Skip to content

Datganiad Llafar ar Adeilad Newydd y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Edwina Hart
Yr wythnos diwethaf gwelsom y llechen yn cael ei gosod o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, i nodi cam olaf codi’r adeilad hwnnw. Heddiw, yr wyf yn falch o allu cyhoeddi cam mawr ymlaen o ran cyflwyno siambr ddadlau newydd y Cynulliad. Ar 21 Hydref 2002 cyhoeddais fod gwahoddiadau ffurfiol i gynnig yn cael eu rhoi i gynigwyr a oedd â diddordeb, a ofynnai am eu cynigion amlinellol a’u hamcangyfrifon o’r gost am becynnau gwaith adeiladu dewisedig. Dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, gwerthuswyd y cynigion tendro hyn yn ofalus gan y tîm rheoli prosiect ac ymgynghorwyr proffesiynol y Cynulliad. Cynhaliwyd cyfweliadau tendro gyda’r cynigwyr ar 9 Ionawr 2003. Yn dilyn y broses gwerthuso tendrau argymhellodd bwrdd prosiect adeiladu’r Cynulliad ffordd ymlaen a rhennais yr argymhelliad hwn gydag aelodau o’r grwp llywio prosiect. Ar sail y cyngor proffesiynol a roddwyd imi a’r cyngor hwnnw a dderbyniwyd gan yr ymgynghorwyr proffesiynol annibynnol ar y bwrdd prosiect, penderfynais y bydd Taylor Woodrow yn cael ei benodi fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer y prosiect. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd y cwmni yn parhau i ddatblygu’r dyluniad hyd nes y gallaf fod yn dawel fy meddwl bod ei gynigion yn bodloni disgwyliadau’r Cynulliad o ran ansawdd, addasrwydd ac amserlen.

Bydd Taylor Woodrow yn mynd yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu dyluniad ei bartneriaid consortiwm: Partneriaeth Richard Rogers, peirianwyr sifil Arup a BDSP, y peirianwyr mecanyddol a thrydanol. Ar yr adeg honno bydd mewn sefyllfa i gynnig contract pris penodol i’r Cynulliad. Wrth ddatblygu’r cynlluniau cost terfynol, bydd ymgynghorwyr costau’r Cynulliad yn gweithio ar y cyd gyda Taylor Woodrow, gan ddefnyddio dull codi tâl fesul awr, i bennu ffigur sy’n cynnig y gwerth gorau am arian. Bydd yn ofynnol i’r cwmni ddangos ei fod wedi cael prisiau cystadleuol fesul pecyn. Bydd hefyd yn gweithio ar ei fenter ei hun hyd nes y bydd y Cynulliad yn llunio contract ffurfiol.

O ddewis yr opsiwn hwn gellid llofnodi contract dylunio ac adeiladu pris penodol yn gynt na’r bwriad—o bosibl ar ddechrau Mehefin, yn lle Awst neu Fedi. Wrth benderfynu dilyn y llwybr hwn, nid wyf wedi cyfyngu ar fy opsiynau. Pe bai’r negodiadau gyda Taylor Woodrow yn methu, bwriadaf ailagor trafodaethau gyda David McLean, cwmni adeiladu sydd â’i bencadlys yn y Gogledd i ddatblygu dyluniad a chyflwyno cynigion ar gyfer contract dylunio ac adeiladu pris penodol. Mae David McLean, ei benseiri Stride Treglown Davies a’i beirianwyr Buro Happold wedi cytuno i’r cynnig hwn. Bu ymagwedd gyson tuag at y prosiect hwn o’r dechrau ac mae cefnogaeth i godi adeilad newydd ar gyfer y Cynulliad. Fodd bynnag mae pobl Cymru am gael eu sicrhau bod sicrwydd o ran costau a gwerth am arian. Mae pob cam a gymerais, ac y bwriadaf ei gymryd wedi ei anelu at roi’r sicrwydd hwnnw.