Skip to content

Y Mesur Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson AC, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mae'n dda gennyf roi gwybod bod y Mesur Addysg Uwch wedi'i gyflwyno i'r Senedd heddiw.

Y Mesur Addysg Uwch, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, yw cam cyntaf y broses o ddatganoli'r gyfundrefn cymorth i fyfyrwyr a ffioedd dysgu i'r Cynulliad.

Bydd y Mesur yn trosglwyddo swyddogaethau penodol o'r Adran Addysg a Sgiliau i'r Cynulliad a bydd y rhain yn caniatáu i'r Cynulliad ystyried system addysg uwch Cymru yn ei chyfanrwydd.  Felly, bydd gennym reolaeth lwyr dros y mesurau sy'n angenrheidiol i ddatblygu ein strategaeth i feithrin gallu Cymru ym maes dysgu ac ymchwil.  Rydym eisoes wedi cymryd camau pwysig yn y cyswllt hwn, a gall y pwerau a drosglwyddir ein helpu i fwrw ymlaen â'r gwaith.

Yn fras, bydd y Mesur yn caniatáu i ni bennu ein cyfundrefn cymorth i fyfyrwyr a ffioedd dysgu ein hunain.  Bydd yn caniatáu i ni wireddu ymrwymiad ein maniffesto i beidio â chyflwyno ffioedd amrywiol yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn.  Bydd yn ein galluogi i gefnogi'r gwaith da y mae'r sefydliadau addysg uwch wedi ei wneud i ehangu mynediad at addysg uwch.  Bydd hefyd yn caniatáu i ni gefnogi gweithgareddau eraill, megis ymchwil a datblygu a thwf yn y trydydd sector.

Wrth gyflwyno’r Mesur Addysg Uwch, rwy’n falch bod Charles Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau, mewn gwirionedd wedi nodi y caiff Grant Dysgu’r Cynulliad ei gyflwyno yn Lloegr. Wrth gyhoeddi cynnydd yn y Grant Addysg Uwch o £1000 i £1500 o 2006 ymlaen, ac wrth roi’r gorau i’r syniad o daliadau ymlaen llaw, mae Llywodraeth y DU wedi ystyried argymhellion allweddol ymchwiliad yr Athro Teresa Rees i galedi myfyrwyr yng Nghymru ac wedi cydnabod llwyddiant Grant Dysgu’r Cynulliad.

Bydd y Mesur hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni adolygu'r polisi cymorth i fyfyrwyr a ffioedd dysgu. Pan fydd y Mesur wedi cael Cydsyniad Brenhinol, bydd yr Athro Teresa Rees yn ystyried yr holl bwerau sydd wedi'u datganoli ac yn awgrymu sut y gallant ateb gofynion y sector yng Nghymru orau.

Mae'r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n annog gwaith ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau, yn atgyfnerthu ac yn egluro'r gweithdrefnau ar gyfer cwynion myfyrwyr, ac yn lleihau biwrocratiaeth.

Yn fras, dyma'r darpariaethau o dan sylw:

  • creu Cyngor Ymchwil ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau a fydd yn gweithredu ledled y DU yn yr un modd â'r cynghorau ymchwil eraill;
  • creu Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, sef sylfaen statudol i'r dyfarnwr annibynnol gwirfoddol ar gwynion myfyrwyr, gan gyfyngu ar allu'r ymwelydd i benderfynu yn y maes hwn;
  • rhannu gwybodaeth, yn electronig ac ar bapur, â chyrff llywodraethol eraill a sefydliadau allanol, gyda chaniatâd y person y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo, a hynny er mwyn symleiddio'r trefniadau cymorth i fyfyrwyr a threfniadau cyrff Llywodraethol a chyrff Addysg Uwch eraill.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ymfalchïo yn yr hyn sy'n ymddangos yn y Mesur.  Gwireddwyd hyn drwy drefniadau gwaith agos a ffrwythlon rhwng y Cynulliad, Swyddfa Cymru a'r Adran Addysg a Sgiliau.  Mae'r Mesur, a'r ffordd y'i lluniwyd, yn dangos bod datganoli yn gweithio, a bydd yn ein helpu i greu system cymorth i fyfyrwyr sy’n wahanol ac yn ateb gofynion Cymru.

Bydd copïau caled o'r Mesur, ynghyd â'r Nodiadau Esboniadol, ar gael drwy Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau pan fyddant wedi dod i law.


Mae testun y Mesur Addysg Uwch i'w weld yn ei gyfanrwydd yn:

http://www.publications.parliament.uk/pa/pabills.htm