Skip to content

Intra-Wales scheduled air services

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Yr wyf yn lansio ymgynghoriad ar wasanaethau awyr oddi mewn i Gymru am 10am heddiw.

Dyma’r tro cyntaf i’r syniad o ddatblygu gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru gael ei ystyried mewn ffordd systematig.  Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi nifer o opsiynau rhwydwaith ynghyd a’r busoddiad y byddai ei angen i ddatblygu’r gwasanaethau awyr a’r meysydd awyr hyd at safon addas.  Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth i effeithiau economaidd ac amgylcheddol datblygu’r gwasanaethau.


Bydd y cyfnod ymgynghori yn para hyd at ddiwedd Ebrill.  Byddaf yn cyflwyno papur i Bwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad ar 17 Mawrth a chaiff y papur hefyd ei drafod yn y cyfarfod llawn.

Amgaeaf gopi o’r datganiad i’r wasg er gwybodaeth.  Mae’r ddogfen ymgynghori i’w chanfod ar dudalennau trafnidiaeth gwefan y Cynulliad.  Caiff copi papur ei anfon at holl aelodau’r Cynulliad.