Skip to content

Rheolau Caffael

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex , Y Gweinidog Dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'n dda gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi'r gorau y mis hwn i'r arfer o beidio â dyfarnu contractau i ddarpar gyflenwyr os yw'r contractau hynny yn gyfwerth â 40% neu ragor o'u holl fusnes.   Mae'n dal i fod yn bwysig sicrhau nad yw cyflenwyr yn dibynnu'n ormodol ar ein busnes ni, er eu lles nhw eu hunain; fodd bynnag, rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw'r rheol 40% gyfredol yn briodol ar gyfer sefyllfa pob cyflenwr ac mewn rhai achosion gall eu rhwystro'n ddiangen rhag ceisio am yr holl wahanol gontractau.

Er mwyn cyflwyno dull mwy hyblyg sy'n cyd-fynd â'r arferion gorau diweddaraf o ran caffael yn y sector cyhoeddus, gofynnir i ddarpar gyflenwyr warantu iddynt eu hunain na fyddent yn dibynnu'n ormodol ar ein busnes pe baent yn llwyddo, a rhoi cadarnhad i'r perwyl hwnnw i Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Penderfynir ar ba lefel y bydd yn ofynnol rhoi gwarant o'r fath fesul contract gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar risg a fydd yn ystyried maint y contract a natur y gwaith.

Rhoddir datganiad sy'n tynnu sylw at y newid hwn ar wefan caffael y sector cyhoeddus, “xchangewales”, ac ar wefan y Cynulliad, “gafaelargaffael”.  Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn ysgrifennu at yr holl Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad i roi gwybod iddynt am y newid hwn.