Skip to content

Cynllun Gofodol ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi i'r Cynulliad bod "Pobl, Lleoedd, Dyfodol", Cynllun Gofodol drafft ar gyfer Cymru, wedi'i gyhoeddi.  Rwyf wedi trefnu y caiff y Cynulliad gyfle cyn hir i drafod y ddogfen ymgynghori hon. Bydd yr ymgynghoriad, a fydd yn broses gynhwysol a gweithredol, yn para tan ddiwedd Ionawr 2004.  Bydd yr ymateb a ddaw i law yn ein helpu i lunio Cynllun Gofodol cyntaf Cymru, i'w gyhoeddi haf 2004.