Skip to content

Cronfeydd Strwythurol - Cronfa Berfformiad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod llwyddiant rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru wedi'i gadarnhau unwaith eto heddiw yn sgîl dyfarniad 'ychwanegol' o dros £65 miliwn oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd.  

Dengys y cyllid ychwanegol hwn hyder y Gymuned Ewropeaidd yn llwyddiannau a dulliau rheoli rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru.  Dylid llongyfarch Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a'i phartneriaid am eu gwaith clodwiw wrth reoli'r rhaglenni'r cymhleth hyn.  Mae Cronfeydd Strwythurol yn arwain at newidiadau mawr ledled Cymru: creu swyddi, cynyddu cyfleoedd a helpu i adfywio ein cymunedau tlotaf.

Daw'r arian o'r Gronfa Berfformiad ac mae wedi'i ddyrannu i'r Rhaglenni Amcan 1, 2 a 3 yng Nghymru ar gyfer bodloni eu targedau ar ddiwedd 2003 yn unol â meini prawf ariannol, rheolaeth ac effeithiolrwydd (perfformiad).

Cyflwynodd Y Comisiwn Ewropeaidd y Gronfa Berfformiad ar gyfer y cyfnod 2000-2006 er mwyn rhoi rhagor o bwyslais ar reoli perfformiad.  Rhoddwyd pedwar y cant o werth yr holl Raglenni Amcanion ym mhob Aelod-wladwriaeth i'r Gronfa Berfformiad.

Mae'r Gronfa Berfformiad werth cyfanswm o €91.6m (£65.4m) i Gymru. Nid yw’n ofynnol dod o hyd i arian cyfatebol ar gyfer y cyllid ychwanegol o'r Gronfa Berfformiad.  Bydd Cymru yn derbyn y symiau canlynol o'r Gronfa Berfformiad:

  • Amcan 1 €80.5m (£57.5m)
  • Amcan 2 €5.3m (£3.8m)
  •  Amcan 3 €5.7m (£4.1m)

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i brosiectau yn y meysydd canlynol:

  • lleihau anweithgarwch economaidd
  • hyrwyddo arloesedd ynghyd ag ymchwil a datblygiad
  • adfywio canol trefi
  • sicrhau cefn gwlad cynaliadwy
  • pysgodfeydd a dyframaethu
  • cymorth ariannol i Fusnesau Bach a Chanolig.