Skip to content

Datganiad ar Ganolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Mae llawer wedi digwydd ers i’r Cynulliad bleidleisio ar 22 Ionawr 2002 o 47 i ddau i ganiatáu adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru. Fel Aelodau o’r Cynulliad, yr ydym oll wedi gwylio’r adeilad anferth yn ymffurfio ar ochr arall y stryd, ac edrychwn ymlaen at benwythnos yr agoriad swyddogol pan fydd y ganolfan yn agor ei drysau ar ddydd Gwener 26 Tachwedd. Cwblhawyd y gwaith ar yr adeilad ar 15 Hydref, a, bedwar diwrnod cyn hynny, ar 11 Hydref, cymerodd cwmni CMC feddiant o’r adeilad i roi prawf ar acwsteg y brif neuadd, Theatr Donald Gordon. Yr oedd y prawf yn cynnwys perfformiad byw gerbron cynulleidfa lawn. Yr oedd y prawf yn garreg filltir hollbwysig, gan fod acwsteg yn gallu newid yn sylweddol pan geir ty llawn. Gwneuthum i fwynhau sain y perfformiad, yn sicr, ond gwn fod acwsteg yn fater goddrychol iawn. Mae’r technegwyr sain a fesurodd y neuadd o dan amodau’r prawf hwn wedi gallu cadarnhau ar sail darlleniadau eu hoffer electronig ei bod yn dda iawn. Yr wyf yn deall, o gael ychydig o fanwl gyweirio, y bydd yn well byth ar y noson agoriadol.

Mae cwmni CMC yn gorfod cyflawni cryn waith rhwng 15 Hydref a 26 Tachwedd. Yn benodol, mae’r gwaith o osod y mannau arlwyo ac adwerthu’n mynd rhagddo’n dda. Bydd Aelodau wedi gweld y cyhoeddusrwydd am hynny eisoes. Bydd y brif ystafell arlwyo, y Tiger Bay Jazz Cafe, yn cael ei rhedeg gan gwmni o’r enw Brazz, a bydd cyfleoedd eraill ar gyfer adwerthu ac arlwyo hefyd.

Bydd y noson agoriadol yn eiddo i bobl Cymru. Bydd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa wedi cael eu tocynnau am ddim drwy broses o dynnu tocynnau’n gyhoeddus a drefnwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Sicrheir drwy hynny y bydd y broses yn un deg a thryloyw. Daeth y broses i ben ar 1 Tachwedd, a gallaf ddweud wrth y Cynulliad fod tua 8,000 o geisiadau am barau o docynnau wedi dod i law. Ar y dydd Sadwrn, cynhelir cyngerdd o emynau ac unawdau yn yr awyr agored, gyda thua 4,000 o leisiau o 70 o gorau, ac arddangosfa tân gwyllt fawr ar ôl hynny. Daw’r penwythnos i ben ar y dydd Sul gydag ail gyngerdd mawr—perfformiad mawreddog brenhinol.


Wrth gwrs, bydd y paratoi ar gyfer yr agoriad yn parhau tan y funud olaf. Mae hynny i’w ddisgwyl yn achos prosiect eiconig mawr fel hwn. Mae CMC wedi gwneud cynnydd mewn sawl maes. Bu’n hollbwysig, er enghraifft, sicrhau bod digon o gludiant cyhoeddus a mannau parcio ceir ar gael, ar gyfer y penwythnos agoriadol a wedi hynny. Gwyr Aelodau na ddechreuwyd eto ar y gwaith ar faes parcio aml-lawr pwrpasol ac na fydd ar gael am gryn amser, ond mae trefniadau parcio dros dro manwl wedi’u gwneud. Ar gyfer y penwythnos agoriadol, mae CMC wedi cydweithio’n agos â thîm digwyddiadau sirol Caerdydd, sy’n dra phrofiadol, a chyda’r heddlu i sicrhau y bydd y miloedd a ddisgwylir yn mwynhau’r penwythnos. Yn wir, rhaid imi ddiolch i Gyngor Sir Caerdydd am ei gefnogaeth a’i gymorth ymarferol wrth gyflawni hyn oll.


Mae’r adeilad—ac mae hyn yn gryn gyflawniad—wedi’i gwblhau’n brydlon ac yn unol â’r gyllideb. Cefais gynllun busnes terfynol y cwmni’n ddiweddar, ac yr wyf yn falch o adrodd bod hwnnw’n dangos iddo fod yn rhedeg yn fantoledig dros y tair blynedd cyntaf. Mae’r diffyg o ran codi arian cyfalaf yn llai na £2 filiwn bellach, ac mae’r cwmni’n benderfynol o gau’r bwlch hwnnw’n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Er gwaethaf hynny, mae amseriad y llif arian yn mynnu sylw o hyd, yn bennaf o ganlyniad i amseriad y lwfansau cyfalaf. Bydd Aelodau’n cofio imi’ch hysbysu, y llynedd, am drafodiad hysbysadwy o dan Reol Sefydlog Rhif 21.16, sy’n cynnwys trafodiad sy’n ddarostyngedig i Reol Sefydlog Rhif 21.19, sef gwarant o fenthyciad i Ganolfan Mileniwm Cymru Cyf. Rhoddwyd y benthyciad hwn, ar gyfer y diffyg yn y llif arian gan HSBC ac, ar y pryd, gosodais derfyn cyfnod y benthyciad ar ddiwedd Tachwedd 2004. Heddiw, cyhoeddaf fy mwriad i ymestyn cyfnod gwarant y benthyciad am chwe mis pellach hyd ddiwedd Mai 2005. Ni fwriadaf gynyddu maint y warant, dim ond yr amserlen ar ei chyfer.
.
Mae cwmni CMC a’r cyrff preswyl oll yn brysur yn llenwi’r ganolfan, ac mae’r gwaith paratoi’n mynd rhagddo’n dda ar gyfer gwyl yr Urdd, a gynhelir yn y ganolfan a’i chyffiniau ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf. Yr wyf yn siwr fy mod yn siarad ar ran y Cynulliad cyfan pan ddywedaf fy mod yn edrych ymlaen at weld trawsnewid y basn hirgrwn a Chanolfan Mileniwm Cymru yn faes i’r Urdd.


Ni allaf warantu tywydd perffaith ym mis Tachwedd ar gyfer y penwythnos agoriadol ymhen pythefnos, ond gallaf warantu perfformiadau o’r radd flaenaf mewn canolfan o’r radd flaenaf y pleidleisiodd pob plaid wleidyddol yn ein Cynulliad Cenedlaethol o blaid ei chreu.