Skip to content

Datganiad ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar Ysgolion y Dyfodol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Dechreuaf drwy groesawu adroddiad interim y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar ysgol y dyfodol a thalaf deyrnged i’r Pwyllgor ac i’w gyn-Gadeirydd, Gareth Jones, am fod yn ddigon dewr i edrych i’r dyfodol a rhagweld y newidiadau y bydd ein hysgolion yn eu hwynebu dros y 15 mlynedd nesaf. Fel y dywedodd Gareth yn y rhagair i’r adroddiad, mae hwn yn brosiect cyffrous. Derbyniodd y Pwyllgor gyfraniadau gweledigaethol wrth gymryd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, yn cynnwys tystiolaeth gan ddisgyblion. Ein tasg yw llunio ein rhaglen waith i wireddu’r weledigaeth o ysgolion lle y mae gan bob plentyn y cyfle i gyflawni ei botensial.
3.10 p.m.


O’r cychwyn, cadarnhaf fod Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn argymhellion yr adroddiad sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau. Yr argymhelliad cyntaf yw y dylai ein gweledigaeth am ysgol sy’n canolbwyntio ar y gymuned fod yn fodel ar gyfer ysgolion y dyfodol. Rhannwn y weledigaeth honno. O 1 Medi, bydd gan gyrff llywodraethu ysgolion y pwerau i ddarparu gwasanaethau, nid gwasanaethau addysg yn unig i ddisgbylion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Cyhoeddwyd dogfen ganllaw ddrafft geynnym ar 31 Mawrth. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi, a chyhoeddir canllaw terfynol mewn pryd ar gyfer dechrau tymor yr hydref. Bydd yn cymryd amser i ysgolion ddatblygu canolbwynt cymunedol, a bydd y canolbwynt yn amrywio yn dibynnu ar anghenion pob cymuned a’r graddau y caiff cyfleusterau a gwasanaethau eu darparu’n lleol eisoes. Fodd bynnag, ceir ysgolion sydd eisoes yn gweithio gyda, a thros, eu cymuned leol, gan ddangos y gallant godi statws dysgu a gwella canlyniadau disgyblion, tra bod yn gyfrwng i adfywio cymunedau.


Yr ail argymhelliad yw y dylai Gweinidog y Cynulliad roi adroddiad i’r Pwyllgor mewn ymateb i’r adroddiad hwn, gan nodi rhaglen ar gyfer rheoli’r newidiadau sylweddol sydd eu hangen dros y 15 mlynedd nesaf. Gobeithiaf gyflwyno fy adroddiad i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar ddechrau 2004. Bydd yn parhau â’r agenda i ysgolion, a nodir yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’. Rhagwelaf y bydd yn canolbwyntio ar y canlynol: ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar; datblygu’r cyfnod sylfaen, o dair i saith oed; adolygu trefniadau profi ac asesu ar ddiwedd cyfnodau allweddol 2 a 3; pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd; ymdrin â thangyflawni yn nghyfnod allweddol 3; ystod o lwybrau dysgu ar gyfer y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc 14 i 19 mlwydd oed gyda mwy o amrywiaeth wrth ddarparu’r cwricwlwm; y fagloriaeth Gymreig; yr ymrwymiadau yn ‘Iaith Pawb’; datblygu darpariaeth anghenion addysgol arbennig, yn cynnwys darpariaeth ranbarthol; polisi ar gyfer gwella presenoldeb a sicrhau darpariaeth fwy hyblyg ar gyfer disgyblion anfoddog; lleihau baich gwaith athrawon a beichiau biwrocrataidd ar ysgolion; defnyddio technoleg gwybodaeth ar gyfer addysgu a dysgu; cymorth i ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon; gweithredu i leihau’r bwlch rhwng ein hysgolion sy’n perfformio orau a’r rhai sy’n perfformio waethaf; sicrhau bod llais gan ddisgyblion yn y broses o ddatblygu darpariaeth mewn ysgolion; a chreu ysgolion ar gyfer y dyfodol o ran adeiladau sy’n briodol i ddarparu’r cwricwlwm, sy’n hygyrch i bawb ac sy’n ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd.
3.10 p.m.


Mae’r trydydd argymhelliad yn ymwneud â meysydd eraill o waith, y gallai’r Pwyllgor eu harchwilio, nad ydynt felly yn fater i Lywodraeth y Cynulliad. Dylai’r Pwyllgor, gyda chyngor gan y grwp cyfeirio, ymchwilio ymhellach i ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, y cwricwlwm ac asesu, a thystiolaeth o dramor ar gyfoethogi’r profiad dysgu. Fodd bynnag, efallai y bydd y Pwyllgor am aros hyd nes y bydd wedi darllen fy adroddiad cyn penderfynu ar ba waith arall y mae’n dymuno ei gyflawni ar ysgol y dyfodol.

Yr argymhelliad olaf yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ysgolion wrth fynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol. Gall ysgolion chwarae rhan allweddol i hybu newid cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig. Fodd bynnag, prif gyfrifoldeb ysgolion yw rhoi’r sylfaen orau bosibl i ddisgyblion unigol ar gyfer sicrhau cyflogaeth a llwyddo fel oedolion. Mae cyflawniad addysgol yn benderfynydd allweddol ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc. Dengys tystiolaeth ystadegol fod y rhai nad oes ganddynt gymwysterau dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn sâl neu’n anabl yn barhaus, a dwywaith yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn economaidd neu ddioddef o broblem iechyd barhaol. Mae disgyblion sy’n chwarae triwant yn barhaus ddwy i dair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni troseddau. Drwy bolisïau fel lleihau’r bwlch, ymdrin â disgyblion anfoddog a phresenoldeb gwael, a sicrhau dilyniant gwell o addysg orfodol i addysg bellach ac addysg uwch, hyfforddiant a chyflogaeth, byddwn yn ceisio sicrhau bod ysgolion yn parhau i ymladd anfantais gymdeithasol drwy ddarparu addysg o safon uchel i ddisgyblion, wedi’i theilwra’n gynyddol i anghenion disgyblion unigol.