Skip to content

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, 18/19 Tachwedd 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog
Aeth Andrew Davies a finnau i 6ed cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ganol Tachwedd, yn Guernsey. Roedd pob un o'r 8 gweinyddiaeth sy'n aelodau o'r Cyngor wedi'u cynrychioli ar y lefel uchaf, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig gan yr oedd y Prif Weinidog yn cwrdd â'r Arlywydd Chirac yn Llundain.

Papur ar Dwristiaeth oedd y brif eitem ar yr agenda, ond dechreuwyd y cyfarfod gydag adroddiad llafar gan y Taioseach, Bertie Ahern, ar sefyllfa'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Nododd Mr Ahern ein bod wedi cael blwyddyn o heddwch ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ac roedd hynny ynddo'i hun yn orchest. Nododd hefyd fod Llywodraeth Prydain ac Iwerddon yn gweithio'n agos iawn â'i gilydd i geisio cael cytundeb tymor hir i Ogledd Iwerddon, a chanmolodd Paul Murphy, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, am ei ran yn y broses. Gan ymateb ar ran Llywodraeth Prydain, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog, John  Prescott, fod y ddwy lywodraeth wedi gweithio'n hynod effeithiol â'i gilydd a bod y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon yn awr mor agos a chynnes ag y bu erioed. Roedd yn amlwg y bydd y dyddiau a'r wythnosau i ddod yn dyngedfennol o ran taro ar gytundeb tymor hir. Dywedodd Cadeirydd y cyfarfod hwn o'r Cyngor, Prif Weinidog Laurie Morgan o Guernsey, y byddai'n braf iawn pe gwelid aelodau'r weinyddiaeth ddatganoledig adferedig yn cynrychioli Gogledd Iwerddon yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

Cafwyd trafodaeth ddiddorol a defnyddiol ar y papur ar Dwristiaeth. Pwysleisiodd pob un o'r gweinyddiaethau bwysigrwydd twristiaeth i'w heconomïau, ond derbyniwyd mai diffygiol yn aml oedd yr ystadegau a'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer datblygu'r diwydiant. Am y rheswm hwnnw ac er budd pob un o'r gweinyddiaethau, roedd Gweithgor y Sector Twristiaeth wedi cynnig dull mwy systematig o ddiffinio a chyfrif gwerth economaidd twristiaeth. Cytunwyd y dylai'r Gweithgor barhau i wneud gwaith pellach ar y 'Tourism Satellite Accounts'. (Set o dablau data yw'r TSA, sy'n seiliedig ar ddadansoddi data ar wariant twristiaid a data'r sectorau busnes sy'n gwasanaethu twristiaid. Mae TSA yn rhoi set fanylach o ystadegau sy'n gywirach na'r hyn a geid o gymryd canlyniadau arolygon unigol. Mae TSA yn creu cyfleoedd hefyd i fodelu a dadansoddi). Roedd nifer o'r cynrychiolwyr yn uchel eu clod o'r gwaith a wnaed gan Uned Ymchwil Economaidd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Limerick ar TSAs, a chydnabu pob un ohonynt ei fod yn waith pwysig a allai ddylanwadu ar bolisi twristiaeth yn y dyfodol. Anogwyd y Gweithgor i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ymhellach ac i baratoi adroddiad arno ar gyfer Uwch-gynhadledd yn y dyfodol.

Cymeradwyodd y Cyngor y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gweithgor ar hyfforddiant, recriwtio a chadw staff. Mae'r diwydiant twristiaeth yn cael problemau arbennig gyda hyfforddi staff, gan fod llawer o'r busnesau yn y diwydiant, er nad y cwbl, yn fach ac yn ei chael yn anodd i ryddhau staff i'w hyfforddi. O ganlyniad, mae llawer o sefydliadau'n methu â darparu lefelau boddhaol o wasanaeth, ac felly mae llawer o'r busnesau bach a chanolig yn anghystadleuol. Y bwriad y cynnal prosiect peilot ar hyfforddi, recriwtio a chadw staff yn Guernsey, gyda'r nod o drosglwyddo'r gwersi er budd yr holl weinyddiaethau sy'n aelodau o'r Cyngor. Bydd adroddiad ar y gwaith hwn hefyd yn cael ei roi gerbon Uwch-gynhadledd yn y dyfodol.

Edrychodd y Cyngor ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan weithgorau'r sectorau eraill hefyd, a chafwyd adroddiad ar hyn gan bob gweinyddiaeth. Mae'n amlwg bod yr holl weinyddiaethau yn cael budd o waith y gweithgorau ac nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn eithriad yn hyn o beth.  Mae'r gweithgorau'n helpu ein prosesau datblygu polisi ac yn cyfrannu at ystyriaeth gweinyddiaethau o faterion polisi cymdeithasol.

Mae'r Communique terfynol a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod yn amgaeedig. Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor yn 2005 yn Ynys Manaw.

Rhodri Morgan AC
Prif Weinidog Cymru