Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig mewn ymateb i Argymhellion yr Adroddiad ar Adolygiad Polisi’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio o Dai a Phobl Hyn.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
DIBEN: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ar dai a phobl hyn.

Nodir yr ymatebion i argymhellion yr Adroddiad isod. Mae’r argymhellion wedi’u rhifo yn ôl eu trefn yn yr adroddiad.


Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried a allai’r fforymau pobl hyˆ n a sefydlwyd o dan fframwaith y Strategaeth ar gyfer Pobl Hyˆ n yng Nghymru hefyd ymwneud â thai a gwasanaethau cysylltiedig i bobl hyˆ n, a hynny ar lefel leol a chenedlaethol. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog y fforymau i roi blaenoriaeth i alluogi pobl hyˆ n i gyfrannu at ddatblygu a gwerthuso strategaethau tai, strwythurau a gwasanaethau er eu budd eu hunain, a dylanwadu arnynt. Dylai’r fforymau’n arbennig fod yn ganolbwynt ar gyfer datblygu a rhannu cyngor, eiriolaeth a gwybodaeth ar wasanaethau cymorth er mwyn sicrhau bod pobl hyˆ n yn gwybod beth yw eu hawliau a pha ddewisiadau sydd ar gael iddynt.

Derbyn. Er mai mater i’r Fforymau Pobl Hyˆ n lleol yw penderfynu ar eu hagendâu eu hunain, byddem yn bendant yn annog trafodaeth fywiog ar faterion tai yn y ffordd sy’n cael ei hargymell gan y Pwyllgor. Bydd yn bwysig hefyd i bob Fforwm ailedrych ar y materion hyn yn y dyfodol i werthuso’r camau lleol sydd wedi’u cymryd a’r newid sydd wedi digwydd. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i wasanaeth eiriolaeth gael cefnogaeth arbenigol ac mae hynny’n cael ei ystyried yng nghyd-destun y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hyˆ n.


Goblygiadau Ariannol
Dim yn codi’n uniongyrchol o’r argymhelliad, ond mae’n amlwg y gallai costau na ellir eu cyfrifo eto godi mewn achosion pan fyddai cyngor y Fforymau’n cael ei dderbyn.


Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiwygio’r canllawiau i annog gwell cydweithio rhwng asiantaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol, a datblygu’r dulliau cynllunio ac ariannu newydd ar y cyd ar lefel leol. Yn benodol, erbyn 31 Mawrth 2006, dylai pob Strategaeth Dai Leol, gan ddefnyddio’r cymorth a’r canllawiau a awgrymir yn argymhellion 3 a 19, adlewyrchu’r gwaith a wnaed ar:

 rôl tai gwarchod, gan gynnwys datblygu cyfleoedd lesddeiliadaeth, cyfunddeiliadaeth a rhan-berchnogaeth i berchnogion hyˆ n sy’n chwilio am dai gwarchod, a lefel y ddarpariaeth a fydd yn briodol;
 rôl a darpariaeth leol gwell tai gwarchod;
 rôl a darpariaeth leol tai “Extracare”;
 rôl a darpariaeth leol gofal preswyl a gofal nyrsio;
 cynigion i ateb anghenion pobl â dementia o ran llety;
 cynigion i ateb anghenion pobl anabl o ran llety;
 cynigion i ateb anghenion pobl hyˆ n sy’n byw mewn tai cyffredinol.

Derbyn. Prif swyddogaeth y grwpiau swyddogion  tai/iechyd/gofal cymdeithasol arfaethedig fydd gwella’r gweithio ar y cyd ar faterion lle ceir gorgyffwrdd rhwng y sectorau hynny. Bydd angen addasu “Paratoi Strategaethau Tai Lleol”, y canllawiau a anfonodd Llywodraeth Cynulliad Cymru at awdurdodau lleol, er mwyn ystyried y meysydd polisi y tynnwyd sylw atynt.

Goblygiadau Ariannol
Dim goblygiadau ariannol uniongyrchol ar gyfer y Cynulliad.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu gweithgor gorchwyl a gorffen i helpu awdurdodau lleol i fodloni gofynion argymhelliad 2. Dylai’r gweithgor ddod â swyddogion ac arbenigwyr o’r tu allan ynghyd, a chynnwys cynrychiolwyr pobl hyˆ n. Gofynna’r Pwyllgor i’r Gweinidog roi adroddiad ar waith y gweithgor ac i’r gweithgor orffen ei waith erbyn yr haf 2006.

Derbyn: Dylai’r grwˆ p swyddogion tai/iechyd/gofal cymdeithasol arfaethedig y cyfeirir ato yn argymhelliad 2 ystyried y mater hwn ymhellach.  Dylid penderfynu ar union gylch gwaith a chyfansoddiad y grwˆ p gorchwyl a gorffen a gofyn am farn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff cynrychioladol eraill.

Goblygiadau Ariannol
Gweler yr ymateb i Argymhelliad 2.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru drafod â Gofal a Thrwsio Cymru sut y gallai’r corff hwnnw, ar y cyd â phartneriaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol a masnachol a chan gydgysylltu â fforymau pobl hyˆ n, arwain menter i hyrwyddo datblygu gwasanaeth cymorth integredig i bobl hyˆ n yn seiliedig yn y gymuned.

Derbyn. Mae hyn yn adlewyrchu’r trafodaethau sy’n parhau gyda Gofal a Thrwsio Cymru. Gan adeiladu ar y sylfaeni sy’n bodoli eisoes gydag asiantaethau, mae Gofal a Thrwsio Cymru yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai a phartneriaid allweddol eraill i ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau Gofal a Thrwsio. Ymhlith y materion sy’n cael eu trafod mae; opsiynau croes-ddeiliadaeth; cymorth technoleg; mentrau iechyd a lles; dulliau arloesol o ddefnyddio ffynonellau cyllid; partneriaeth sy’n darparu hyfforddiant a datblygu’r gweithlu yn y diwydiant adeiladu; canolbwyntio ar gymunedau BME ac ardaloedd gwledig; cynnal a chadw a hybu iechyd; trafodaeth ar aros a symud ymlaen a chefnogaeth cyn ymddeol. Bydd y dull asesu unedig yn sylfaenol i nifer o’r trafodaethau hyn.

Goblygiadau Ariannol
Oes ond ni ellir eu mesur ar hyn o bryd ac ni ragwelir y bydd y rhain yn sylweddol.


Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru hyrwyddo adolygiad sefydlog, a fydd yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr iechyd, tai a gofal cymdeithasol yn y sectorau statudol, masnachol a gwirfoddol er mwyn cadw golwg ar ddatblygiad cymwysiadau ymarferol y dechnoleg newydd ac er mwyn rhannu gwybodaeth a helpu i roi hyn oll ar waith a’i werthuso.


Derbyn. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dwyn ynghyd y gwahanol fuddiannau o ran gweithredu a gwerthuso i rannu gwybodaeth a’r arferion gorau wrth ddefnyddio technoleg gofal, gan gysylltu â datblygiadau priodol ym maes iechyd.

Goblygiadau Ariannol
Dim yn codi’n uniongyrchol o’r argymhelliad hwn, ond gallai’r ymchwil a’r profi ar yr agwedd hon olygu costau cychwynnol. Gallai defnyddio technolegau gofal priodol arwain at arbedion.




Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru barhau i gefnogi a hyrwyddo gwaith Gofal a Thrwsio Cymru, yn arbennig o ran cryfhau cysylltiadau ag asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn caniatáu i bobl hyˆ n aros yn eu cartrefi eu hunain. Wrth ddatblygu ystod y gwasanaethau ymhellach dylai gydweithio â Gofal a Thrwsio Cymru i ddatblygu mentrau i annog gwaith cynnal a chadw yng nghartrefi pobl hyˆ n.

Derbyn.  Mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi cydnabod bod angen datblygu atebion ym maes tai sy'n seiliedig ar hybu iechyd ac atal afiechyd, yn hytrach nag ymyrryd mewn argyfyngau, a bod diddordeb cynyddol yn y maes hwn. Mae profiad wedi dangos bod cynnal a chadw’r cartref yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol iach a chynaliadwy i lawer o bobl hyˆ n. Mae hwn yn faes arbennig o anodd i’r pensiynwyr tlotaf, a allai fod ag anghenion iechyd lluosog. Mae rhaglen cartref iach yn cael ei datblygu sy’n ceisio rhwystro dirywiad mewn iechyd a hyrwyddo lles. Byddai’r rhaglen yn cynnwys archwiliad cartref iach blynyddol a gwasanaeth cynnal a chadw. Mae Gofal a Thrwsio Cymru wrthi’n datblygu model peilot y gellir ei ystyried.

Goblygiadau Ariannol
Dim, ar wahân i’r gefnogaeth bresennol a roddir i Gofal a Thrwsio.


Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru chwilio am ffyrdd o ddatrys y prinder parhaus o ran therapyddion galwedigaethol. Dylai geisio pennu arfer gorau a rhoi canllawiau ar ffyrdd y gellir rhoi patrymau gweithio hyblyg ar waith sy’n defnyddio gweithwyr proffesiynol yn y ffordd orau, a chydweddu sgiliau a phrofiad â chymhlethdod yr achos yn unol ag arfer da effeithiol.

Derbyn. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd ag awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill, yn edrych ar sut y gellir defnyddio arbenigedd y therapyddion galwedigaethol sydd mewn swydd ar hyn o bryd yn well a mabwysiadu arferion mwy hyblyg.

Bydd yr adolygiad cyfredol o grantiau cyfleusterau ac addasiadau i bobl anabl yn ystyried y mater hwn hefyd,  ac yn ystyried sut y gellir goresgyn y problemau presennol o ran asesu sy’n deillio o’r prinder therapyddion galwedigaethol. Mae Gorchymyn Diwygio Rheoliadol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol weithredu’n fwy hyblyg yn y maes hwn. Bydd y grwˆ p swyddogion tai/iechyd/gofal cymdeithasol arfaethedig hefyd yn ystyried y mater hwn.

Goblygiadau Ariannol
Dim yn cael eu rhagweld ar hyn o bryd.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru estyn ei adolygiad o Grantiau Cyfleusterau Anabledd a chynnwys y broses ehangach ar gyfer ymateb i anghenion pobl anabl a gwasanaethau cysylltiedig. Dylai’r adolygiad estynedig gynnwys:
 digonolrwydd yr adnoddau a ddarperir;
 cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar gael gwared ar brofion moddion a phennu’r gyfradd TAW ar gyfer pob gwaith er mwyn ateb anghenion pobl anabl, ar y lefel isaf bosib;
 rhoi arian cyhoeddus i dalu am addasiadau mewn pob math o ddeiliadaeth a phob math o lety a sicrhau’r un canlyniadau i bawb beth bynnag fo’u deiliadaeth;
 pa mor effeithiol yw’r grant o ran hybu annibyniaeth yn hytrach na phwysleisio diffyg gweithredol;
 cynnwys y rhai sy’n derbyn grant a’u gofalwyr wrth gynllunio a gwerthuso gwasanaethau; ac
 amddiffyn deiliaid tai rhag addasiadau anaddas neu wael drwy atgyfnerthu hawliau’r ymgeisydd o ran sicrhau y caiff ceisiadau am grant eu dilysu.

Derbyn. Mae nifer o’r materion hyn eisoes yn dod o fewn cwmpas yr adolygiad a byddant yn cael eu hystyried yng ngoleuni argymhellion yr adolygiad.

Goblygiadau Ariannol
Dim o ran ystyried o fewn cyd-destun yr adolygiad o addasiadau. Gallai’r argymhellion a fydd yn deillio o’r adolygiad hwnnw fod â goblygiadau ar gyfer adnoddau, fodd bynnag.


Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ac adnewyddu os oes angen ganllawiau Gorchymyn Diwygio Rheoliadol (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002. Dylai'r canllawiau annog awdurdodau i fanteisio ar gyfleoedd i fod yn fwy hyblyg wrth ariannu gwaith gwella tai, gan gynnwys rhoi benthyciadau, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n sensitif i amgylchiadau lleol.

Derbyn. Daeth Gorchymyn Diwygio Rheoliadol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 i rym ym mis Gorffennaf 2003. Mae’r canllawiau helaeth sydd ar gael eisoes yn annog awdurdodau lleol i fanteisio ar yr hyblygrwydd a’r manteision newydd sy’n deillio o’r Gorchymyn. Cynhelir seminarau gydag awdurdodau lleol yn ddiweddarach eleni i ystyried yr effaith y mae’r Gorchymyn wedi’i chael ac unrhyw welliannau y gellir eu gwneud.

Goblygiadau Ariannol
Dim.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru feddwl am gyflwyno ffrwd ariannu i gefnogi prosiectau arloesol sy’n ymwneud ag iechyd a thai.

Derbyn. Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ffrwd ariannu eisoes – y cynllun Grant Hyblygrwydd a Gweithio ar y Cyd – a fyddai’n cyflawni’r swyddogaeth hon. Gellir defnyddio’r cynllun ar gyfer bron y cyfan o swyddogaethau awdurdodau lleol gan gynnwys tai yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol. Os cyfyd yr angen, fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn edrych ar sut y gellir gwella dealltwriaeth o’r modd y gellir defnyddio’r grant.

Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2002 hefyd yn berthnasol. Un o’r themâu a gynigir ar gyfer ariannu prosiectau arloesol drwy Raglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol y Gyfarwyddiaeth Dai ar gyfer 2005-2006 yw helpu pobl hyˆ n i fyw’n annibynnol yn eu tai eu hunain gyda chymorth technoleg. Bydd y      grwˆ p swyddogion tai/iechyd/gofal cymdeithasol hefyd yn ystyried y mater hwn.


Goblygiadau Ariannol
Y cyllid eisoes yn ei le. Efallai y bydd angen darparu cyllid ychwanegol ar gyfer technoleg cynorthwyol.

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gydgysylltu’r cynlluniau sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol ar ddiogelwch yn y cartref, er enghraifft drwy estyn y cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. Dylai ystyried a ddylid rhoi canllawiau ar drefniadau’r cynlluniau hynny, ar y cyd â’r Swyddfa Gartref ac Awdurdodau’r Heddlu, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a mudiadau’r sector gwirfoddol megis Cymorth i Ddioddefwyr.

Derbyn. Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn cynnig effeithlonrwydd ynni a gwresogi yn bennaf ar gyfer cartrefi cymwys. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig mesurau diogelwch megis larymau mwg, cloeon ar gyfer drysau a ffenestri a thyllau sbecian. Drwy’r Cynllun hwn, mae’r Cynulliad yn cydweithio â chyrff o’r sector gwirfoddol i roi cyngor a chymorth ymarferol ar effeithlonrwydd ynni a diogelwch yn y cartref. Bydd swyddogion yn parhau i chwilio am gyfleoedd eraill i gydweithio er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn o dan y Cynllun.

Hefyd, mae mentrau diogelwch tân cymunedol y Cynulliad yn cynnig cymorth amrywiol, o larymau mwg gwirfedig i offer eraill sy’n ddiogel rhag tân (fel blancedi trydan) a chyngor ar ddiogelwch tân yng nghartrefi pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys pobl hyˆ n, i wneud eu cartrefi’n fwy diogel.

Goblygiadau Ariannol
Oes, ond mae’n anodd eu mesur ar hyn o bryd.  Gallai mwy o gydweithredu arwain yn anorfod at alwadau am fwy o gefnogaeth ariannol.


Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog Llywodraeth y DU i gefnogi’r cynnig a wnaed gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol y dylid eithrio benthyciadau rhyddhau ecwiti at ddibenion gwella tai rhag cyfyngiadau rheoliadau Deddf Credyd Defnyddwyr 1974.

Cytuno mewn egwyddor os oes problem yn y maes hwn ond bydd gofyn ystyried y mater ymhellach gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i weld faint o anhawster y mae’r Ddeddf yn ei greu. Rydym yn ystyried yr argymhelliad hwn ymhellach gyda Llywodraeth y DU.


Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu ac ariannu “Asiantaeth Benthyciadau Gwella Tai yng Nghymru” a fydd yn gorff ‘di-elw’ i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â rhyddhau ecwiti. Diben y corff fyddai denu symiau o arian oddi wrth fenthycwyr masnachol a’u cynnig i bobl hyˆn mewn ffyrdd mwy hyblyg a phriodol, drwy asiantau cyflawni lleol. Dylid rhoi statws elusen i’r corff, dylid gwarantu ei weithgareddau ariannol a dylai Bwrdd sy’n cynrychioli amryw helaeth o randdeiliaid oruchwylio’r corff.

Cytuno bod angen edrych ar fater benthyciadau.  Mae gwaith ymchwil yn awgrymu, fodd bynnag, na fyddai hyn yn ymarferol ar lefel sefydliad cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn ymchwilio, ar y cyd â sefydliadau sydd wedi hen ymsefydlu, sut y mae benthyciadau a allai hwyluso rhyddhau ecwiti yn cael eu datblygu mewn rhannau eraill o’r DU. Rydym yn trafod gyda nifer o sefydliadau sy’n gweithredu yn y maes  a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru i ystyried y posibiliadau o sefydlu cynllun neu gynlluniau peilot yng Nghymru.

Goblygiadau Ariannol
Oes ond ni ellir eu mesur ar hyn o bryd ac nid yw’n debygol y byddant yn sylweddol.



Argymhelliad 14

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog awdurdodau lleol i amcangyfrif lefelau ecwiti eiddo i asesu dichonoldeb cynlluniau rhyddhau ecwiti, yn rhan o’r Strategaethau Tai Lleol. Dylent werthuso potensial cynlluniau rhannu ecwiti y gallai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eu cynnig i bobl hyˆ n. Dylent nodi ffyrdd o hybu rhyddhau ecwiti, efallai drwy annog asiantaethau Gofal a Thrwsio i roi gwybodaeth i berchnogion tai, gan ddefnyddio’u gwasanaethau allgymorth  i ennyn ymddiriedaeth a hyder.

Derbyn. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i briodoldeb ymgorffori hyn yn y canllawiau diwygiedig ar baratoi strategaethau tai lleol, a sut y gellid gwneud hynny.  Bydd trafodaethau’n dechrau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn cefnogi’r drafodaeth genedlaethol am ddatblygiad pecynnau rhyddhau ecwiti ac mae’n cadw llygad ar ddatblygiadau yn y maes. Mae’r asiantaethau Gofal a Thrwsio yn gwneud peth gwaith cyfyngedig gyda morgeisi llog yn unig, yn ogystal â rhai pecynnau elusennol.


Goblygiadau Ariannol
Dim.


Argymhelliad 15

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru:
 gydweithio â’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol, gan ddefnyddio dulliau sydd eisoes ar waith megis y Cytundebau Polisi, i hybu cynnydd yn lefel yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau gofal cartref a fydd yn caniatáu i fwy o bobl aros yn eu cartrefi’n annibynnol ac i leihau’r galw am ofal preswyl a gofal meddygol aciwt;
 cefnogi cynlluniau i ehangu gwasanaethau cymorth i bobl   hyˆ n nad oes angen llawer o ofal arnynt drwy bartneriaethau rhwng yr awdurdodau lleol a’r sector annibynnol gan ddefnyddio’r model a amlinellir yn argymhelliad 4;
 drwy’r rhaglen Cefnogi Pobl, annog datblygiad cynlluniau cymorth fel y bo’r angen i bobl hyˆ n lle gellir dangos eu bod yn berthnasol ac yn gost effeithiol;
 edrych eto ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw ym maes darparu gofal cartref, darparu gofal nad yw’n ofal nyrsio mewn cartrefi gofal preswyl a gofynion gweithio’n hyblyg gydag aml-sgiliau.

Derbyn pwyntiau 1 a 2.  Rydym yn mynd i’r afael â phrif neges yr argymhelliad eisoes, drwy ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adolygiad Wanless o Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys datblygu argymhellion adroddiad    Grwˆ p Strategaeth Gofal Cymru, sy’n gwneud sylwadau tebyg am werth ymyriadau cynnar, ar gyfer pobl nad oes angen llawer o ofal arnynt.

Yn y pen draw, mae angen cydnabod mai mater i’r awdurdodau lleol perthnasol yw penderfynu ar y cydbwysedd rhwng gofal preswyl  a gofal cartref a’r mathau eraill o gefnogaeth y maent yn eu prynu. Mae tystiolaeth anecdotaidd o waith yr ydym wedi’i wneud ar y sector gofal preswyl yn awgrymu, fodd bynnag, bod problem sylweddol yn datblygu o ran cyflenwad cyfyngedig.

Rhaid cael partneriaethau lleol cadarn cyn y gellir sefydlu arferion comisiynu da. Dim ond drwy gael cydweithio gwirioneddol yn y cam cynllunio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar y naill law a’r sector annibynnol ar y llall y gallwn ddisgwyl gweld gwelliannau yn y ffordd y mae adnoddau’n cael eu defnyddio a gwasanaethau’n cael eu darparu. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi creu Fforymau Darparwyr Sector Annibynnol Lleol, a awgrymwyd gan Fforwm Gofal Cymru, a byddem yn annog cynllunwyr a chomisiynwyr lleol i drafod â hwy.

Derbyn pwynt 3. Yn sgil lansio Cefnogi Pobl yn 2003  roedd yn bosibl darparu cymorth sy’n gysylltiedig â llety mewn meysydd eraill fel y sector perchen-feddiannaeth.  Mae darparwyr a’u partneriaid strategol ym maes llywodraeth leol eisoes wedi achub ar y cyfle i ddatblygu dulliau darparu newydd megis cynlluniau cymorth fel y bo’r angen ar gyfer pobl hyˆ n. Wrth i’r wybodaeth strategol ddod yn gadarnach ac wrth i’r ddarpariaeth gyfredol a’i heffeithiolrwydd gael eu hadolygu, byddem yn disgwyl i fwy o adnoddau gael eu rhyddhau ar gyfer y mathau hyn o ddatblygiadau.

Derbyn pwynt 4. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn ystyried materion recriwtio a chadw ac ailgynllunio’r gweithlu drwy waith Cyngor Gofal Cymru a’r gofyniad bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu cynlluniau’r gweithlu i gefnogi cynlluniau gwasanaeth yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn edrych yn ofalus ar y materion hyn fel rhan o’r Adolygiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (Wanless).

Goblygiadau Ariannol
Mater i’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol yw gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau gan gynnwys y cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o ofal a lleoliadau gofal a’r trefniadau lleol ar gyfer cefnogi arferion comisiynu da. Mae yna oblygiadau ariannol ar gyfer Cefnogi Pobl ond rhaid i’r rhain ddilyn asesiad lleol o anghenion a blaenoriaethau.  



Argymhelliad 16

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fynd ati gyda pherchnogion cartrefi gofal preswyl yn y sector preifat i ystyried a ellid darparu gofal cartref i bobl hyˆ n yn unol ag anghenion lleol ac ystyried ffyrdd o ariannu hynny.

Derbyn bod angen edrych ar y mater hwn. Mae nifer o ddarparwyr gofal preswyl eisoes yn darparu gwasanaethau gofal cartref, fodd bynnag. Ar lefel strategol, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gynnal trafodaeth â darparwyr gofal ynghylch sut y gall y farchnad ymateb i anghenion sydd wedi’u nodi. Ar lefel leol, fodd bynnag, mater i’r cyrff comisiynu yw penderfynu ar yr anghenion a cheisio cwrdd â’r anghenion hynny a’u hariannu drwy eu strategaethau comisiynu a threfniadau contractio priodol.


Argymhelliad 17

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lobïo Llywodraeth y DU i gyflwyno rheoliadau adeiladu sy’n ei gwneud yn ofynnol pennu safonau Cartrefi Gydol Oes wrth adnewyddu tai a chodi tai newydd yn y sector preifat. Byddai hynny’n cynyddu’r stoc tai hygyrch ac yn peri bod llai o angen gwneud addasiadau yn y dyfodol.

Derbyn. Bydd cyflwyno Safonau Cartrefi Gydol Oes ar gyfer tai anghenion cyffredinol newydd yn eu gwneud yn fwy hyblyg. Bydd hyn yn caniatáu i bobl fyw yn eu tai am gyfnod hirach.

Ni fydd bob amser yn ymarferol nac yn economaidd bosibl cyflwyno’r holl safonau hyn ar gyfer tai sy’n cael eu hadnewyddu felly bydd yn anodd eu hymgorffori yn y rheoliadau adeiladu.

Mae Rhan M o’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer tai yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y profiadau a fydd yn cael eu hennill yng Nghymru o ran adeiladau tai cymdeithasol hyd at y Safonau Cartrefi Gydol Oes yn cael eu cyflwyno i’r corff adolygu.



Goblygiadau Ariannol
Bydd cost cyflwyno’r safon mewn tai newydd yn y sector preifat yn amrywio ond byddai’n tua £1,800 ar gyfer tyˆ  3 ystafell wely nodweddiadol.


Argymhelliad 18

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu ar fyrder astudiaeth sylfaenol i ddarparu gwybodaeth ar ddarpariaeth, categori a dosbarthiad tai gwarchod a mathau eraill o lety arbenigol sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl hyˆ n yng Nghymru. Dylai’r astudiaeth hefyd edrych ar allu’r amryw gategorïau o dai gwarchod (a gofal preswyl) i roi cymorth i bobl hyˆ n a chanddynt wahanol anghenion er mwyn gallu llunio barn am ddiben a rôl pob math o ddarpariaeth nawr ac yn y dyfodol.

Derbyn. Caiff prosiect ymchwil ei gomisiynu fel rhan o’r Rhaglen Ymchwil Tai.


Goblygiadau Ariannol  
Tua £100,000 fydd cost prosiect a fydd yn cwmpasu 18 ac 19. Caiff ei ariannu o Gyllideb y Gyfarwyddiaeth Dai.


Argymhelliad 19

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi ar waith adolygiad strategol o ddarpariaeth tai gwarchod ac amrywiadau ar hynny a fydd yn helpu’r awdurdodau lleol i wneud y gwaith y sonnir amdano yn argymhelliad 2. Ymhlith y materion y dylid mynd i’r afael â hwy mae:

 yr angen i adolygu rôl wardeniaid i adlewyrchu anghenion newidiol y tenantiaid;
 yr angen i ymwneud â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector preifat;
 yr angen am ddarpariaeth hyblyg a darpariaeth ar raddfa fach, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig;
 yr angen i bennu rôl tai gwarchod “confensiynol” yn y dyfodol;
 yr angen i nodi rôl a phwrpas tai gwarchod “gwell”;
 anghenion pobl hyˆ n mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;
 yr angen i ddatblygu meini prawf dyrannu a phrotocolau sy’n cydblethu â’r broses asesu unedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol;
 yr angen i nodi safon ofynnol er mwyn pennu bod llety’n “Extracare”;
 yr angen i ymateb i effaith lefelau cynyddol perchen-feddiant ar y galw am dai gwarchod ar rent ac ystyried darparu opsiynau lesddeiliadaeth, cyfunddeiliadaeth a rhan-berchnogaeth.


Derbyn. Caiff prosiect ymchwil ei gomisiynu fel rhan o’r Prosiect Ymchwil Tai.


Goblygiadau Ariannol
Gweler yr ymateb i Argymhelliad 18.




Argymhelliad 20

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar yr angen i ystyried goblygiadau cynllunio strategol tai gwarchod a thai arbenigol sy’n newydd neu sydd wedi’u hailwampio’n sylweddol ac yn arbennig yr angen i sicrhau bod tai gwarchod a thai arbenigol sydd wedi’u moderneiddio’n bodloni safonau hygyrchedd uchel ar gyfer tenantiaid anabl.

Yn cytuno â’r egwyddor sy’n sail i hyn ond nid yw  ailwampio tai gwarchod yn fewnol yn dod o fewn y cyfyngiadau cynllunio; er bod unrhyw newidiadau i fynedfeydd tai sy’n effeithio ar yr olwg allanol yn dod o dan y diffiniad o ddatblygiad, y Rheoliadau Adeiladu a wnaed o dan Ddeddf Adeiladu 1984 sy’n pennu’r safonau mynediad. Nid yw’r cyfrifoldebau o dan y Ddeddf hon wedi’u datganoli. Ymdrinnir yn ddigonol â’r ddarpariaeth ar gyfer safonau mynediad tai gwarchod newydd yn y polisi cynllunio, gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru (PPW) 2002, a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12 (Dylunio). Mae’r Polisi Cynllunio yn nodi bod angen i awdurdodau lleol ystyried anghenion y gymuned gyfan wrth gynllunio polisïau ac ystyried cynigion. Mae’n nodi’n benodol:

“Dylai awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr ystyried ‘mynediad i bawb’, gan gynnwys anghenion y rhai sydd â nam ar y golwg a’r clyw, a'r rhai sy'n ei chael yn anodd i symud fel . . . pobl oedrannus . . . yn gynnar yn y broses ddylunio”. (para 2.9.5)

Mae TAN 12 (Dylunio) yn cynnwys nifer o baragraffau ar “Ddylunio Cynhwysol” sy’n nodi:

“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i bawb sy’n ymwneud â’r broses ddylunio feithrin diwylliant cynhwysol  . . . Mae dylunio cynhwysol yn ddull penodol o ymdrin ag amgylchedd heb rwystrau.  Ymhlyg yn hyn mae’r syniad o newid dull o weithredu mewn perthynas ag anabledd sy’n canolbwyntio ar ‘anghenion arbennig’ at un sy’n dibynnu ar addasu adeiladau ac ar ddylunio ar gyfer unigolion. Ym mhob maes datblygu, dylid mynd ati’n gynt i roi mwy o sylw i anghenion pob sector o fewn cymdeithas, gan gynnwys yr henoed, plant a phobl ag anableddau”. (para 5.3 a 5.4)

Mae eisoes yn bosibl dyrannu tir neu bennu gofyniad cyffredinol am dai gwarchod mewn Cynlluniau Datblygu Unedol os yw’n seiliedig ar Strategaethau Tai Lleol ac asesiadau o anghenion tai. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu canllawiau manwl ar ddarparu tai “Extracare” a chyflwyno tenantiaethau amrywiadwy yn y sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ddiweddarach eleni.


Argymhelliad 21

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi canllawiau penodol ar ddarparu tai “Extracare”. Dylai’r canllawiau ddweud beth yw barn Llywodraeth y Cynulliad am rôl bosib Tai â Gofal/”Extracare” o ran y mathau o dai a chymorth a ddarperir i bobl hyˆ n a dylai roi enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a thu hwnt a fydd yn fodelau ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Derbyn. Mae’r Cynulliad yn ymgynghori ar hyn o bryd ar Ofynion Ansawdd Dylunio diwygiedig a fydd yn gosod safonau ac yn cynnig arferion da ar ddatblygu cynlluniau “Extracare” gan ddefnyddio’r Grant Tai Cymdeithasol.

Bydd canlyniadau’r prosiectau ymchwil y cyfeirir atynt yn argymhellion 18 ac 19 yn dylanwadu ar swyddogaeth bosibl tai “Extracare” yn y dyfodol. Rhoddir ystyriaeth wedi hynny i ddarparu canllawiau pellach ar swyddogaeth bosibl tai “Extracare”.


Goblygiadau Ariannol
Mae’r Cynulliad eisoes yn darparu cyllid ar gyfer cynlluniau tai “Extracare” sy’n cael eu cynnig yn Rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol awdurdodau lleol. Bydd cost cyfalaf y cynlluniau hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar eu maint a’u lleoliad. Bydd swm y grant yn tua £2.5m i £3.5m, ar gyfartaledd.


Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal astudiaeth i nodi manteision posib a hyfywedd ariannol pentrefi ymddeol a ddatblygir gan y sector preifat a’r sector di-elw, ynghyd â’r cymorth y byddai ei angen ar y pentrefi hynny. Dylai hefyd ystyried ariannu rhaglen arddangos o ddau neu dri o bentrefi o’r fath o wahanol feintiau a fyddai’n gweddu i amryw o gymunedau.

Derbyn bod angen cynnal ymchwil pellach i hyn. Mae Dinas a Sir Abertawe eisoes yn gweithredu cynllun ar gyfer pentref ymddeol 120 uned sy’n cynnwys elfen o “Extracare”. Caiff y cynllun ei ariannu drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.

Dyma’r cynllun cyntaf yng Nghymru a bydd swyddogion yn gwerthuso’r cynllun, gan gynnwys sut y mae’n cwrdd â’r gofynion o ran cefnogaeth, cyn ystyried comisiynu cynlluniau ychwanegol o’r fath. Amcangyfrifir y bydd angen cyfrannu Grant Tai Cymdeithasol gwerth dros £8 miliwn ar gyfer y cynllun hwn. Yn amlwg, nid oes llawer o gyfle i ddatblygu llawer o gynlluniau o’r maint hwn, o ystyried faint o gyllid a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.


Argymhelliad 23

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi canllawiau ar ddatblygu protocolau ym mhob awdurdod lleol ar gyfer posibilrwydd cau cartrefi gofal. Dylai gynnull gweithgor, gan edrych ar waith mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt, i ddatblygu siarter hawliau gwirfoddol ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Derbyn yn rhannol. Mae canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru “Hyrwyddo Partneriaeth ym maes Gofal” sy’n ymdrin â’r arferion gorau wrth gomisiynu, yn pwysleisio y dylai awdurdodau lleol gydweithio’n agos â darparwyr i sicrhau eu bod yn ystyried yr anghenion gofal tymor canolig a thymor hir eu hardaloedd, a bod newidiadau’n cael eu rhagweld a’u rheoli’n effeithiol. Ynghlwm â hyn, os bydd yn rhaid cael gwared ar wasanaeth – os bydd cartref yn cau er enghraifft – ceir disgwyliad y bydd y comisiynwyr a’r darparwyr yn cynllunio’r broses yn ofalus, trwy benodi timau penodol o reolwyr er enghraifft, neu drwy gydweithio’n agos ag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.

O ran cartrefi yn y sector preifat, rhaid derbyn mai mater i’r perchennog yw gwneud penderfyniad masnachol ynghylch a ddylid cael gwared ar y gwasanaeth. O dan amgylchiadau eraill, gallai fod yn briodol i gartref gau, er enghraifft os oes gan yr Arolygiaeth Safonau Gofal bryderon sylweddol am ddiogelwch oedolion sy’n agored i niwed.

O fewn y fframwaith cyfreithiol presennol, mae’n anodd gweld sut y gallai siarter hawliau wirfoddol fod yn ddim mwy na mynegiant o ddyheadau a fyddai’n amhosibl ei gweithredu. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach, fodd bynnag, i beth y gellid ei wneud drwy ddiwygio’r canllawiau comisiynu cyfredol.

Goblygiadau Ariannol
Dim yn codi’n uniongyrchol o’r argymhelliad hwn.


Argymhelliad 24

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol i’w hannog i ddatblygu llety lesddeiliadaeth, cyfunddeiliadaeth a rhan-berchnogaeth i bobl hyˆ n o dai gwarchod confensiynol i dai “Extracare” a ddarperir gan ddatblygwyr masnachol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Dylai’r ddarpariaeth honno fod yn rhan o’r fframwaith strategol a nodir yn Argymhelliad 19.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (2002) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ystyried strategaethau tai lleol wrth gynllunio i ddarparu tai newydd. Gallai’r strategaethau hyn gynnwys manylion megis y math o ddeiliadaeth sy’n cael ei ffafrio er mwyn cwrdd â gwahanol anghenion, ar sail anghenion tai pob rhan o’r gymdeithas. Yng ngoleuni ymateb Llywodraeth y Cynulliad i argymhelliad 19, fodd bynnag, byddai unrhyw welliant a fyddai’n cael ei awgrymu o ran y system cynllunio defnydd tir o ganlyniad i’r ymchwil arfaethedig yn cael ei ystyried.


Argymhelliad 25

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio â’r awdurdodau lleol drwy ddulliau megis y Cytundeb Polisi i nodi lefelau ariannu priodol a fydd yn caniatáu i’r awdurdodau lleol gomisiynu gwelyau mewn cartrefi gofal preswyl ar lefel a fydd yn galluogi’r sector i ateb y galw nawr ac yn y dyfodol ym mhob ardal a darparu gwasanaethau sefydlog i ddefnyddwyr.

Derbyn. Mae’r argymhelliad hwn eisoes yn cael ei weithredu, yn ei hanfod. O dan ganllawiau comisiynu statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhaid i awdurdodau lleol a’r GIG, yn eu harferion comisiynu, weithredu mewn ffyrdd sy’n helpu i gynnig sefydlogrwydd i’r sector ac yn caniatáu i ddarparwyr newydd ymuno â’r farchnad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog darparwyr i gyfrannu at y broses o gynllunio ar gyfer gofal yn y dyfodol.

Goblygiadau Ariannol
Mater i’r cyrff comisiynu yw penderfynu ar faterion buddsoddi, a hwy sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ymateb i anghenion unigolion.


Argymhelliad 26

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu cynllun i gynnig darpariaeth i bobl â dementia a’u gofalwyr a fydd yn dwyn ynghyd wasanaethau lleol ym meysydd iechyd, tai a gofal cymdeithasol mewn ffordd gydlynol. Dylai’r cynllun nodi arfer da o ran dylunio a rheoli cynlluniau tai a gofal preswyl a dylai ddarparu cynigion ac arian sbarduno er mwyn datblygu dau brosiect dementia enghreifftiol yng Nghymru. Dylai’r Grwˆ p Gorchwyl a Gorffen a awgrymir yn argymhelliad 3 gynorthwyo’r fenter hon.

Derbyn. Bydd y grwˆ p swyddogion tai/iechyd/gofal cymdeithasol arfaethedig yn gallu mynd i’r afael â’r mater hwn gyda chyngor gan y Panel Gofalwyr. Mae iechyd meddwl hefyd yn un o’r materion allweddol y bydd angen ymdrin â hwy o ran gweithredu agenda Wanless. Mae Age Concern/y Sefydliad Iechyd Meddwl wedi dechrau ar ymchwiliad i Iechyd Meddwl a Lles yn ddiweddarach mewn bywyd yn y DU. Bydd yr Ymchwiliad yn ymdrin â maes ehangach na dementia/iselder ac yn edrych mewn ffordd gyfannol ar Iechyd Meddwl a Phobl Hyˆ n – materion sydd, yn draddodiadol, wedi cael eu hystyried ar wahân.

Bydd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hyˆ n sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn gosod safonau ar gyfer yr holl wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl hyˆ n gan gynnwys gwasanaethau dementia. Ceir mecanwaith eisoes ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynhyrchu mewn ffordd gydlynol gan ei bod yn  ofynnol ar hyn o bryd  i bob awdurdod lleol gynhyrchu Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles sy’n nodi dull integredig o ddarparu gwasanaethau i’r boblogaeth gyfan ar draws meysydd llywodraeth leol, iechyd, y sector gwirfoddol a’r sector busnes. Bydd swyddogion hefyd yn ystyried yr agweddau dylunio a rheoli ar yr argymhelliad hwn yng ngoleuni prosiectau cyfredol ym maes dementia.

Goblygiadau Ariannol
Bydd goblygiadau ariannol ond mae’n anodd eu mesur ar hyn o bryd.