Skip to content

Datganiad ar Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Jane Hutt): Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ar 20 Tachwedd 2003. Cyflwynwyd y Mesur yn y Senedd ym Mawrth 2003, ac yr oedd yn un cymhleth ac ynddo fwy na 200 o gymalau ac atodlenni, yr oedd 37 ohonynt yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â Chymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi arf hollbwysig i’r Cynulliad i sicrhau gofal iechyd o ansawdd gwell yng Nghymru. Mae’n rhoi pwer i baratoi a chyhoeddi datganiad safonau y bydd yn rhaid i bob corff yn GIG Cymru ei ystyried wrth gyflawni ei ddyletswydd i fonitro a gwella ansawdd mewn gofal iechyd. Llunnir y safonau yng ngoleuni cyngor gan gyrff fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol, y colegau brenhinol, a’r Asiantaeth Genedlaethol dros Ddiogelwch Cleifion, a byddant yn ystyried fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol. Ymgynghorwn yn llawn cyn cyhoeddi’r safonau.

Yng nghyfarfod cyntaf fforwm ansawdd Cymru, a gynhaliwyd ym mis Ionawr, tynnwyd sylw at yr ymrwymiad parhaus a geir i weithio ar y cyd i wella ansawdd y gofal am gleifion yn y GIG drwyddo draw yng Nghymru a Lloegr. Bwriadwn sefydlu bwrdd ymgynghorol ar safonau gofal iechyd yng Nghymru, i reoli’r broses o gadarnhau’r safonau sydd i’w cynnwys yn y datganiad safonau, ac i roi cyngor a chymorth proffesiynol i’r Cynulliad. Mae’r pwer i osod safonau’n gysylltiedig â phwer arall a roddir i fonitro ac adolygu perfformiad yn ôl y safonau hynny. Gan hynny, mae’r Ddeddf yn galluogi’r Cynulliad i gynnal adolygiadau o’r gofal iechyd a ddarperir gan gyrff GIG Cymru, ac i ymchwilio iddo. Byddwn yn sefydlu arolygiaeth newydd—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—i ymgymryd â’r swyddogaethau hynny a arferid o’r blaen ledled Cymru a Lloegr gan y Comisiwn Gwella Iechyd.

Sicrheir cywirdeb annibynnol swyddogaethau arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru drwy ddirprwyaethau a phrotocolau ffurfiol. Drwy roi’r pwerau a’r cyfrifoldebau hyn i’r Cynulliad, mae’r Ddeddf yn sicrhau y gallwn roi sylw i a monitro blaenoriaethau iechyd sy’n neilltuol i Gymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu comisiwn newydd i archwilio ac arolygu gofal iechyd, y bydd ganddo swyddogaethau yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un modd ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu ac yn ymchwilio i’r gofal iechyd a ddarperir gan neu ar ran cyrff GIG Cymru, bydd y Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd yn adolygu ac yn ymchwilio i ofal iechyd a roddir gan neu ar ran cyrff GIG yn Lloegr. Yn ogystal â hynny, bydd y comisiwn yn ymgymryd ag astudiaethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr o fathau penodol o ofal iechyd yng Nghymru a Lloegr. Mae Dr Sharon Hopkins, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol dros y De-ddwyrain, wedi’i phenodi’n gomisiynydd y Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd â chyfrifoldeb dros fuddiannau Cymru.

Gan droi at wasanaethau cymdeithasol, rhoddir pwerau newydd i’r Cynulliad o dan y Ddeddf i sicrhau y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu gwerthuso, eu hadolygu a’u monitro’n effeithiol yng Nghymru. Mae’n bwysig inni gael darlun cynhwysfawr o’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, a’u llwyddiant wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol. Arferir y pwerau hynny ar ran y Cynulliad gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Yn yr un modd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sicrheir cywirdeb annibynnol swyddogaethau arolygu Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru drwy ddirprwyaethau a phrotocolau ffurfiol.
Bydd y pwerau newydd yn fodd i wella ymhellach ein dull o reoli perfformiad ar sail tystiolaeth ac i wella gwasanaethau cymdeithasol yn barhaus. Yr un fydd egwyddorion craidd y trefniadau adolygu ac arolygu yng Nghymru â rhai’r arolygiaeth newydd i Loegr—y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol. Bydd y ddau’n seiliedig ar yr un egwyddorion o ddiogelu rhai sy’n agored i niwed, hybu byw’n annibynnol, a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Cynulliad hefyd i wneud ei reoliadau ei hun ynghylch gweithdrefnau cwyno, mewn cysylltiad â gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bwriadwn ei gwneud yn haws i’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol weithio gyda’i gilydd ar gwynion sydd o ddiddordeb cyffredin iddynt ac, yn wahanol i’r hyn a ddigwydd yn Lloegr, bydd cwynion sydd heb eu datrys yn cael eu hadolygu gan banel annibynnol, gyda’r posibilrwydd o droi wedyn at ombwdsmon y gwasanaeth iechyd neu ombwdsmon llywodraeth leol.

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno newidiadau i’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol a ddaw â budd i ymarferwyr cyffredinol, gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill, a chleifion. Ceir buddsoddi na fu erioed ei fath o’r blaen mewn gofal sylfaenol. Bydd contractau newydd rhwng byrddau iechyd lleol a phractisiau, yn hytrach na meddygon teulu, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i bractisiau; a bydd mesurau newydd i sicrhau y caiff cleifion fwy o ddewis, mynediad i fwy o amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd da, a mwy o driniaeth yn y gymuned. Ym mis Hydref, cyhoeddais becyn mesurau gwerth £7 miliwn i wella gofal iechyd sylfaenol ledled y wlad, gan gynnwys y cam cyntaf tuag at sicrhau mynediad at aelod o’r tîm gofal iechyd sylfaenol o fewn 24 awr. Cyflwyno’r mesurau hyn, a elwir yn wasanaethau gwell, oedd dechrau’r gwaith o weithredu contract newydd y meddygon teulu, a fydd yn sicrhau gwasanaethau gofal sylfaenol gwell i Gymru.

Bydd newidiadau eraill yn gymorth i ddiwygio gwasanaethau gofal deintyddol sylfaenol yng Nghymru. Yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i wella’r gwasanaethau hyn drwy ‘Ffyrdd i Ddiwygio: Strategaeth ar gyfer Gofal Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru’, gan asesu’r effaith bosibl ar ymarferwyr, anghenion cleifion, fforddiadwyedd, a’r effeithiau o benderfynu ar drefniadau’n fwy lleol.

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer ehangu’r cynllun i adennill taliadau’r GIG. Amcangyfrifir y bydd hyn yn dyblu’r refeniw y mae’r cynllun yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Ailfuddsoddir y refeniw hwnnw’n uniongyrchol yn y GIG yng Nghymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno newidiadau i’r cynllun bwyd lles, a fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ragnodi’r bwydydd sydd i’w cynnwys yn y cynllun, yn unol â’n strategaeth maethu ‘Bwyd a Lles’.

I grynhoi, mae’r Ddeddf hon yn rhoi pwerau newydd pwysig i’r Cynulliad fel y gall hyrwyddo ei amcan o wella safonau cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Credaf y bydd y trefniadau newydd hyn yn ategu’r systemau newydd ar gyfer rheoli perfformiad a gwella sydd ar waith eisoes yng Nghymru. Bydd yn cynnig sylfaen gadarn i wella iechyd a lles pobl Cymru.