Skip to content

Bwyd a Lles: lleihau anghydraddoldebau trwy Strategaeth ar Faethiad i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ddydd Iau, 13 Chwefror roeddwn yn falch o lansio Bwyd a Lles, cynllun gweithredu wedi ei anelu at annog pobl Cymru i ddeall a gweithredu ynghylch yr angen i fabwysiadu deiet iach.  Roeddwn hefyd yn falch o allu lansio’r ddogfen strategaeth hon fel rhan o ddigwyddiad Wythnos Iechyd y Galon i Ferched, Sefydliad Prydeinig y Galon yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin.

Mae gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebu drwy ymdrin ag achosion gwaelodol afiechyd ar frig agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae gan ddeiet rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o atal clefyd y galon a chanser, prif achosion marwolaeth yng Nghymru.  Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, nid yw ein deiet yn bodloni argymhellion deietegol y llywodraeth.  Mae angen polisïau a rhaglenni cenedlaethol a lleol integredig, felly, i hyrwyddo deiet iachach ac i leihau anghydraddoldebau ym maes iechyd.  Bydd y cynllun gweithredu cenedlaethol hwn ar gyfer Cymru yn rhoi cyfeiriad a chyd-destun ar gyfer datblygu strategaethau lleol i gyflawni’r amcanion hyn.

Yn dilyn sefydlu’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn Ebrill 2000, gofynnais iddynt arwain wrth ddatblygu strategaeth ar faethiad i Gymru, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a chwaraewyr allweddol eraill.

Roedd ystod eang o grwpiau a chanddynt ddiddordeb yn ymwneud â chynhyrchu  Strategaeth ar Faethiad i Gymru: Dogfen Ymgynghori, trwy gyfrwng cyfres o weithdai a gynhaliwyd yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru, ac ymarfer ymgynghori ysgrifenedig ar raddfa eang yn ystod haf 2002.  Arweiniodd yr ymgynghori hwn at lawer o atebion gwerthfawr sydd wedi eu cynnwys yn Bwyd a Lles.  

Mae dogfen ymgynghori ddiweddar y Cynulliad, Lles yng Nghymru, yn gwneud y cysylltiadau rhwng iechyd a lles a meysydd polisi eraill yn amlwg ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer gweithredu pellach i leihau anghydraddoldebau ym maes iechyd, gan gynnwys gweithredu ynghylch maethiad ar lefel gymunedol.  Mae Bwyd a Lles wedi datblygu’r thema hon ac yn mynd ati i gynnig atebion i sicrhau deiet iachach i boblogaeth Cymru gyfan, ond yn arbennig ymysg defnyddwyr sydd ar incwm isel a’r rhai sy’n fwy diamddiffyn (gan gynnwys yr henoed a grwpiau o leiafrifoedd ethnig), babanod, plant a phobl ifanc, dynion canol oed a merched oedran cael plant.

Mae maethiad yn cael dylanwad mawr ar iechyd pobl o bob oed, ac eto, mewn llawer o ardaloedd sydd dan anfantais, mae deiet pobl yn arbennig o wael.  Rwyf felly yn cefnogi’n arbennig y pwyslais sydd wrth wraidd Bwyd a Lles ar ymdrin â thlodi bwyd a hyrwyddo cydraddoldeb bwyd, drwy wella mynediad ffisegol ac economaidd at fwyd a chefnogaeth i weithredu cymunedol.  I wireddu amcanion y strategaeth yn llawn, bydd yn rhaid ymdrin â’r diffygion o ran deiet sydd wedi eu nodi mewn nifer o ffyrdd; er enghraifft, gweithio gyda phrif gynhyrchwyr ac eraill i hwyluso datblygiadau sydd wedi eu hanelu at well mynediad at fwyd ac, ar yr un pryd, canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant, yn ein hysgolion ac yn y gymuned yn gyffredinol.

Bydd Bwyd a Lles o bwysigrwydd arbennig i’r Byrddau Iechyd Lleol newydd ac i awdurdodau lleol wrth iddynt baratoi strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol.

Mae Bwyd a Lles yn gam mawr ymlaen tuag at ddiogelu iechyd a lles pobl Cymru yn y dyfodol, yn arbennig y grwpiau bregus hynny sydd angen ein cymorth fwyaf.  Cymeradwyaf y ddogfen i chi a phwysaf arnoch i gefnogi ei hargymhellion ar gyfer gweithredu.