Skip to content

Drais yn y Cartref

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Gymdeithasol as Adfywio

Yn ystod dadl fer Christine Chapman ar 21 Ionawr ar drais yn y cartref, soniais am beth o waith Llywodraeth y Cynulliad yn y maes hwn. O gofio diddordeb yr Aelodau, cymeraf y cyfle hwn i amlinellu'n fanylach yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.
Yr ydym oll wedi clywed ystadegau amrywiol yn ymwneud â thrais yn y cartref. Fodd bynnag, mae'n werth eu hailadrodd er mwyn rhoi'r mater yn ei gyd-destun. Mae trais yn y cartref yn cyfrif am bron hanner yr holl droseddau treisgar a gofnodir yn y DU. Llofruddir dwy fenyw yr wythnos gan bartner neu gyn-bartner a, phob blwyddyn, ar gyfartaledd, caiff 120 o fenywod a 30 o ddynion eu lladd gan bartner neu gyn-bartner. I wneud hyn yn fwy perthnasol i ni, bydd rhai ohonoch wedi clywed mewn adroddiadau newyddion yn ddiweddar i ddyn yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gael ei gyhuddo'n ddiweddar o lofruddio ei wraig y bu'n briod â hi ers llai na blwyddyn. Dim ond yr wythnos diwethaf, carcharwyd dyn o ardal Caerffili am oes am lofruddio ei bartner drwy ei thrywanu 39 o weithiau. Dengys ymchwil ddiweddar bod un o bob pump o ddynion ifanc ac un o bob 10 o fenywod ifanc, hyd yn oed heddiw, yn credu bod trais tuag at bartner yn dderbyniol weithiau. Er bod ymwybyddiaeth gymdeithasol o'r broblem yn cynyddu, mae llawer i'w wneud o hyd.
Mae effaith trais yn y cartref yn bellgyrhaeddol—nid yn unig ar y teulu agosaf a'r teulu ehangach, ffrindiau a chydweithwyr y dioddefwr, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol. Yn aml mae ystod eang o asiantaethau yn ymwneud ag ymdrin â dioddefwyr trais yn y cartref, ac mae cydweithio rhwng asiantaethau felly yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r mater hwn.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwbl ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau i fynd i'r afael â'r broblem hon. Er mai'r Swyddfa Gartref sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyfiawnder troseddol, y Cynulliad sy'n gyfrifol am sawl mater yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol sy'n gysylltiedig â thrais yn y cartref, ac am iechyd a lles dinasyddion Cymru. Fel cam cyntaf, sefydlwyd gweithgor amlasiantaeth eang ei gwmpas ar drais yn y cartref a thrais yn erbyn menywod yng Nghymru ym Mai 2002. Mae'r grwp yn cynnwys aelodau o'r sectorau statudol a gwirfoddol yn ogystal â swyddogion y Cynulliad o'r is-adrannau perthnasol. Cytunodd y grwp bod angen strategaeth trais yn y cartref i Gymru gyfan. Mae hon yn cael ei llunio ar hyn o bryd. Bydd yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan asiantaethau, a bydd yn datblygu ymagweddau amlasiantaeth tuag at weithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref a dod o hyd i ffyrdd o atal digwyddiadau yn y dyfodol.
Caiff trais yn y cartref effaith ddinistriol ar blant hefyd, sy'n dioddef o'i effeithiau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Awgryma ymchwil, mewn 90 y cant o achosion o drais yn y cartref, bod plentyn naill ai yn yr un ystafell neu'r ystafell drws nesaf. Ym mhob ysgol yng Nghymru mae disgyblion sydd wedi cael profiad o drais yn y cartref, neu'n cael profiad ohono ar hyn o bryd. Yr wyf felly'n falch bod llyfryn gwybodaeth i ysgolion yn cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn. Bydd hyn yn adeiladu ar weithdrefnau amddiffyn plant presennol, ac yn cynorthwyo athrawon a staff cymorth i adnabod a deall plant a phobl ifanc sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig.
I gydnabod y flaenoriaeth a roddir i'r mater hwn, mae'r Cynulliad a'r Swyddfa Gartref yn rhyddhau rhagor o arian ar gyfer prosiectau trais yn y cartref. Mae'r Cynulliad wedi cynyddu'r arian ar gyfer 2003-04 i £1.17 miliwn o £450,000 yn 2002-03. Mae tua 11 prosiect ledled Cymru yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd. Yn ogystal, yr wyf yn falch bod cynnydd da yn cael ei wneud o ran darparu llinell gymorth am ddim ar gyfer dioddefwyr trais yn y cartref yng Nghymru, a sefydlwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, sydd wedi cael grant am dair blynedd gan y Cynulliad at y diben hwn. Bydd hyn yn gwbl weithredol erbyn 31 Mawrth 2004, a bydd yn darparu cymorth cyfrinachol, am ddim 12 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, yn Gymraeg a Saesneg.
Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn ddiweddar ar gyfer sawl awdurdod yng Nghymru a Lloegr er mwyn llenwi'r bylchau presennol mewn gwasanaethau trais yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys 11 awdurdod yng Nghymru, a fydd yn derbyn cyfanswm o £720,000 dros dair blynedd, naill ai er mwyn darparu cydlynwyr trais yn y cartref neu brosiectau allgymorth.
Yr wyf yn falch bod asiantaethau y mae'r Cynulliad yn gysylltiedig â hwy yn cyflwyno mentrau eraill. Mae'r grwp rhwydwaith Cymru gyfan, a sefydlwyd yn ddiweddar i adolygu camdriniaeth ddomestig a ddioddefir gan fenywod beichiog, yn enghraifft dda. Mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd o bob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn aelodau o'r grwp hwn, yn ogystal â chynrychiolwyr o Swyddfa Prif Swyddog Nyrsio'r Cynulliad. Mae hwn yn gam rhagorol ymlaen, gan y dengys y ffigurau bod 30 y cant o drais yn y cartref yn dechrau pan fydd menywod yn feichiog. Cymru yw'r unig awdurdodaeth o fewn y DU i fabwysiadu'r fenter hon, a ddeilliodd o'r fenter ryng-lywodraethol, Raising the Standards, yr oedd y Cynulliad yn rhan ohoni. Caiff y gynhadledd Raising the Standards nesaf ei chynnal yng Nghaeredin ar 14 Mehefin. Ei thema fydd effaith trais yn y cartref ar blant. Yr wyf wedi cytuno i fod yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad hwn, a fydd yn gyfle da i rannu syniadau ac arferion gorau â rhannau eraill o'r DU.
Yr wyf hefyd yn aelod o'r grwp rhyng-weinidogol ar drais yn y cartref, a'm nod yw sicrhau y cynhelir cysylltiadau da gydag adrannau Whitehall. Mae'r Mesur Trais yn y Cartref, Dioddefwyr a Throseddau yn rhan hanfodol o'n gwaith ar helpu dioddefwyr trais yn y cartref. Byddaf yn sicrhau bod ein strategaeth trais yn y cartref yn adeiladu ar hyn ac yn ystyried y mesurau yn y Mesur yn llawn. Gobeithiaf fod y datganiad hwn yn amlygu'r pwysigrwydd a roddaf i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.