Skip to content

Y Mesur Plant- Darpariaethau Ar Gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y Mesur Plant ar 4 Mawrth 2004. Nodwyd ein bwriadau o ran y Mesur yn fras yn y ddogfen Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau, a anfonwyd at bob aelod. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybod i’r aelodau am y cynigion manwl ar gyfer Cymru.

Mae’r Mesur yn cynnig y dylid estyn y setliad datganoli drwy drosglwyddo swyddogaethau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yng Nghymru i Lywodraeth y Cynulliad. CAFCASS sy’n gofalu am fuddiannau plant sy’n rhan o achosion teuluol. Mae’n rhoi cyngor i’r llysoedd teulu ynghylch yr hyn yr ystyria sydd er budd y plant. Gall achosion teuluol gynnwys materion yn ymwneud â chyfraith breifat megis ysgariad a materion yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus megis achosion mabwysiadu a gofal. Yn rhan o’r Cynulliad, bydd staff CAFCASS yng Nghymru yn ganolog i’r agenda gwasanaethau plant. Bydd datganoli’r gwasanaeth yn cynnwys bron i 200 o staff ledled Cymru sy’n gwneud gwaith holl bwysig dros blant.
Rydym hefyd wedi manteisio ar y Mesur i fwrw ymlaen â’n hagenda cynllunio mewn partneriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd yn ei gwneud yn ddyletswydd ar y partneriaid statudol i gydweithio er lles plant. Byddwn yn defnyddio canllawiau i roi sylfaen statudol i Bartneriaethau’r Fframwaith Plant a Phobl Ifanc a’u his-grwpiau, y Partneriaethau Plant. Bydd hynny’n fodd o gysoni eu perthynas â’r Partneriaethau Pobl Ifanc, y mae iddynt eisoes sylfaen statudol o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Bydd modd i bartneriaid lleol gyfuno eu cyllidebau ar gyfer plant lle bo hynny’n synhwyrol.

Bydd yn rhaid i’r awdurdodau lleol enwi cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer plant a phobl ifanc a fydd yn gyfrifol am gynllunio o dan y Fframwaith. Bydd hynny’n hybu proffil a ffocws materion plant a phobl ifanc. Bydd aelod etholedig arweiniol ar gyfer plant a phobl ifanc yn atgyfnerthu rôl y cyfarwyddwr. Yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, ni fydd y swyddi hynny’n newid atebolrwydd dros ddarparu gwasanaethau. Y diben fydd goruchwylio’r broses o gynllunio mewn partneriaeth. Yng Nghymru, gofynnir i’r byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG hefyd nodi cyfarwyddwyr arweiniol gweithredol ac anweithredol i blant a phobl ifanc.

Ni fydd yn rhaid wrth ymddiriedolaethau plant yng Nghymru a phenderfynir yn lleol pwy fydd y cyfarwyddwyr a’r aelodau arweiniol. Er hynny, bydd nodi uwch swyddog a fydd yn gyfrifol am broses gynllunio’r Fframwaith yn fodd o roi proffil uchel i faterion plant a phobl ifanc.

Byddwn yn trafod â’r awdurdodau lleol y ffyrdd mwyaf priodol o roi’r gofynion hyn ar waith, gan roi ystyriaeth i wahanol strwythurau a threfniadau rheoli gwleidyddol yr awdurdodau.

Mae’n bwysig bod yr awdurdodau lleol eu hunain yn cydweithio, yn ogystal â’r cydweithio sy’n digwydd yn eu hardaloedd. O dan Ddeddf Plant 1989 mae’n rhaid i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill helpu awdurdod lleol i arfer ei swyddogaethau. Bwriadaf annog yr awdurdodau i gydweithio o ran eu dyletswyddau i ddarparu lleoliadau i blant sy’n derbyn gofal, lle nad oes modd cynnig cyfleusterau arbenigol o fewn ffiniau pob awdurdod.

Mae’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yn gwneud gwaith holl bwysig ond nid ydynt yr un mor effeithiol ym mhob ardal, a gall rhai partneriaid ystyried bod blaenoriaeth gymharol isel iddynt. Mae’r Mesur yn cynnwys camau ar gyfer Cymru a Lloegr i wella gwaith y pwyllgorau drwy roi sylfaen statudol iddynt yn “fyrddau diogelu plant lleol”, yn unol ag argymhellion yr Arglwydd Laming.

Bydd y Cynulliad hefyd yn cymryd pwerau yn y Mesur i wneud rheoliadau’n ymwneud â sefydlu cronfeydd data i rannu gwybodaeth am blant sydd mewn perygl. Fel gydag agweddau eraill ar y Mesur, byddwn am drafod yr agweddau ymarferol a dod o hyd i arian cyn rhoi hyn oll ar waith.

Rwyf am sicrhau bod newidiadau ac arferion da ar waith ledled Cymru i amddiffyn plant ym mhob amgylchiad ac rwyf wedi penodi Gwenda Thomas AC i arwain adolygiad o’r hyn a wnaed i ddiogelu plant sy’n agored i niwed. Bydd yr adolygiad yn edrych ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ar lawr gwlad er mwyn gweld a ddysgwyd gwersi ac a roddwyd canllawiau arfer da ar waith. Bydd yn argymell camau y dylid eu cymryd. Bydd tîm yr adolygiad yn siarad â darparwyr gwasanaethau, y Comisiynydd Plant ac â phlant a phobl ifanc wrth gasglu tystiolaeth, a bydd yn cyflwyno’i adroddiad ymhen tua blwyddyn.

Rhaid i gynlluniau gofal plant gynnwys manylion am eu hanghenion addysgol a’r ffordd y caiff yr anghenion hynny eu bodloni. Rhaid i’r awdurdod lleol helpu’r rheini a fydd yn derbyn gofal hyd nes eu bod yn ddigon hen i adael yr ysgol i barhau â’u haddysg neu wneud cwrs hyfforddi. Bydd y Mesur yn ei gwneud yn ddyletswydd newydd ar yr awdurdodau lleol i hybu addysg plant sy’n derbyn gofal.

Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth i Gymru a Lloegr gryfhau’r trefniadau ar gyfer hysbysu awdurdodau lleol am faethu preifat. Er mor annhebygol yw hynny, pe na bai’r weithdrefn hysbysu ar ei newydd wedd yn gweithio’n dda, byddai darpariaeth ar gyfer cynllun cofrestru heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth, a bwrw ei fod yn cae; ei roi ar waith o fewn cyfnod rhesymol.

Rydym yn awyddus i allu gweithredu’n effeithiol lle bo awdurdod yn methu o ran ei swyddogaethau gwasanaethau plant. Bwriadwn wneud darpariaeth yn y Mesur i arfer yr un pwerau ymyrryd dros y gwasanaethau cymdeithasol ag sydd ar hyn o bryd ym maes addysg o dan Ddeddf Addysg 1996. Bydd hynny’n rhoi i ni mwy o hyblygrwydd o ran mathau o ymyriadau. Ni chaiff y pwerau hyn eu harfer heb ymgynghori’n fanwl â llywodraeth leol yng nghyd-destun y protocol ymyrryd fel ag y mae.

Mae’r Mesur yn dangos bod Lloegr yn dilyn Cymru o ran creu Comisiynydd Plant, er y bydd sail Comisiynydd Lloegr yn wahanol i’r sail yma yng Nghymru. Does dim yn y Mesur a fydd yn lleihau pwerau Comisiynydd Plant Cymru. Fe fydd angen i’r ddau Gomisiynydd, fodd bynnag, gydweithio’n agos i sicrhau eglurder y swyddogaethau nad ydynt wedi’u datganoli.

Mae’n dda gennyf hefyd nodi bod diddordeb wedi bod yn y senedd i ddiwygio amddiffyniad cosbedigaeth resymol i rieni sy’n taro’u plant. Dyma gychwyn da. Mae Llywodraeth y Cynulliad bob amser wedi datgan yn glir ei bod yn gwrthwynebu cosbi plant yn gorfforol ac edrychwn ymlaen at y cyfle hwn.

Yn olaf, fe fydd nifer o ddarpariaethau manwl yn ymwneud â materion megis cofrestru darparwyr gofal dydd, talu aelodau paneli mabwysiadu a chymorth ariannol am fod yn rhiant. Bydd y Gorchmynion Diogelwch Plant hefyd yn cael eu diwygio er mwyn caniatáu ymyrryd yn gadarnhaol i fynd i’r afael ag ymddygiad plant o dan 10 sy’n cyflawni’r hyn a fyddai’n drosedd petaent dros oedran cyfrifoldeb troseddol. Nid yw Gorchmynion Diogelwch Plant yn fater wedi’i ddatganoli ac mae’n effeithio ar Gymru a Lloegr.

Rhoddwyd sylw mawr i wasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ddiweddar. Bu hwnnw’n sylw negyddol yn aml iawn. Mae llawer o arferion da a gwaith llwyddiannus ar y cyd hefyd yn digwydd ymhlith staff ymroddedig ac mae angen i ni feithrin hynny. Credaf fod y Mesur Plant yn gyfle pwysig i symud ymlaen i’r cyfeiriad a bennwyd eisoes o ran ein polisïau yma yng Nghymru. Fe’i cymeradwyaf i’r aelodau.