Skip to content

Materion yn ymwneud â Chytundeb Awdurdod Harbwr Caerdydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Ym mis Mawrth 2000, gwnaed cytundeb rhwng Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gynt ('CDBC') a Chyngor Caerdydd ('y Cyngor') ynghylch rheoli a gweithredu'r Morglawdd, yr harbwr allanol a'r llyn mewndirol ym Mae Caerdydd ('yr ymgymeriad').

Roedd y cytundeb, a wnaed yn unol ag adran 165 Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, yn cynnwys darpariaethau i adolygu'r trefniadau a nodir ynddo ar ôl cyfnod cychwynnol o 5 mlynedd a'u diwygio lle bo'n ofynnol.  Roedd y darpariaethau hefyd yn galluogi'r naill barti neu'r llall i alw am derfynu'r cytundeb ac, os byddai hynny'n digwydd, i drosglwyddo'r ymgymeriad yn ôl i CDBC neu i'w drosglwyddo i drydydd parti yn ôl disgresiwn CDBC.  Cymeradwyodd y Cynulliad y cytundeb hwnnw, fel yr oedd yn ofynnol yn ôl Deddf 1980.  Daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ('CCC') yn gyfrifol am hawliau a rhwymedigaethau'r CDBC o dan y cytundeb.

Wrth baratoi ar gyfer yr adolygiad, aeth Llywodraeth y Cynulliad ati i nodi pa gyrff a allai dderbyn yr ymgymeriad pe bai'r cytundeb yn cael ei derfynu.  Yn y cyd-destun hwnnw, ceisiwyd barn gyfreithiol annibynnol a chodwyd cwestiynau o ran a allai'r ymgymeriad gael ei drosglwyddo i drydydd parti, ac os na, beth fyddai'r goblygiadau i weddill y cytundeb.

Er eglurhad, mae'n rhaid gofyn am gymorth y Llys ac mae nifer o benawdau cymorth amgen yn cael eu ceisio - gan gynnwys datganiad yn dweud bod yr holl gytundeb yn ddilys, neu ddatganiad yn dweud bod modd dileu rhywfaint o'r cymal trosglwyddo neu'r cymal cyfan a gadael gweddill y cytundeb fel ag y mae.  Ar ôl cael caniatâd y Cyngor a'r WDA*, penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad wneud cais i'r Uchel-lys ac mae'r cais yn cael ei gyflwyno heddiw.  Er mai CCC fydd yr hawlydd ac mai'r Cyngor a'r WDA fydd y diffynyddion, ffurfioldeb yn unig yw'r gwahaniaeth rhyngddynt yn yr achos hwn ac mae'r broses yn mynd rhagddi ar sail partneriaeth gwbl gyfeillgar gyda'r Cyngor a'r WDA.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad, y Cyngor a'r WDA am ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.  Yn ystod yr achos, bydd busnes yn mynd yn ei flaen fel arfer, ond nid yw unrhyw un o'r partïon am roi sylwadau manwl ar y materion tra bydd yr achos yn parhau.  Serch hynny ac fel y bo'n briodol, byddaf yn rhoi gwybod i'r Cynulliad a/neu'r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'r Pwyllgor Archwilio am unrhyw ddatblygiadau pwysig.  

Nid oes unrhyw faterion tebyg yn ymwneud â'r pedwar cytundeb arall a wnaed rhwng CDBC a Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, y WDA a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, cyn i CDBC ddirwyn i ben.

*   Mae'r WDA yn rhan o'r broses oherwydd gall fod angen iddynt helpu i ddatrys y broblem, ers dod yn gorff gweddilliol ar gyfer hawliau eiddo a rhwymedigaethau CDBC.