Skip to content

Datganiad ar Ganolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Alun Pugh
Bydd Aelodau yn cofio i Lywodraeth y Cynulliad addo rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y datblygiadau yn ymwneud â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae fy rhagflaenydd eisoes wedi rhoi adroddiad ar y defnyddiau Cymreig a ddefnyddir i’w hadeiladu a nifer y bobl o Gymru sy’n gweithio ar y safle. Cynhelir adolygiad 15 mis o’r datblygiad ar hyn o bryd sy’n ystyried agweddau allweddol ar y gwaith adeiladu a’r amseru. Mae’n dda gennyf ddweud wrthych fod cwmni Canolfan Mileniwm Cymru yn nodi bod yr adeiladu yn mynd rhagddo yn unol â’r gyllideb ar hyn o bryd. Bydd Aelodau hefyd am wybod y bwriedir agor y ganolfan ar ddiwedd Tachwedd 2004, yn ôl y disgwyl. Rhoddaf adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad pan wnaf fy natganiad nesaf ar y mater hwn yn yr hydref.

O ran y risgiau a drafodwyd gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2002, a mater cromen y celfyddydau, mae trafodaethau ynglyn â datblygiad ar y rhan hon o’r safle yn mynd rhagddynt. Dylai’r rhain ddod i ben yn y dyfodol agos. Byddaf yn rhoi adroddiad ar ganlyniad y trafodaethau hyn i’r Cynulliad cyn gynted ag y bo modd, ond maent yn parhau’n fasnachol sensitif ar hyn o bryd. Gosodais ddatganiad ysgrifenedig gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin, ym mha un y cynigiais awdurdodi trafodiad hysbysadwy o dan Reol Sefydlog Rhif 19, sef gwarantu benthyciad i gwmni Canolfan Mileniwm Cymru. Byddaf yn barod i ateb cwestiynau ar y datganiad hwnnw, os oes materion i’w hegluro.

Nododd fy rhagflaenydd, mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad ym mis Chwefror eleni, fod cwmni Canolfan Mileniwm Cymru yn cyrraedd ei dargedau o ran codi arian preifat ac elusennol. Bydd Aelodau yn cofio bod yn rhaid i gwmni Canolfan Mileniwm Cymru godi £9.6 miliwn o ffynonellau preifat ac elusennol i gwblhau’r datblygiad. Mae’r bwrdd a’i swyddogion wrthi’n brysur yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y targedau anodd hyn o ran codi arian o’r sector preifat. Mae’r cadeirydd, Syr David Rowe-Beddoe, a’r prif weithredwr, Judith Isherwood, wedi dweud wrthyf eu bod yn ffyddiog y byddant yn cyrraedd y targedau anodd hyn o ran refeniw. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar hynt y prosiect.

Fel y gwyr Aelodau o bosibl, bu Judith Isherwood yn gyfarwyddwraig y celfyddydau perfformio yn Nhy Opera Sydney. Mae ei phrofiad o weithio ar y lefel ryngwladol uchaf yn amhrisiadwy wrth inni ddynesu at agor y ganolfan. Mae’n dda gennyf fod Judith wedi addo defnyddio’r profiad a’r arbenigedd hwnnw wrth ymdrin â’r cynllun busnes diwygiedig, y disgwyliaf ei weld yn ddiweddarach y mis hwn. Ymwelais â’r safle adeiladu ddoe. Mae’r ffaith bod y gwaith o ddatblygu’r ganolfan wedi mynd rhagddo cystal yn gamp aruthrol. Yr wyf yn siwr y bydd y genedl gyfan yn ymfalchïo yn yr adeilad. Fodd bynnag, erys llawer i’w wneud o hyd ac edrychaf ymlaen at roi adroddiad arall yn yr hydref ar faterion mor amrywiol â chodi arian o’r sector preifat, diogelu iechyd cyflogeion ac ymwelwyr a ddaw i’r adeilad, a’r trefniadau cynnar ar gyfer yr agoriad.