Skip to content

Wasanaethau ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Yn ein dadl ar Araith y Frenhines ym mis Rhagfyr, gwnaeth y Prif Weinidog nodi bwriad y Llywodraeth i wneud datganiad am wasanaethau cymdeithasol i geiswyr lloches yng Nghymru, gan gyhoeddi’r dull gweithredu yr ydym wedi’i fabwysiadu a’r camau ymarferol yr ydym yn eu cymryd. Dyna’r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yn awr.
Mae’r trefniadau sy’n rheoli mynediad ceiswyr lloches a ffoaduriaid i’r Deyrnas Unedig yn gyfrifoldeb i Lywodraeth San Steffan, fel y mae’r prosesau sy’n pennu canlyniad ceisiadau i aros yn y wlad hon wedyn. Ni fydd pob un ohonoch yn fodlon ar bob agwedd ar y polisïau hyn, ond nid cyfrifoldebau a arferir mewn lle arall sydd o dan sylw yn y datganiad hwn. Yn hytrach, bwriadaf nodi’r dyletswyddau a ddaw i ran y Cynulliad a’r modd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arfer y dyletswyddau hynny.
Y man cychwyn i mi a’m cyd-Weinidogion yw mai’r ffon fesur ar gyfiawnder cymdeithasol mewn cymdeithas yw’r modd y mae’n trin ei haelodau gwannaf—y rhai sydd â’r lleiaf, sydd â’r angen mwyaf am gymorth gan eraill. Mae gan Gymru draddodiad anrhydeddus o groesawu’r rhai sy’n ddieiddo, ac o sefyll dros y rhai a brofodd orthrwm. Bydd llawer o Aelodau’n cofio’r arddangosfa wych am Paul Robeson yn ystod y Cynulliad cyntaf, a ddangosai’r cysylltiadau diwylliannol a gwleidyddol a fu’n fodd i Gymru gefnogi’r frwydr dros gyfiawnder i bobl dduon yn Unol Daleithiau America yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd ac ers hynny. Mae’r ymdeimlad hwnnw o gyfiawnder yn bwysicach byth pan gymhwysir ef at rai sy’n byw o fewn ein glannau. Mae’r gwasanaethau cyhoeddus sydd o bwys i unigolion a theuluoedd a ddaw i Gymru fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches yn nwylo’r Cynulliad. Bu Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn modd sy’n cydnabod ac yn ymateb i’r anghenion penodol sydd gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Nodaf y camau a gymerasom ym meysydd tai, addysg ac iechyd, i gyflawni’r ymrwymiad sylfaenol hwn. Oherwydd yr angen am gymryd camau ymarferol y sefydlais fforwm polisi ffoaduriaid i Gymru gyfan yn Nhachwedd 2003. Mae’r fforwm yn cynnwys penderfynwyr ar lefel uwch a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru. Ymhlith ei nodau y mae cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio’n llwyddiannus yng Nghymru a hyrwyddo delweddau cadarnhaol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches fel aelodau o gymdeithas yng Nghymru. Os ydym i lwyddo yn y gwaith hwn, rhaid inni ei ddechrau’n gynnar, ac mae addysg yn hollbwysig. Dyna pam y bu inni ddarparu cyfanswm o £2.1 miliwn o gyllid yn 2003-04 ar gyfer awdurdodau addysg lleol yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau addysgol i geiswyr lloches a’u plant. Hon yw’r drydedd flwyddyn y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol o’r fath, ac mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Gwyddom o ddigwyddiadau yng Nghymru a’r tu hwnt fod polisïau tai’n cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar y cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid a phoblogaethau lleol gael integreiddio’n llwyddiannus. Mae ein cyfarwyddiaeth tai eisoes wedi ymgymryd â sawl menter i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i oresgyn rhwystrau rhag integreiddio drwy’r rhaglen grant tai digartrefedd, y rhaglen grant tai pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ac is-grwp tai y fforwm polisi ffoaduriaid i Gymru gyfan. Yn ddiweddarach y mis hwn, bwriadwn gyhoeddi canllawiau ar gyfer ymgynghori ynghylch cyfraith lloches, y system wasgaru bresennol ac arferion da wrth ddarparu gwasanaethau, yn ogystal ag ystyried mesurau i helpu ceiswyr lloches, sy’n ennill statws ffoadur, i integreiddio’n llwyddiannus.
Ynghylch polisi iechyd, mae cyfarwyddiaeth y GIG yn darparu cyllid ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn rhedeg Grwp Cynghorol Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Cymru. Un o brif nodau’r grwp hwn yw tynnu sylw at y materion sy’n wynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac, yn benodol, ymdrin â’r rhwystrau o ran iaith a brofant wrth dderbyn gwasanaethau iechyd. Mae’r gronfa anghydraddoldebau iechyd yn cynnig cymorth uniongyrchol yn y maes hwn, drwy weithio gyda chymunedau lleol i wella ein hymateb i broblemau iechyd a gaiff effaith benodol ar bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae prosiect gweithwyr iechyd Barefoot ym mae Caerdydd, er enghraifft, yn helpu timau gofal sylfaenol i helpu unigolion i leihau’r risg o gael clefyd y galon. Mae’r prosiect wedi ymwneud yn llwyddiannus â’r cymunedau Affro-Caribïaidd, Pacistanaidd a chymunedau Moslemaidd yn fwy cyffredinol. Mae’n rhoi llais iddynt ynghylch y modd i wella gwasanaethau iechyd er mwyn diwallu eu hanghenion.
Mae pobl sy’n ceisio lloches yng Nghymru yn ased pendant. Mae gwrthbleidiau’n cyfeirio’n aml at yr angen i recriwtio rhagor o staff i’r gwasanaeth iechyd. Ym mis Medi 2002, cafodd grwp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru gyllid gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer rhaglen ailgymhwyso ar gyfer meddygon o ffoaduriaid. Hyd yma, mae 31 o feddygon sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches wedi’u canfod yng Nghymru, ac mae’r rhaglen wedi dechrau cynhyrchu staff yn barod, a hwythau wedi ymgymryd â swyddi yn y gwasanaeth iechyd. Yn wir, mor llwyddiannus y bu’r cynlluniau hyn fel bod gwaith wedi dechrau i ystyried anghenion a gofynion gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yng Nghymru sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches. Mae dau ddeintydd, tair nyrs ac un ffisiotherapydd wedi’u canfod eisoes. Mae Llywodraeth y Cynulliad wrth ei bodd o fod yn gysylltiedig â’r ymgais hon i wneud y defnydd mwyaf o’r sgiliau a’r galluoedd y gall ceiswyr lloches a ffoaduriaid eu cynnig i Gymru, ac mae’n benderfynol o helpu i gael rolau adeiladol a chynhyrchiol i unigolion o’r fath yn fuan er budd y gymdeithas gyfan.
Yr wyf yn falch o allu adrodd am y gwaith da a wneir gan adrannau’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd mewn cysylltiad â cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae’n herio stereoteipiau, camhysbysrwydd a’r hysteria a greir yn rhy aml o lawer ynghylch trafodaeth ar bolisi lloches.
Mae’r Llywodraeth yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy gydol eu taith o fod yn bobl a ddadleolwyd i fod yn aelodau llawn a gwerthfawr o’r gymuned yng Nghymru. Yr wyf yn falch o’r camau a gymerasom ac yn falch o fod yn aelod o Lywodraeth sy’n benderfynol o gydnabod hawliau dynol sylfaenol pawb sy’n byw yng Nghymru, ac o wneud cyfiawnder cymdeithasol yn sylfaen i bopeth y ceisiwn ei gyflawni.