Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Mae'n bleser gennyf adrodd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau partner wedi llofnodi cytundeb setliad â chwmni LG Electronics ar 31 Mawrth ynghylch adennill cymorth grant mewn perthynas â'r safle electroneg yng Nghasnewydd. Mae'r cytundeb hwn yn creu cyfle ardderchog i Gymru. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn tir ac adeiladau gwerth £20 miliwn, yn ôl prisiadau annibynnol, fel rhan o gytundeb y setliad. Gall y tir nad yw wedi'i ddatblygu y mae LGEW yn berchen arno gael ei drosglwyddo o fewn yr wythnosau nesaf ac yn ddiweddarach eleni bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn y rhan fwyaf o'r adeiladau yr arferai LPD (LG Philips Displays) eu defnyddio. Yn ogystal, mae LG Electronics, sef gwarantwr y cymorth gwreiddiol a ddyfarnwyd i LGEW, wedi talu £15 miliwn mewn arian parod i Lywodraeth y Cynulliad. Ar ôl caniatáu ar gyfer gwariant Llywodraeth y Cynulliad ar y gwasanaethau i'r adeiladau y bydd yn berchen arnynt yn y dyfodol, golyga mai cyfanswm net y swm y mae wedi'i adennill yw £34 miliwn.
Mae'r trafodaethau ynghylch adennill y grant cymorth wedi bod yn gymhleth ac roedd angen hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd ac ymgynghori ag ef gan y'i hysbyswyd ynghylch y pecyn cymorth gwreiddiol. Roedd Y Comisiwn Ewropeaidd, ynghyd â Swyddog Cyfrifo Llywodraeth y Cynulliad, yn fodlon â'r canlyniad. Credaf hefyd fod y pecyn yn un teg, yn arbennig o ystyried y cyd-destun datblygu economaidd ehangach. Wrth gwrs, bydd Pwyllgor Archwilio y Cynulliad yn edrych ar brosiectau LG yn gyffredinol yn nes ymlaen.
Ni ddylem anghofio buddsoddiad cwmni LG Electronics Wales. Roedd buddsoddiad cyfalaf y cwmni werth £230 miliwn ac ar un adeg roedd yn cyflogi oddeutu 2000 o weithwyr ar y safle yng Nghasnewydd. Gwn fod LG Electronics a LG Philips Displays yn edifar, fel rwyf i, fod y newidiadau mewn marchnadoedd a'r cystadleugarwch byd eang o ran cynnyrch tiwbiau pelydrau cathod wedi golygu bod yn rhaid iddynt gau'r cyfleuster tiwbiau yng Nghasnewydd. Lluniwyd cytundeb setliad oherwydd roedd LG Electronics yn ymwybodol o'r cymorth yr oedd wedi'i dderbyn oddi wrth y sector cyhoeddus ac roedd hefyd wedi ystyried ei gyfrifoldebau cymunedol ehangach. Mae'r cwmni yr un mor awyddus â ni i sicrhau bod y safle, ac eithrio adeilad LGEW, ar gael ar gyfer cyfleoedd datblygu economaidd eraill cyn gynted â phosibl.
Er bod hyn oll yn newyddion da iawn, nid wyf wedi anghofio'r gweithwyr a gollodd eu swyddi. Llwyddodd gwasanaethau all-leoli LGPD ynghyd â Thîm Cymru i helpu llawer iawn ohonynt i ganfod swyddi newydd, ac rwy'n hyderus y gallwn helpu busnesau i gyflawni potensial y safle hwn sydd mewn lleoliad gwych ac a all fanteisio ar wasanaethau niferus. Trwy gydweithio â Llywodraeth y Cynulliad, mae LG Electronics wedi sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda iawn i ddenu cyflogaeth arall ychwanegol i ardal Casnewydd. Mae LGEW yn rhedeg ac yn berchen ar un o'r adeiladau ar gyfer rhoi cynnyrch sgrîn fflat wrth ei gilydd. Mae'n cyflogi oddeutu 500 o staff ar hyn o bryd - 330 ohonynt yn barhaol a 170 ohonynt dros dro.
Yn ddiamau bydd cymariaethau'n cael eu gwneud rhwng gwerth y pecyn y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'i dderbyn a'r cymorth gwreiddiol y penderfynodd yr hen Swyddfa Gymreig ei ddyfarnu i LGEW. Roedd y pecyn grant a dalwyd mewn gwirionedd yn is na'r hyn a gynigiwyd, sef cyfanswm o oddeutu £87 miliwn. Gellir rhannu’r arian a ddyrannwyd fel a ganlyn:
Cymorth £ miliwn
Grant Cymorth Rhanbarthol Dewisol 34.6
Grant Hyfforddiant gan y Cyngor Hyfforddiant a Menter 7.6
Tir a gwaith 10.5
Datblygu'r safle 12.4
Grant ar gyfer yr eiddo 22.0
CYFANSWM 87.1
Dengys y ffigurau hyn fod oddeutu £45 miliwn wedi'i wario ar y tir, y seilwaith ac ar ddatblygu'r adeiladau a golyga y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn yr holl asedau a ariannwyd, ac eithrio adeilad LGEW sy'n weddill. Gellir ychwanegu'r £15 miliwn o arian parod at y cyfanswm hwn. Golyga hyn fod y Cynulliad wedi adennill bron i 70% o'r grant, ar sail costau hanesyddol. O ran y cymorth y mae'r cwmni wedi elwa arno, rhaid cofio y miloedd o swyddi yr oedd wedi'u darparu yn ystod y blynyddoedd y bu'n gweithredu ynghyd â'r miloedd o swyddi sy'n parhau i fodoli yng Nghasnewydd.
Yn ddiamau credid pan ddyfarnodd yr hen Swyddfa Gymreig y cymorth i'r prosiectau LG fod angen i gyllidebau y tu allan i'r Adran Datblygu Economaidd gyfrannu er mwyn gallu cyflwyno'r pecyn priodol o gymorth ar gyfer y buddsoddiad arfaethedig enfawr. Mae'n briodol felly y bydd y cymorth sy'n cael ei ddychwelyd mewn arian parod ac mewn da ar gael i hyrwyddo holl flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad. Bydd £15 miliwn ar gael ar unwaith a bydd hyd at £19 miliwn yn ychwanegol ar gael ar ôl i'r tir a'r adeiladau gael eu gwerthu at ddibenion datblygu economaidd gwahanol. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad gytundeb â Chyngor Sir Casnewydd mewn perthynas â'r tir nad yw wedi'i ddatblygu sy'n cydnabod ei fuddiant ariannol parhaus oni fydd y tir wedi'i ddatblygu erbyn Rhagfyr 2005.
Gan fod perchenogaeth y tir a'r adeiladau bellach yn glir bydd Awdurdod Datblygu Cymru yn mynd ati i'w marchnata ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Dylwn bwysleisio nad yw’r cytundeb mewn perthynas â’r safle electroneg yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r cytundeb ynghylch hen safle LG Semicon. Mae cytundeb ar wahân yn bodoli â Hynix ar gyfer y safle hwnnw lle mae'r tir nad yw wedi'i ddatblygu o'r datblygiad lled-ddargludyddion eisoes wedi'i roi i Awdurdod Datblygu Cymru a lle mae'r adeilad yn cael ei farchnata o hyd - at ddibenion eraill. Golyga'r trefniadau hyn fod hen safleoedd LG yn cynnig cyfleoedd deniadol iawn ar gyfer buddsoddiad newydd.
I gloi, hoffwn ddatgan fy mod yn croesawu'r setliad cyfeillgar rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a LG Electronics. Mae'n anffodus na lwyddodd y weledigaeth ar gyfer datblygu electronig fel y bwriadwyd ond mae'r setliad yn galluogi pawb i symud ymlaen er lles Casnewydd a Chymru gyfan.