Skip to content

Setliad Grant Trafnidiaeth 2004-05

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Rwy'n cyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch dyrannu cyllid y Grant Trafnidiaeth i awdurdodau lleol ar gyfer 2004-05 am 10.00am heddiw.

Rwy'n darparu £85 miliwn i hyrwyddo buddsoddiad mewn trafnidiaeth ledled Cymru.  Bydd y setliad hwn yn galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu gwahanol brosiectau amrywiol sy'n helpu i roi polisi trafnidiaeth integredig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar waith.  Mae'r pecyn yn gweithredu rhaglen pum mlynedd y Grant Trafnidiaeth a bydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi buddsoddiad gwerth £300 miliwn mewn trafnidiaeth leol erbyn 2006. 

Mae'r setliad yn cynnwys oddeutu £34 miliwn i wella'r rhwydwaith ffyrdd lleol ynghyd â £36 miliwn yn ychwanegol i gefnogi trafnidiaeth integredig wahanol fel cyfnewidiadau rhwng bysiau a threnau.  Bydd £8 miliwn yn ychwanegol yn helpu i ddatblygu'r rhwydwaith trenau a cheir £8 miliwn yn ychwanegol i hyrwyddo cerdded a beicio gan gynnwys Llwybrau Diogel i'r Ysgol.

Amgaeir copi o'r Datganiad i'r Wasg er gwybodaeth.