Skip to content

Yr Adolygiad Trafnidiaeth - Canlyniadau

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Andrew Davies, Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Byddaf yn cyhoeddi canlyniad fy adolygiad o bolisïau trafnidiaeth am 9.30am heddiw.

Yr wyf wedi cynnal adolygiad o'r rhaglenni trafnidiaeth presennol er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rhaglenni a gweledigaeth 'Cymru: Gwlad Well' a'r Cynllun Gofodol.  Rwyf eisoes wedi cyflwyno adroddiad ar gynnydd i'r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ac i'r sesiwn llawn yn gynharach eleni.  Yr wyf nawr yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad yn dilyn mabwysiadu'r gyllideb derfynol.

Mae'r adolygiad wedi rhoi ystyriaeth i nifer o astudiaethau ac adroddiadau a gynhaliwyd i gynlluniau unigol yn y gorffennol, gwaith pellach a wnaed ers cyhoeddi'r Fframwaith Trafnidiaeth ynghyd â'r gwaith a wnaed wrth ddatblygu'r Cynllun Gofodol.  Mae'r adolygiad yn cadarhnau bod ein cynlluniau yn dechrau cyflawni ein agenda ar gyfer trafnidiaeth integredig. Gwelwyd cynnydd da mewn nifer o feysydd, yn enwedig lle mae gennym reolaeth uniongyrchol, ond ar y cyfan nid yw'r cynnydd wedi digwydd yn ddigon cyflym i wireddu ein gweledigaeth.  Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn wynebu her aruthrol, o gofio'r cynnydd diddiwedd yn y galw i deithio, ac yn enwedig y cynnydd mewn traffig. Mae llwyddiant ein polisiau economaidd a'r cynnydd mawr yn nifer swyddi yn golygu y bydd y galw hwn i deithio yn sicr o barhau yn y dyfodol agos
Yng ngoleuni hyn, bwriad fy nghynlluniau yw cynyddu cyfradd y newid.  Mae angen inni leihau nifer y teithiau i'r gwaith a wneir mewn ceir, drwy gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, leihau nifer y ceir gydag un teithiwr ynddynt a thrwy'r rhaglen band eang, gynyddu'r niferoedd sy'n gweithio o gartref.  Nod ein cynlluniau yn y rhaglen ffyrdd yw lleihau tagfeydd (a gollyngiadau o ganlyniad), ynghyd â gwella ansawdd yr amgylchedd lleol.

Pwerau Statudol

Y cam cyntaf yw sichrau bod gennym y pwerau sydd eu hangen i wneud y gwaith.  Bydd y Mesur Trafnidiaeth (Cymru) a'r Mesur Rheilffyrdd, sydd wedi'u cynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, yn rhoi pwerau cydlynol i'r Cynullad am y tro cyntaf.  Bydd Mesur Trafnidiaeth (Cymru) yn cryfhau ein pwerau i gynllunio a gweithredu polisïau trafnidiaeth.  Bydd y Mesur Rheilffyrdd yn rhoi rheolaeth uniongyrchol i Lywodraeth y Cynulliad dros wasanaethau trên lleol a rhanbarthol.

Strategaeth Trafnidiaeth Cymru

Bydd Mesur Trafnidiaeth (Cymru) yn gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu a gweithredu polisïau trafnidiaeth integredig ac i gyhoeddi'r polisïau hynny mewn Strategaeth Trafnidiaeth.  Bydd y strategaeth hon, fydd yn adeiladu ar y Fframwaith Trafnidiaeth a gyhoeddwyd yn 2001, yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth fydd yn taro cydbwysedd rhwng ein hamcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.   Bydd y strategaeth yn adlewyrchu'r Cynllun Gofodol, sy'n cydnabod bod gan drafnidiaeth rôl allwedddol i'w chwarae i wireddu ein gweledigaeth o hygyrchedd cynaliadwy.

Caiff y strategaeth ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â'n partneriaid o lywodraeth lleol.  Y strategaeth fydd yn gosod y cynsail ar gyfer datblygu a gweithredu cynlluniau trafnidiaeth y pedwar consortia trafnidiaeth rhanbarthol. Byddwn yn anelu at gynhyrchu'r strategaeth ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori erbyn canol 2005, fel y bydd y fersiwn derfynol yn barod er mwyn paratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol y consortia yn ystod 2006.  

Canlyniadau'r Adolygiad Trafnidiaeth

Mae'r adolygiad wedi canolbwyntio ar ein cynlluniau a'n rhaglenni presennol.  Mae wedi dynodi'r penderfyniadau yn bydd angen eu gwneud nawr er mwyn cynnal momentwn a chyfradd ein cynnydd.  

Y Rheilffyrdd – Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau trenau yng Nghymru.  Rydym wedi cytuno i roi cefnogaeth ariannol i Arriva Trains Wales i'w galluogi i brydlesu cerbydau ychwanegol ar Lein y Cymoedd, a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu trenau hirach yn ystod yr oriau brig. Bydd y cerbydau ychwanegol ar gael yn ystod 2005, ac ynghyd â'r amserlen safonol newydd a gaiff ei chyflwyno ym mis Rhagfyr 2005, byddant yn cyfrannu at wireddu cam cyntaf y rhaglen i gynyddu capasti'r lein ddwywaith, ac mewn rhai mannau, gymaint â phedair gwaith.  Yn ogystal, bydd trenau i deithwyr yn rhedeg ar Lein Bro Morgannwg yn ystod Gwanwyn 2005 a bydd gwasanaethau yn dechrau ar lein Glyn Ebwy yn ystod 2006-07.  Canlyniad hyn oll fydd creu rhwydwaith rheilffyrdd ddinesig fydd yn gwasanaethu De Cymru ar ei hyd.

O ran gwasanaethau pellter hir, mae cwblhau'r gwaith o uwchraddio Prif Lein Arfordir y Gorllewin (West Coast Main Line) wedi arwain at wella'r gwasanaeth trenau o ogledd Cymru ers diwedd mis Medi trwy gyflwyno pump trên y dydd i'r ddau gyfeiriad o Gaergybi i Euston.  O fis Rhagfyr, bydd First Great Western yn cyflwyno gwelliannau i'r gwasanaeth o Dde Cymru.  Bydd rhyddfraint newydd Great Western, a gaiff ei dendro'r flwyddyn nesaf, yn cynnig cyfle pellach i wella'r gwasanaeth.

Bysiau a Choetsus – Bydd Llywodaeth y Cynulliad yn parhau i roi'r un lefel o gymorth ariannol i wasanaethau bws sy'n derbyn cymhorthdal.  Byddwn yn gweithio gyda'r awdurodau lleol i sichrau bod y cymorth hwn yn sichrau gwerth am arian.  Byddwn yn parhau â'n rhaglen hynod lwyddiannus o gynnig teithio am ddim, ac yn llunio cynllun ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed.  Yn olaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gyflwyno gwasanaethau bws pellter hir, fydd yn ategu ac yn cysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd.

Cludiant Cymunedol  – Yn yr un modd, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i roi'r un lefel o gefnogaeth ariannol i gludiant cymunedol, yn ogystal â chefnogi mentrau newydd.   Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cynnig teithio am ddim ar gludiant cymunedol.

Cefnffyrdd –  Yn gynharach eleni, cyhoeddais y trefniadau newydd ar gyfer yr asiantaethau cefnffyrdd, sydd wedi'u seilio ar dair ardal.   Bydd y cyntaf o'r rhain yn disodli'r hen asiantaeth ym mis Ebrill 2005.  Byddwn yn sicrhau ei bod yn amlwg mai Llywodraeth y Cynulliad sy'n darparu'r rhwydwaith a'r gwasanaeth trafnidiaeth allweddol hwn.  Consortia Castell-Nedd Port Talbot yw'r cynigwr dewisol ar gyfer Asiantaeth Ffyrdd De Cymru.

Y broblem pennaf sy'n wynebu'r blaen-raglen cefnffyrdd yw'r angen am gapasiti ychwanegol ac am rwydwaith gwytnach ar goridor yr M4 yn Ne Ddwyrain Cymru.  Bydd hyn yn allweddol os ydym am wireddu ein nod o greu gwlad gyfoethocach ac os ydym am gynyddu cyfoeth yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Yn sgil hyn, rwyf wedi penderfynu datblygu cynlluniau ar gyfer adeiladu rhan newydd i'r M4 rhwng Magwyr a Castleton.  Y bwriad yw cychwyn ar y gwaith o fewn y pum mlynedd nesaf, yn dibynnu ar gwblhau'r prosesau statudol arferol.   Byddwn yn datblygu cynllun fydd yn cael yr effaith hir-dymor lleiaf ar yr amgylchedd, ac a fydd yn gyson â'n hamcanion economiadd a chymdeithasol.  Yn benodol, bydd yn holl-bwysig ein bod yn dysgu oddi wrth wersi'r gorffennol ac yn sicrhau y caiff manteision unrhyw ddatblygiad newydd eu gwarchod ar gyfer y dyfodol, ac na fyddant yn lleihau dros amser, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol (megis effaith yr M25).

Rwyf o'r farn mai'r ffordd orau o sicrhau hyn yw drwy godi tâl uniongyrchol ar ddefnyddwyr y gwasanaeth safon uchel hwn a gaiff ei ddarparu gan yr M4 newydd o amgylch Casnewydd.  Bydd y ffordd bresennol yn parhau'n ffordd ddi-dâl.  Er mwyn annog pobl i rannu eu ceir ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd rhan o'r ffordd newydd yn cael ei chlustnodi ar gyfer bysiau, coetsys etc, a cherbydau sy'n dal mwy nag un teithiwr.  Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn cyfleusterau parcio a theithio ac yn cyflwyno gwelliannau ychwanegol i'r rhwydwaith rheilffyrdd lleol.   Caiff y rhan newydd hwn o'r M4 newydd eu ariannu gan y taliadau a godir.

O ran y cynlluniau eraill ar gyfer y cefnffyrdd:

 Byddwn yn gwella'r A40 i'r gorllewin o San Clêr i safon ffordd sengl, ac yn adeiladu ffyrdd osgoi ar gyfer Robeston Wathen a Llandewi Velfrey .

 Byddwn yn gosod y contract ar gyfer lledaenu'r M4 i'r gogledd o Gaerdydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, ynghyd â'r contract ar gyfer gwella capasiti coridor yr A494/A550/A55 yn y gogledd.

 Byddwn yn cwblau'r gwaith o wneud yr A465 rhwng y Fenni a Dowlais Top yn ffordd ddeuol ymhen y deng mlynedd nesaf, ac rwyf wedi symud y rhannau olaf o Ddowlais Top i Hirwaun i ran 3 y rhaglen.

 Byddwn yn gwella cysylltiadau â Maes Awyr Caerdydd.  Byddwn yn gwneud y ffordd rhwng Croes Cwrlwys â'r Maes Awyr ar hyd yr A4226 yn gefnffordd ac yn gwella'r ffordd. Byddwn hefyd yn archwilio opsiynau fyddai'n golygu y byddai traffig y maes awyr yn osgoi Croes Cwrlwys, ac yn ystyried, yn y tymor hir, adeiladu ffordd newydd o gyffordd 34 yr M4 yn ogystal â darparu cyfleusterau parcio a theithio a chyfnewidfa teithio.

 Byddwn yn bwrw ymlaen â rhaglen o welliannau fydd yn gwella diogelwch, hygyrchedd ac yn gwarchod yr amgylchedd a gaiff ei chyflawni law yn llaw â'r uchod.

Y Rhwydwaith Ffyrdd Lleol a'r  Grant Trafnidiaeth – Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dyrannu dros £105 miliwn i awdurdodau lleol yn 2005-06 ar gyfer gwella'r seilwaith trafnidiaeth lleol ac i hybu dulliau teithio mwy cynaliadwy.  Mae hyn yn cynnwys dros £65 miliwn ar gyfer gwella'r rhwydwaith ffyrdd lleol, ac yn parhau â'r cymorth i ffordd ddosbarthu ymylol Port Talbot ac i'r gwelliant ar yr A467 rhwng Abererch a Llanymstumdwy yng Ngwynedd.  Yn ystod 2005-06, bydd gwaith yn dechrau ar ffordd liniaru Porth/Rhondda Fach isaf ac ar Ffordd Gyswllt Ceredigion o Gaerfyrddin i Synod Inn, gan gynnwys adeiladu ffordd osgoi Llandysul.

Mae setliad y Grant Trafnidiaeth hefyd yn cynnwys £23 miliwn ar gyfer ystod eang o gynlluniau trafnidiaeth integredig, megis cyfnewidfeydd bws/trên, £8 miliwn tuag at ddatblygu'r rhwydwaith rheilffyrdd a £7 miliwn i hybu cerdded a seiclo gan gynnwys cynlluniau Llwybrau Diogel i'r Ysgol.

Gwasanaethau Awyr– Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod bod gan feysydd awyr a gwasanaethau awyr ran allweddol i'w chwarae wrth ddatblygu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy.  Rydym wedi dechrau ar y gwaith o ymchwilio i'r posibilirwydd o ddatblygu Cronfa Ddatblygu Llwybrau fydd yn rhoi cymorth i wasanaethau rheolaidd newydd, yn enwedig i gysylltiadau rhyngwladol o Faes Awyr Caerdydd.

Yn ogystal, rwyf yn awyddus i ymchwilo potensial datblygu gwasanaethau awyr o fewn Cymru.  Rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen mewn egwyddor, â gwasanaeth o Abertawe i Gaerdydd i RAF Fali ar Ynys Môn.  Bydd y gwasanaeth hwn yn wasanaeth dwbl dyddiol a fydd yn galluogi teithiau i'r ddau gyfeiriad ac yn ôl mewn un diwrnod.  Bydd y gwasanaeth yn helpu i bontio'r gagendor honedig rhwng y De a'r Gogledd, ac yn arbed amser sylweddol i deithwyr.  Bydd manteision eraill o ran gwella cysylltiadau busnes a gwella cyfleoedd ar gyfer mewn-fuddsoddwyr a thwristiaid.  Gallai'r gwasanaeth ddechrau erbyn 2006 yn unol â derbyn .