ac ymyriadau strategol helaeth drwy arwerthiant cymorthdaliadau gwrthol, i wella rhannau helaeth o’r seilwaith yng Nghymru; rhoi sylw i ddefnyddwyr band eang yn y pen uchaf a chysylltedd rhyngwladol yn ogystal â’r gwasanaethau o’r math ASDL ar gyfer dechreuwyr y byddai rhai cyflenwyr am inni gredu mai hwy’n unig sy’n cyfrif; a helpu prosiectau a mentrau lleol, megis e-fro ac Arwain, i ddangos inni beth y gall gwahanol dechnolegau eu gwneud.
Mae o’r pwys mwyaf ei fod yn ddiduedd o ran technoleg, ac yn cefnogi’r dechnoleg sy’n fwyaf addas i’r ardal dan sylw ar y pryd ac yn caniatáu i wahanol gwmnïau roi atebion ar waith. Wedi’r cwbl, cystadlu effeithiol a marchnad ddichonadwy yw’r hyn a fydd yn gyrru’r prisiau i lawr ar gyfer cwsmeriaid yn y pen draw, nid cymorthdaliadau parhaus. Mae’r gostyngiad hwnnw yn y gost yn ffactor o bwys i ddefnyddwyr gwledig.
Cyflwynir amrediad o fentrau yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Ar gyfer busnesau, mae’r rhain yn cynnwys y cynllun cymhorthdal lloeren, sy’n peri bod band eang yn ddewis fforddiadwy i fusnesau yng Nghymru, a’r canolfannau arddangos band eang ledled Cymru, sy’n gadael i fusnesau brofi cyn prynu. I’r sector cyhoeddus, mae rhwydwaith dysgu gydol oes, sy’n darparu’r band eang ar gyfer ysgolion, canolfannau dysgu a llyfrgelloedd yng Nghymru—yr ydym wedi gwario £10 miliwn ar gyflenwi offer amlgyfrwng yn y lleoliadau hyn. Mae contract o £20 miliwn hefyd i ddarparu cysylltedd â’r band eang ar gyfer yr holl ysbytai yng Nghymru, fel y bydd hyd at 550 o ysbytai, meddygon teulu a gweithwyr cartref yn meddu ar gysylltedd cyflym drwy’r band eang sy’n ei gwneud yn haws o lawer i glinigwyr rannu gwybodaeth ac ymgymryd â diagnosteg o bell. Yr ydym yn dal i weithio i gyfuno’r galw gan y sector cyhoeddus a disgwylir y bydd awdurdodau lleol wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith craidd erbyn diwedd Mawrth 2003. Yr ydym hefyd yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU a’r Asiantaeth Radio-gyfathrebu i sicrhau ystyriaeth lawn i anghenion Cymru wrth roi trwyddedau ar gyfer y rhychwant tonfedd 3.4 gHz ac wrth arwerthu trwyddedau eraill yn y dyfodol.
Yn y pen draw, ni ellir cael mynediad fforddiadwy i fand eang heb ddull cyflenwi priodol, ac eto, heb y galw, ni fydd gweithredwyr masnachol yn ei chael yn economaidd ddichonadwy buddsoddi yng Nghymru a darparu eu seilwaith band eang am bris cystadleuol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydnabod y ffaith hon ac, yn ystod oes Band Eang Cymru, bwriadwn greu cylch rhinweddol lle y mae galw cynyddol yn porthi cyflenwad pellach gan arwain at gynnydd pellach yn y galw a’r cyflenwad.
I grynhoi, gyda’r ddwy fenter hon a TGCh yn thema drawsbynciol yn ein prif bolisïau, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cynnydd rhagorol tuag at ddiwallu anghenion TGCh Cymru wledig. Mae’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor wedi cyfrannu at hyn ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i hybu a datblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau TGCh o ansawdd da ledled Cymru wledig.